成人快手

Comisiynu Radio Cymru

Cyflwyniad

Dyma wybodaeth am brosesau comisiynu 成人快手 Radio Cymru a phodlediadau Cymraeg 成人快手 Sounds.

Radio Cymru yw’r orsaf radio Gymraeg genedlaethol. Ein huchelgais yw bod yn wasanaeth pwysig ac yn gwmnïaeth i gynulleidfaoedd sy’n siarad Cymraeg.

Mae gennym dimau mewn canolfannau ar draws y wlad sy’n cynhyrchu ein rhaglenni. Rydym hefyd yn comisiynu rhaglenni dyddiol, wythnosol a chyfresi gan y sector annibynnol.

Caiff rhai rhaglenni eu darlledu drwy gydol y flwyddyn, tra bod eraill yn gyfresi am gyfnodau penodol neu’n cyd-fynd ag achlysur arbennig.

Rydym hefyd yn comisiynu podlediadau Cymraeg ar gyfer 成人快手 Sounds. Gall rhain amrywio o arddull sgwrs anffurfiol i gyfresi uchelgeisiol sy’n adrodd stori fawr. Fe fydd ein rownd gomisiynu podlediadau yn agor yn gynnar yn 2025.

Cyflwyniad Dafydd Meredydd, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg 成人快手 Cymru

Croeso i Rownd Gomisiynu 成人快手 Radio Cymru 2025-26. Mae'n fraint i ni gael cydweithio â gwneuthurwyr cynnwys annibynnol a mewnol - a dyma’r gri flynyddol am eich syniadau gorau chi.

Diolch yn fawr i bob un sydd wedi cyfoethogi ein hamserlen dros y flwyddyn ddiwethaf. Ers ein Rownd Gomisiynu ddiwethaf, rydym wedi cynyddu cyrhaeddiad ein cynulleidfa llinol a hefyd wedi cyrraedd ein cynulleidfa fwyaf erioed ar 成人快手 Sounds. Mae eich cyfraniad at y llwyddiant hwnnw'n cael ei werthfawrogi'n fawr.

Unwaith eto eleni, rydym yn chwilio am syniadau am raglenni sydd wedi eu gwreiddio yn yr heddiw ac sy’n arwain sgwrs genedlaethol gyfoes.

Er enghraifft, hoffem eich gwahodd i gynnig syniadau i gyd-fynd â thymor pan-成人快手 ym Merthyr Tudful i nodi 200 mlynedd ers i'r dref fod wrth wraidd y Chwyldro Diwydiannol. Ond yn hytrach na rhaglen neu gyfres am hanes yn unig, y cwestiwn yw sut mae’r gwreiddiau diwydiannol wedi siapio’r ardal a chymdeithas? Beth sydd yna i’w ddweud am y Gymru gyfoes?

Wrth gynnig eich syniadau, hoffem i chi hefyd ystyried strategaeth ddigidol, aml blatfform y 成人快手. Pa gynnwys sy’n mynd i greu argraff ar 成人快手 Sounds? Beth yw’r asedau fyddai’n marchnata’r rhaglenni ar y cyfryngau cymdeithasol? Pa straeon fydd yn creu cynnwys atodol ar Cymru Fyw? Ac oes yna linellau newyddion ynghlwm a’r rhaglen, i’w rhannu trwy wasanaethau digidol 成人快手 Cymru?

Felly, beth sydd ar gael eleni?

Y prif slot comisiynu yw’r slot hanner awr am 16:00 ar ddydd Sul. Plîs cynigiwch raglenni dogfen, nodwedd, drama, comedi ac adloniant - uchelgeisiol, cyffrous, creadigol, beiddgar a phell eu cyrhaeddiad i bob cynulleidfa Cymraeg eu hiaith. Yn gyffredinol, rhaglenni unigol fydd rhain, ond fe wnawn ystyried ambell gyfres fer yn y slot yma hefyd (3-4 rhaglen).

Felly dewch a lleisiau newydd neu fformat newydd ar gyfer wynebau mwy cyfarwydd. Plymiwch yn ddwfn i'r materion sy'n ein poeni fel cenedl neu beth am greu fformat adloniant newydd sbon? Rydym yn chwilio am dalent, meysydd diddorol a chysyniadau uchelgeisiol.

