Rownd Gomisiynu Podlediadau Cymraeg: Chwefror 2025
Sut i greu cynnig yn Proteus
Ewch i change language i’r dde ar dop y sgrîn, a dewiswch Cymraeg.
Dewiswch Commissions ac yna Create a Proposal (mae’r ffurflen ei hun yn Gymraeg ar ôl hyn).
Rhowch deitl i’ch cynnig, ac yna dewis:
Rhwydwaith: Wales – Radio Cymru Podcast Network
Blwyddyn Gomisiynu / Rownd: 2025-26 / 1 – Podlediadau Cymraeg: Rownd Gomisiynu 2025-2026
Brîff Comisynu: Dewiswch yr hyn sydd fwyaf addas
*** Gwiriwch eich bod wedi dewis y rhwydwaith a’r rownd cywir os gwelwch yn dda.
Os ydy’ch cynnig chi’n mynd i’r rhwydwaith neu i’r rownd anghywir ni fyddwn ni’n ei weld.***
Adran “Wedi’u gynnig”
Llenwch y wybodaeth yngl欧n a nifer y penodau, hyd a phris.
Meini Prawf Amrywiaeth a Chynhwysiant
Nid yw’r adran yma’n orfodol wrth gyflwyno cynnig i ni ar hyn o bryd – dewiswch “not known”.
Cynhyrchydd: Rhowch enw yn y blwch yma os gwelwch yn dda.
Dyddiad derbyn: Rhowch ddyddiad rydych chi’n meddwl sy’n bosib
Crynodeb: Rhaid rhoi Crynodeb byr. Defnyddiwch y Crynodeb Llawn i ddarparu mwy o fanylion.
Ychwanegwch unrhyw fanylion perthnasol yn yr adran Amrywiaeth a Chynhwysiant a’e adran Syniadau aml-gyfryngol.
PWYSIG: Cyflwyno’r syniad
Ar ôl llenwi’r adrannau perthnasol dewiswch Arbed fel Drafft ar waelod y sgrîn.
Bydd tudalen newydd yn agor. Gwiriwch y drafft ac os yn hapus ewch i waelod y dudalen a phwyswch Cynnig i'r Adran.
Yna ewch i waelod y dudalen eto a phwyswch Cynnig i’r Rhwydwaith.
*** Gofalwch eich bod yn cynnig y syniad i’r Rhwydwaith os gwelwch yn dda. Ni fyddwn ni’n gweld rhaglenni sydd wedi eu cynnig i’r adran yn unig. Os ydych chi’n aelod o staff Radio Cymru ac yn methu cynnig y syniad i'r rhwydwaith yna gadewch i radiocymruamserlennu@bbc.co.uk wybod er mwyn i ni wneud drosoch chi.***
Fe fydd y rownd yn cau am ganol dydd yn ddi-ffael.
Trwy Proteus yr hysbysir pawb am ganlyniadau’r rownd gomisiynu. Er mwyn gweld y wybodaeth berthnasol i chi mae angen i chi logio i fewn i Proteus a mynd i’r cynnig / cynigon unigol i weld unrhyw negeseuon.
Diolch.