Lluniau a fideos o'r Sesiwn Unnos gyda Steffan Cravos a Gwilym Morus.
Artist y clawr
Artist gwadd yr wythnos yma ydi Monso "monsito" Monson - Cymro o ardal Aberystwyth sy'n byw yn Barcelona. Mae e'n gweithio yn y byd ffasiwn i gwmniau fel Zara, Next a Converse ac ma ganddo'i linell ffasiwn ei hun, bego4monso. Un o'i hoff ddisgrifiadau o'i hun ydi hwn, gan y cylchgrawn 'abuse' - "monsomonson is not just an artist...he's a mental state!"
Roedd Monso'n gweithio'n galed ar waith celf y clawr tra'n cael blas o waith y band drwy wylio camerau gwelif byw o'r stiwdio ar wefan Unnos. Dyma sylwadau Monso ar gydweithio ar Sesiwn Unnos -
"fi 'di mwynhau m芒s draw...mae'r project wedi agor fy llygaid ar y byd miwsig. Mae'n fraint cael gweld pobl fel Gwilym a Steffan yn y stiwdio yn recordio'n fyw...ac yn fraint cael siawns i arlunio'r EP! O ni 'di clywed gwaith Gwilym ar youtube, rwy'n edrych am miwsic Cymraeg yn amal oherwydd chi ddim yn clywed lot fan hyn yn Sbaen!! Ac rwyn siwr fy mod i wedi gweld gwyneb Steffan rownd Caerfyrddyn pan on i'n coleg yna!! Mae project Unnos Radio Cymru yn project arbennig iawn, prosiect sydd yn gwthio byd miwsic i pethau newydd!
Ac mae'n rhoid pwyslais ar yr athroniaeth bod wastad amser i neud y pethau chi wastad eisiau neud!! Fel arluniwr mae hi'n bleser rhannu prosiect gyda'r cerddorion ac wrth gwrs gyda Radio Cymru! Diolch yn fawr am feddwl ohona i!!
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.
Sesiynau Unnos
- Sesiwn Unnos 13: Georgia Ruth Williams, Euron J么s, Carwyn Ellis a Luca Guernieri (Colorama), Eryl Jones a Sion Richards (Jen Jeniro), Ifan Dafydd
- Sesiwn Unnos 12: MC Mabon, Tesni Jones, Ceri Bostock, Ed Holden a Dave Wrench
- Sesiwn Unnos 11: Gai Toms, Idris Morris Jones, Neil Maffia, Nei Karadog, Ifor ap Glyn ac Alex Moller
- Sesiwn Unnos 10: Trwbador, Eilir Pierce a Seiriol Cwyfan
- Sesiwn Unnos 9: Steffan Cravos a Gwilym Morus
- Sesiwn Unnos 8: Yr Ods, Carwyn Kim De Bills, Gerallt Ruggiero a Gwion Llewelyn
- Sesiwn Unnos 7: Cowbois Rhos Botwnnog a Karen Owen
- Sesiwn Unnos 6: Race Horses
- Sesiwn Unnos 6: Remicsys Race Horses
- Sesiwn Unnos 5: Y Gwylanod
- Sesiwn Unnos 4: S诺n Du
- Sesiwn Unnos 3: Mr Huw a Dilwyn Llwyd
- Sesiwn Unnos 2: Lovgreen a Lisa Jen
- Sesiwn Unnos 1: Pen-ta-Gram a Gwibdaith
- Cofnodion Blog C2
- Rhaglen Sesiwn Unnos ar 成人快手 iPlayer
Haia Un o fy hoff CDs o 2012 oedd un nes i ...