Unwaith eto, bydd rhai o’n strands wythnosol sy’n cael eu cynnig fel comisiynau eleni, ac mae mwy o wybodaeth ar gael am rhain ar y wefan yma.

Ac mae gwerth yn hanfodol. Unwaith eto eleni mae'r hinsawdd ariannol yn anodd, â’r Rownd Gomisiynu wedi ei gosod yn erbyn cefndir o chwyddiant a setliad ffi'r drwydded llai na’r disgwyl. Yn gynharach eleni fe soniodd Tim Davie am yr heriau cyllidebol sy’n wynebu’r 成人快手. Mae cyllideb Radio Cymru, fel cyllidebau ar draws y gorfforaeth, dan bwysau sylweddol. Y brif effaith ar ein Rownd Gomisiynu yw na fyddwn yn gwahodd syniadau ar gyfer rhaglenni cerddoriaeth am 19:00 ar nosweithiau Sul ar gyfer 2025/26.

Rydym yn gobeithio y bydd eich ymateb i’r rownd yma yr un mor ddyfeisgar, ysbrydoledig a dychmygus ag erioed. Yn y cyd-destun yma, rydym yn benderfynol y bydd Radio Cymru yn parhau i arloesi, mentro a chynrychioli pob rhan o Gymru.

Fe sylwch fod ein Rownd Gomisiynu ar gyfer Podlediadau ar wahân i'r rownd yma – a bydd yn agor yn gynnar yn 2025.

Cofiwch fo’r wefan yma'n cynnig cyngor ar bopeth o pa gomisiynau sydd ar gael i sut i gofrestru gyda’r 成人快手 a chyngor ar sut i gael mynediad i’r system Proteus hollbwysig. Y bwriad yw fod y wefan yn cynnig adnodd sy’n rhoi mynediad rhwydd i wybodaeth hanfodol am ddarparu rhaglenni i Radio Cymru.

Os oes cwestiwn pellach ganddo chi, plîs cysylltwch â syniadau@bbc.co.uk

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich syniadau ydi hanner dydd ar ddydd Mercher y 6ed o Dachwedd 2025.

Mae'n bleser eich gwahodd i gydweithio â ni ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at dderbyn a thrafod eich syniadau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Amserlen rownd gomisiynu 2025/26

3 Hydref – Agor y rownd

6 Tachwedd – Cau y rownd (am hanner dydd)

18 Tachwedd – Rhoi gwybod i gwmnïau os yw eu syniadau wedi cyrraedd ail ran y broses

25 – 29 Tachwedd – Cyfweld a thrafod syniadau gyda’r tîm

Byddwn yn ymdrechu i ddod i benderfyniadau cyn y Nadolig, ond yn ddibynnol ar nifer y cynigion mae’n bosib na fyddwn yn gallu cadarnhau rhai rhaglenni tan fis Ionawr.

Tîm comisiynu Radio Cymru

Dyma’r tîm sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â chomisiynu.

Mae croeso i gynhyrchwyr drafod yn anffurfiol gydag aelod o’r tîm comisiynu cyn mynd ati i gyflwyno cynnig yn llawn.

Dafydd Meredydd, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg 成人快手 Cymru
Dafydd sy’n arwain timau Radio Cymru a Cymru Fyw, ac yn cynrychioli’r gwasanaethau Cymraeg ar Fwrdd 成人快手 Cymru.

Yn ddarlledwr a chynhyrchydd profiadol, mae gan Dafydd brofiad helaeth o gyflwyno a chreu rhaglenni radio o bob math.

Gruffudd Pritchard, Golygydd Cynnwys
Mae gan Gruff drosolwg o gynnwys gwasanaethau Radio Cymru, Radio Cymru 2, adran gylchgrawn Cymru Fyw a chynnwys Cymraeg 成人快手 Sounds.

