成人快手

Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn egluro dadelfennu, sy'n rhan bwysig o ddatrys problemau i fyfyrwyr ac yn ffordd iddynt ddefnyddio sgiliau meddwl allweddol.

Nodiadau athrawon

Dadelfennu yw'r weithred o dorri problem gymhleth lawr yn gyfres o dasgau haws eu trin. Rydyn ni'n gwneud hyn bob dydd wrth wneud pethau fel coginio neu wisgo ein dillad. Rydyn ni'n dilyn set o gyfarwyddiadau mewn trefn benodol er mwyn cyflawni'r hyn rydyn ni ei eisiau.

Mae set syml o gyfarwyddiadau gam-wrth-gam hefyd yn cael ei alw'n algorithm. Gallwch chi ysgrifennu algorithm fel siart llif sy'n dangos y camau gwahanol yn y drefn sydd angen eu cyflawni.

Gallwn ni ddadelfennu tasgau addysgol ac ysgrifennu algorithmau ar gyfer eu cyflawni. Mae'n bosib torri traethawd lawr mewn i gyflwyniad, prif gorff a chasgliad. Yna gellir torri'r rhain lawr i baragraffau ac mae pob un angen prif bwynt, tystiolaeth i'w gefnogi a brawddeg i gloi.

Mae'r clip hwn yn disgrifio ymarfer sy'n galw am ddadelfennu a chreu algorithm. Yn yr ymarfer 鈥渁thro-robot鈥 mae'r dosbarth yn ysgrifennu set o gyfarwyddiadau i athrawon eu dilyn er mwyn cyflawni tasg. Gan nad yw'r myfyrwyr yn aml yn rhoi'r cyfarwyddiadau cywir y tro cyntaf, mae'n rhaid iddyn nhw eu cywiro tan fod y dasg wedi ei chyflawni'n llwyddiannus.

Mwy o'r gyfres hon:

Llythrennedd gwybodaeth a data. video

Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn siarad am bwysigrwydd llythrennedd data, sef y gallu i ddarllen, deall, creu a chyfleu data fel gwybodaeth.

Llythrennedd gwybodaeth a data

Hunaniaeth, delwedd ac enw da. video

Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn egluro pam ei bod hi'n bwysig i fyfyrwyr wybod sut i warchod eu hunaniaeth ar-lein.

Hunaniaeth, delwedd ac enw da

Iechyd a lles. video

Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn trafod pa mor bwysig yw hi i fyfyrwyr ddysgu sut i ryngweithio ar-lein.

Iechyd a lles