Main content

Am y Gerddorfa

Dewch i wybod popeth am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y 成人快手

Fact title Fact data
Cartref:
Neuadd Hoddinott y 成人快手
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Mart铆n
Arweinydd Llawryfog
Tadaaki Otaka CBE
Cyfansoddwr Cyswllt
Gavin Higgins
Flaenwr Cerddorfa
Lesley Hatfield
Cyfarwyddwr
Lisa Tregale
Noddwr
HRH King Charles III KG KT PC GCB

Cysylltu

Ebost: now@bbc.co.uk

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y 成人快手 (成人快手 NOW), yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae hefyd yn gwasanaethu fel llysgennad ar ran diwylliant Cymru – yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, ac yn hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o 成人快手 Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae 成人快手 NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei brosiectau addysg a gwaith maes.

Mae 成人快手 NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y 成人快手 a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth 成人快手 Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y 成人快手: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan 成人快手 NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y 成人快手 a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Children in Need.

Wedi’I leoli yn Neuadd Hoddinott y 成人快手 ym Mae Caerdydd, mae 成人快手 NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth 成人快手 NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd.

Neuadd Hoddinott y 成人快手

Mae perthynas y Gerddorfa ag Alun Hoddinott ar gof a chadw yn yr hyn fu鈥檙 datblygiad pwysicaf i鈥檙 Gerddorfa yn y degawd yma: ymfudo i Neuadd Hoddinott y 成人快手 ym mis Ionawr 2009, sydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd.

Mae鈥檔 debyg mai dyma un o鈥檙 darpariaethau ymarfer a stiwdio mwyaf soffistigedig i gerddorfa ym Mhrydain a stiwdio ymarfer a recordio ydi鈥檙 neuadd yn bennaf, ond mae hefyd yn rhoi lle i gynnal cyngherddau i gynulleidfaoedd oddeutu tri chant a hanner.

Mae鈥檙 Neuadd hefyd yn cynnwys cyfleusterau mwy soffistigedig ar gyfer gwaith allgyrch. Mae Stiwdio Grace Williams, sy鈥檔 gallu dal hyd at drigain o bobol, yn croesawu gweithdai ac ymarferion gan weithio fel canolfan gwaith allgyrch o fri鈥檙 Gerddorfa a鈥檙 Corws.

Ymuno 芒'r Gerddorfa

Mae cystadlu brwd am lefydd yn y gerddorfa ac mae gofyn clyweliadau a chyfnod prawf. Hysbysebir llefydd gwag yn y gerddorfa ar . Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddod am glyweliad. Hysbysebir llefydd gwag rheolwyr ar聽.

Am ragor o wybodaeth ynghylch clyweliadau a phrofion anfonwch e-bost i now@bbc.co.uk