Gareth Iwan Jones, Uwch-gynhyrchydd
Mae Gareth yn gyfrifol am amrywiaeth o raglenni’r orsaf o ganolfan Bangor, ac mae ganddo arbenigedd mewn rhaglenni cerddoriaeth a llafar.

Sioned Lewis, Uwch-gynhyrchydd
Mae Sioned yn gyfrifol am amrywiaeth o raglenni’r orsaf o ganolfan Caerdydd, ac mae ganddi arbenigedd mewn rhaglenni llafar a dogfen.

Cerian Arianrhod, Rheolwr Darlledu
Yn gynhyrchydd profiadol, mae Cerian bellach yn arwain tîm darlledu Radio Cymru ac yn sicrhau bod ein rhaglenni yn cyrraedd y gynulleidfa ar y radio ac ar 成人快手 Sounds.

Catrin Huws, Rheolwr Cynhyrchu
Yn ogystal â rheoli elfennau ymarferol a chynyrchiadau Radio Cymru, mae Catrin yn rhan o dîm golygyddol a chomisiynu’r adran ac yn gweithio gyda chynhyrchwyr o’r sector annibynnol i gynnig arweiniad pendant ar raglenni.

Cyfleoedd comisiynu 2025/26

Comisiynau hir dymor

Mae’r cyfresi yma’n darlledu trwy’r flwyddyn a’n rhan bwysig o’n amserlen. Mae cwmnïau cynhyrchu eisoes yn cynhyrchu yn slot y rhaglenni yma, ond rydym wastad yn fodlon trafod syniadau ac enwau newydd fel rhan o rownd gomisiynu agored.

Wrth wneud cais i gynhyrchu’r rhaglenni yma, fe fyddwn yn gofyn am dystiolaeth o allu cwmnïau i ddarparu rhaglen greadigol ar sail hir dymor, a’r gallu i reoli’r holl ofynion gweinyddol a chyllidebol ddaw gyda hynny.

Mae croeso i chi gysylltu gyda ni am sgwrs cyn cyflwyno cais ar gyfer y rhaglenni yma.

Rhaglen sy’n trafod materion amaethyddol a’r Bwletin Amaeth (Pob bore Sul am  07:00)

Fe fydd y rhaglen amserol yma’n canolbwyntio ar faterion sy’n bwysig i'r sector amaethyddol ac i gymunedau gwledig yng Nghymru.

Dylai’r rhaglen fod yn hyderus i drafod pob agwedd o’r meysydd yma, gan gynnwys materion gwleidyddol, digwyddiadau lleol a’n cyflwyno i unigolion sy’n arloesi.

Mae cynrychioli lleisiau a safbwyntiau amrywiol rhan hanfodol o’r gyfres. Dylai’r rhaglen ein cyflwyno’n gyson i unigolion sy’n arloesi a’n gwneud gwahaniaeth o fewn y sector amaethyddol a’i chymunedau.

Troi’r Tir sy’n darlledu yma ar hyn o bryd.

Mae'r comisiwn yma hefyd yn gofyn i gwmni ddarparu ein Bwletin Amaeth dyddiol caiff ei ddarlledu ar raglen John Hardy. Mae’r pecyn yma’n hyd at 5 munud o hyd, a’n cynnig y newyddion diweddaraf o’r sector amaethyddol. Dylai pob bwletin adlewyrchu materion amaethyddol cyfredol y dydd a chynnwys lleisiau arbenigol o’r sector.

Mae croeso i chi gysylltu gyda ni i drafod y cyfle yma ymhellach.

Pris: I’w drafod

Ar Eich Cais (Pob nos Sul am 20:00)

Mae Ar Eich Cais wedi bod gwmnïaeth a chysur i gynulleidfaoedd nosweithiau Sul ers degawdau. Dyma raglen sy’n boblogaidd ymysg ein cynulleidfa h欧n yn enwedig, a’n gymysgedd o geisiadau cerddorol a chyfarchion y gwrandawyr.

Er nad ydym yn chwilio i wneud newid golygyddol penodol o fewn y rhaglen, rydym fel pob tro yn awyddus i glywed syniadau newydd.

Rhys Meirion yw cyflwynydd presennol y gyfres.

