成人快手

Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn trafod pa mor bwysig yw hi i fyfyrwyr ddysgu sut i ryngweithio ar-lein.

Mae'n egluro bod yr hyn rydyn ni'n ei wneud mewn bywyd yn effeithio ein iechyd a'n lles. Mae'r un peth yn wir am ein bywyd ar-lein - mae angen i ni fod yn ofalus beth rydyn ni鈥檔 ei wneud ac yn edrych arno. Yn aml, mae'r hyn sy'n cael ei gyflwyno ar-lein yn stereoteip sydd ddim yn cynrychioli realiti.

Nodiadau athrawon

Mae angen i fyfyrwyr allu gwahaniaethu rhwng y pethau maen nhw'n ei weld ar-lein sy'n wir a'r pethau sydd ddim yn wir. Gall algorithmau ddewis beth mae'r myfyriwr yn ei weld ar-lein sydd wedyn yn ei harwain i siambr atsain lle maen nhw ond yn gweld safbwyntiau sy'n debyg i'w gilydd.

Mae peryglon ar-lein eraill yn cynnwys stelcian seibr, aflonyddu a radicaleiddio.

Mae'n rhaid annog myfyrwyr i wneud sylwadau positif ar-lein. Dylen ni aros am funud cyn postio, yn union fel y dylen ni feddwl cyn siarad. Mae cynnwys ar-lein negyddol yn annerbyniol a weithiau'n anghyfreithlon.

Mwy o'r gyfres hon:

Hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth. video

Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn egluro pa mor bwysig yw hi bod myfyrwyr yn deall rheolau hawlfraint ar-lein.

Hawliau digidol, trwyddedu a pherchenogaeth

Ymddygiad ar-lein a seibr-fwlio. video

Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Rhys ap William yn trafod sut i gael myfyrwyr i adnabod ymddygiad ar-lein negatif.

Ymddygiad ar-lein a seibr-fwlio

Cyfathrebu. video

Yn y ffilm fer hon i athrawon mae Jennifer Jones yn trafod yr angen i annog dysgwyr i wneud y gorau o'r offer cyfathrebu digidol sydd ar gael iddyn nhw.

Cyfathrebu