Diweddarwyd y dudalen: 13 Rhagfyr 2021
Dyma beth gewch chi pan fyddwch chi’n cofrestru gyda’r ³ÉÈË¿ìÊÖ. Mae'n bersonol i chi ac yn eich helpu i gael mwy gan y ³ÉÈË¿ìÊÖ. Byddwch hefyd angen un er mwyn defnyddio ³ÉÈË¿ìÊÖ iPlayer a rhai o'n apiau.
Bydd yr wybodaeth y byddwch yn ei darparu wrth gofrestru yn cael ei storio yn eich cyfrif er mwyn i chi allu ei gweld neu ei newid pryd bynnag hoffech chi.
Oes gennych chi gwestiynau am eich cyfrif ³ÉÈË¿ìÊÖ? Dyma rai llefydd i chwilio am yr ateb:
Pam cofrestru ar gyfer cyfrif ³ÉÈË¿ìÊÖ?
Mae’n eich helpu i gael y gorau o’r ³ÉÈË¿ìÊÖ. Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi i’ch cyfrif, gallwch:
- Gwylio a gwrando ar bethau ar ³ÉÈË¿ìÊÖ ar-lein, gan gynnwys ³ÉÈË¿ìÊÖ iPlayer, ³ÉÈË¿ìÊÖ Sounds a pheth chwaraeon byw
- Ychwanegu rhaglenni a chynnwys i’w mwynhau’n ddiweddarach
- Cael argymhellion wedi eu teilwra i chi
- Cael hysbysiadau am bethau sydd o ddiddordeb i chi
- Rhoi sylwadau ar straeon ³ÉÈË¿ìÊÖ News
- Pleidleisio ar gyfer rhaglenni fel Strictly Come Dancing
- Dod yn WeatherWatcher.
Ac nid dyna’r cyfan
Pan fyddwch wedi mewngofnodi i’ch cyfrif, byddwch hefyd yn cael profiad mwy cydgysylltiedig o’r ³ÉÈË¿ìÊÖ. Er enghraifft, os byddwch yn rhoi saib ar raglen iPlayer ar eich ffôn, byddwch yn gallu parhau â'r gwylio o’r fan honno ar eich gliniadur.
Rhagor o wybodaeth am yr hyn mae eich cyfrif ³ÉÈË¿ìÊÖ yn ei roi i chi.