Pris: I’w drafod

Cyfresi byr neu raglenni unigol

Rhaglenni 27 munud amrywiol

Rhaglenni dogfen, nodwedd, adloniant a chomedi hanner awr ar gyfer 16:00 ar y Sul

Rydym yn chwilio am ystod eang o straeon, pynciau a fformatau. Rydym eisiau adrodd straeon sy’n rhoi llais i gymunedau a lleisiau amrywiol ac yn adlewyrchu bywydau pobl ym mhob rhan o’r wlad.

Mae gennym ddiddordeb mewn rhaglenni sy’n craffu ar le Cymru yn y byd ac yn ysgogi sgyrsiau difyr am y wlad. Mae syniadau sy’n cynnig mynediad at unigolion diddorol hefyd yn apelio.

Boed thema’r rhaglen yn ddwys neu’n ysgafn, mae’n bwysig bod yna gynhesrwydd a diffuantrwydd yn y gwrando a bod y themâu yn rhai y gall cynulleidfa eang uniaethu â nhw.

Rydym yn chwilio am rai rhaglenni i gyd-fynd â digwyddiadau amserol fydd o ddiddordeb i’n cynulleidfa, neu raglenni sy’n cofnodi cerrig milltir hanesyddol o bwys.

Mae comedi ac adloniant yn rhan bwysig o arlwy Radio Cymru, ac eto eleni rydym yn chwilio am syniadau gydag apêl eang a fydd yn gwneud i wrandawyr ddod yn ôl i wrando dro ar ôl tro.

Wrth gynnig syniad ar gyfer dogfen yn enwedig, mae stori all ddal dychymyg y gwrandawyr o’r eiliad gyntaf yn bwysig.

Mae comedi da yn adlewyrchu hiwmor a byd y gynulleidfa. Rydym yn chwilio am amryw o fformatau sy’n rhoi llwyfan i leisiau cyfarwydd a newydd – o baneli cwis ysgafn i raglenni dychan.

Wrth gomisiynu’r rhaglenni yma, byddwn hefyd yn ystyried ein cynulleidfa ar 成人快手 Sounds a bydd gofyn am awgrymiadau dyfeisgar am hyrwyddo ar y llwyfannau digidol.

Hyd: 27 munud

Pris: £1675 - £4300

Dramâu hanner awr ar gyfer 16:00 ar y Sul

Rydym yn chwilio am sgriptiau mentrus a all ddal dychymyg cynulleidfa eang mewn amser byr. Mae cysyniadau cryf a naratif bachog yn helpu, yn enwedig gan ei fod yn fwriad gosod y dramâu hyn yng nghalon amserlen yr orsaf.

Fel pob rownd gomisiynu, nifer fach o ddramâu allwn ni eu comisiynu, felly wrth gyflwyno syniad am ddrama, byddai’n werthfawr cynnwys rhan o sgript sy’n cyfleu naws y cynnig.

Rydym yn chwilio am ddramâu unigol hanner awr o hyd yn bennaf, ond mae modd trafod syniadau am rai hirach.

Mae pris drama i’w drafod.

Hyd: 27 munud

Swyn y Sul

Rhaglenni ‘Swyn y Sul’

Mae 10:00-12:00 bob dydd Sul yn wledd o gerddoriaeth amrywiol, hamddenol a dyrchafol.

Mae’r gyfres yn gymysgedd o raglenni’r sector annibynnol a rhaglenni sydd wedi eu cynhyrchu’n  fewnol, ac mae’n deg dweud mai nifer cyfyngedig fydd ar gael eleni.

Pris: Hyd at £880

Hyd: Darlledir y rhaglen fel 2 ran o 56 munud

Dogfen cerddorol

Mae rhai cyfleoedd prin am raglen/ni dogfen cerddorol hefyd neu gyngherddau a all fod yn uchafbwyntiau yn ein hamserlen.

Dylai’r rhaglenni yma gynnig ymdriniaeth unigryw i stori neu ddigwyddiad cerddorol.

Pris: Pris fel y rhaglenni dogfen yn yr adran ‘Dogfen a rhaglenni llafar’

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: