Main content

Cerddi Y Rownd Gyn-Derfynol

1 Trydargerdd: Iaith Arwyddion

Crannog

Rhwng Porth Tywyn a Chaergybi,
Castell Nedd a’r Felinheli,
Rhwng Bae Colwyn a Rhydaman
Rhaid oedd croesi pont Trefechan.

Gillian Jones 9.5

Tir Iarll

Dwylo all neb eu dilyn - yw’n rhai i,
dwylo’r awen gyndyn,
drwy’r dywedwr da wedyn
daw dwy law o hyd i lun.

Tudur Dylan Jones 9

Cynigion ychwanegol

Dere, dywed y ‘deryn, ehedwn
trwy’n byd a chawn esgyn
a myned yn rhydd wedyn
heibio’r allt dros bant a bryn.

Mae arwyddion ein lonydd yn esgor,
ar gymysgiaith newydd,
nid iaith ddel ond cawdel cudd
yw Googyleg heolydd

Mwyach y mae’r cyfieithydd
heibio’i sell-by-date
a ieithwedd ein hyfory
ar Google-translate.

2 Cwpled caeth ar yr odl ‘in’

Crannog

Gonestrwydd llawn y grawnwin
yw’r hyn a geir yn y gwin,

Philippa Gibson 9

Tir Iarll

Nid yw’r ward yn ‘faes y drin’;
Dwi’n feddyg, nid yn ‘fyddin’.

Emyr Davies 9.5

Cynigion ychwanegol

Yn y ffald o fewn hen ffin
yn Nyfed mae ‘nghynefin.

Un llef ym mis Mehefin
alwai wlad i blygu glin.

Ym mhen y ffordd ma ‘na ffin
i werinos a brenin.

O ffos i ffos ger y ffin
y bedd yw diwedd byddin.

Geiriau lliw yw’r gorllewin,
Rhaff o iaith tu draw i’r ffin.

Cymodi ‘rwyf er cam-drin
Y diawled ar eu deulin.

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Pan fyddaf yn rhydd, rydw i’n addo’

Crannog

Pan fyddaf yn rhydd, rydw i’n addo
fe af i at bawb a’u cofleidio
yn dyn wrth fy mynwes
a’u llyo nhw’n gynnes
pe base’n nhw moyn 'ny neu beidio.

Eirwyn Williams 8.5

Tir Iarll

Pan fyddaf yn rhydd rydwi’n addo
Yr af lawr i’r traeth unwaith eto,
‘Da’r dyrfa bob dydd
Gan nofio mewn ffydd
Na fydd yr ail don yn ymffurfio.

Emyr Davies 8

Cynigion ychwanegol

Pan fyddaf yn rhydd ‘rwyf yn addo
nad af i i Baku fyth eto,

rôl siwrne a hanner
cyrhaeddais ddydd Gwener
a chael fod y gêm wedi’i chanslo.

Pan fyddaf yn rhydd, rydw i’n addo
Fe af â chi gyd i Landudno,
Fe safies i bunnoedd
Tra’n gaeth mewn stafelloedd,
Fe wariwn y cwbwl ar Bingo.

Pan fyddaf yn rhydd, rydw i’n addo
Na soniaf ‘run gair am ddiheintio,

Na garddio, na beicio,
Na Zoom na choginio,
Dim ond cwtsho drwy’r dydd a breuddwydio Pan fyddaf yn rhydd, rydw i’n addo
mynd allan i’r byd i enjoio
a gwario yn ddedwydd
ar gwrs yn Nhy Newydd
i ddysgu am ‘Sut i Encilio’.

Pan fyddaf yn rhydd, rydw i’n addo
Parhau yn ferch dda a bihafio,
Gan wneud â’r rheole
Fel dwi’n gweld sy’ ore -

Dwi moyn bod yn ffrindie ’da Bojo

4 Cywydd Gofyn (rhwng 12 a 18 llinell)

Crannog

A yw Duw o blaid y da?
ai un ‘r’ sydd yn Syria?
a phaham nad yw Mami
yn galw Dat i’m gweld i?
a yw Nain yn cysgu’r nos?
a yw hiraeth am aros?

yn y nef a oes crefydd?
oes unifforms yn y ffydd?
yn y t欧, yn grwtyn tal,
i fwyd ga’i wisgo’r fedal?
Mi fydda i’n filwr gwrol
trwy y nos, fydd dim troi’n ôl.

A wy’n dwp? pryd mae swper?
ai’r S.A.S. bia’r sêr?
beth yw’r sgôr? pryd mae fory?
a ydyw Duw yn ddyn du?
pwy sydd fanco’n gwisgo gwyn?
a gaf-i...? Dim ond gofyn.

Idris Reynolds 9.5

Tir Iarll

Croesi Dyled Mehefin 1940.

Annwyl Syr, yn ôl y sôn,
â’r haf yn dymor ofon,
cest fenthyciad: un wlad las,
un mynydd yn gymwynas
a Phabell heb ei phobol;
gofyn wyf, gaf i fe nôl?
Dwed, Frawd, o’th ranc cadfridog
a elli weld maint y llog,
y rhent tost sy’ arnat ti
i linach plant Cilieni?
Wyth degawd, Frawd, bu’r lle’n frith
â siel gwn, - sisial gwenith
ddylai fod ar y ddôl fach,
nodau alaw dawelach;
peintio ’nôl ein Hepynt ni
yn lân yw’n cais eleni,
a mynnwn nad hwn fydd haf
gwenoliaid y gân olaf.

Mererid Hopwood 10

5 Triban yn cynnwys y llinell ‘Tri pheth sy’n codi ‘nghalon’

Crannog

Tri pheth sy’n codi ‘nghalon
mewn cyfnod digon creulon,
er pob rhyw ofid ddaeth i mi
mae gennyf dri o wyrion.

John Rhys Evans 8.5

Tir Iarll

Tri pheth sy’n codi nghalon
Yw stent y llawfeddygon,
Y diffibriliwr a llond sach
O statins bach - rhag ofon.

Emyr Davies 8.5

Cynigion ychwanegol

Tri pheth sy’n codi ‘nghalon
Cael hwyl yng ngwmni’r wyrion,
Eu gweld nhw’n golchi’r llestri te
A’u hel sha thre yn brydlon.

Tri pheth sy’n codi ‘nghalon,
gweld cae o wartheg duon,

cael crwydro ar hyd llwybrau’r fro
a churo tîm y Saeson.

Tri pheth sy’n codi ’nghalon:
gweld eto fy nghyfeillion,
rhoi y plant i gyd mewn crèche
a sesh yn Aberaeron.

Tri pheth sy’n codi ’nghalon,
diheintydd, dwr a sebon
mae cof gen i, pan o’n i’n iau,
fod dau o'r rhain yn ddigon

Tri pheth sy’n codi ’nghalon,
dim sent na rhosys cochion,
na photel win, ond masg bach tynn,
a menyg gwyn a sebon

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Ailhyfforddi

Crannog

Cael ailhyfforddi’n ffarmwr fu bryd y cyn- A.S.,
roedd ganddo brofiad helaeth o adael gwlad mewn mess.
Dangosodd yn San Steffan, a phethau yn draed moch,
y gallai redeg busnes sydd wastad yn y coch.
Ond gwelodd wedi i’r costau i godi’n uwch ac uwch
fod godro’r wlad yn talu yn well na godro buwch,
cyn cofio fod cymhorthdal, er mwyn creu gwyrddach byd,
yn noddi ffermwyr amgen sy’n fodlon gwneud dim byd.
Roedd ganddo ddoniau gwleidydd i drin y ddafad froc
a throi’r mwyafrif llethol yn ddiddig mewn i’r lloc.
Fel cynt caiff siopa’n Tesco a phrynu bwydydd rhad
ac ni fydd byth well cyfle i ailwylltio cefen gwlad.
Caiff godi pentre gwyliau’n y perci tu ôl t欧,
a gwarchod y moch daear a gyrru J.C.B.
Os cauwyd rhai o’r llwybrau agorwyd ganddo ef
caiff bellach eu hailagor i’r cerddwyr ddaw o’r dref,
a threulio’r dydd yn llanw’r ffurflenni dwl, di-fudd
a oedd mor falch ohonynt mewn Senedd slawer dydd.
Yn Llundain bu yn aelod o glybiau mawr a mân
ond bellach mae’n llygadu llywyddiaeth Clwb Pont-Sian.

Endaf Griffiths 9

Tir Iarll

Rwy’n swyddog ail-hyfforddi o dan hyfforddiant,
Gan bod rheolau ail-hyfforddi’n rhai a gorddant

Y mwyaf amyneddgar o ail-hyfforddwyr yn ein plith,
Felly ni cheir bwrw ati i ail-hyfforddi’n syth.

Rhag ofn fod eisoes ddryswch am natur f’arswydus swydd
Ail-hyfforddi eraill fyddaf fi, sydd ddim yn rhwydd.

Ail-hyfforddais innau o fod yn hyfforddwr bywyd profiadol,
Fy niffyg profiad bywyd oedd y feirniadaeth adeiladol

A ges gan fy nghyflogwr yng nghwmni ‘Hyfforddi i Lwyddo!’.
Er iddynt gynnig hyfforddiant, derbyniais y diswyddo.

A dyma fi, o dan hyfforddiant wrthi’n prysur brentisio,
Ond mae elfennau o’r hyfforddiant nad oes modd eu polisho.

Er bod y cwrs yn ddifyr, er y dysgaf bethau bob dydd,
Mae cyffion yr hyfforddiant yn rhoi chwant im dorri’n rhydd

A chael dechrau ar fy ngyrfa o newid gyrfaoedd er gwell,
Ond mae ail-hyfforddi’r cyhoedd yn dal i fod mor bell

I lawr y lôn; mae hyn am bara am o leia tair mlynedd
Cyn y caf fynd i weithio ac ni’m hyfforddwyd mewn amynedd…

A dweud y gwir, bellach, mae’r cwrs 'ma yn fy nghorddi,
Wy’n rhagweld newid gyrfa, bydd rhaid im ail-hyfforddi.

Aneirin Karadog 8.5

7. Ateb Llinell ar y Pryd

Crannog

Draw i’r haul ‘rwyn mynd am dro
I’r Rhigos nid Morocco

Tir Iarll

Â’r Union Jack ‘di bacio
Draw i’r haul ‘rwyn mynd am dro 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Trwy Gil y Drws

Crannog

Un diwrnod, es am dro trwy ran o’r dref
lle saif y tai yn dynn wrth ochr y stryd
a thrwy fwlch drws agored clywais lef
a’m tynnai i bipo i mewn. Fe welais fyd
fu’n ddierth im o ran ei liw a’i lun.
Bu rhaffau crog fel cysgod ar y nen
- ai hyn a wnaeth y ’stafell mor ddi-lun,
neu’r aer llawn smotiau huddygl rheg a sen?
Bu dirmyg fel staen tywyll dros bob wal,
a’r ‘Na’ di-baid fel llaid yn dwyno’r llawr.
A welwn rith ein haearn poeth yn dal
i serio’r fron? Ai dyna oedd y sawr?

Ni allwn fynd i mewn i rannu’u lle
a, gwyn fy myd, ymlwybrais ‘n ôl sha thre.

Philippa Gibson 9.5

Tir Iarll

Mae’r gegin wedi gweld dy gamau blwydd
ers mis neu ddau neu dri, a’r lolfa fach
a ddaeth i arfer gyda rhedeg rhwydd
dy draed, a chlywed gwên dy chwarae iach.
Mae lluniau’r traeth a’r haul a’r gwynt a’r glaw
mewn llyfrau wedi gweld dy lygad di,
a’r ddol fach ffyddlon wedi dal dy law
wrth iti gadw cwmni iddi hi.
A’r drws yn gil agored, y mae’r dydd
yn galw cyn i’r bore droi yn bnawn,
dyheu am deimlo cwmni’r camau rhydd
mae’r traeth a’r haul a’r gwynt a’r glaw go iawn.
Mae’r byd yn aros heddiw iti ddod
i chwarae, am mai felly mae hi fod.

Tudur Dylan Jones 10

9 Englyn: Cerflun

Crannog

(Cerflun Syr Thomas Picton )

I fynor mae’i safonau, - i’r garreg
oeraf ei theimladau,
ond mae gormodedd beddau
i’w faen ef i’w gyfiawnhau.

Tir Iarll

Yn fan hyn fe safai’n hir, yn garreg,
‘arwr sawl cyfandir’,
er hyn daeth cerfio’r anwir
i esgor ar gerfio’r gwir.

Tudur Dylan Jones 10

Cynigion ychwanegol

Y mae yn ddwfn ym mywyn y garreg
rhyw ddarn gwâr sy’n erfyn
ar goedd am grefftwr a’i g欧n
i’w chynnau â gwreichionyn,

Wrth gofeb, mae’n werth gofyn am ei ran,
Am yr hanes gwrthun;
Cawn weled y gwaed wedyn
Yn staen drwy’r ithfaen ei hun.

MARCIAU TERFYNOL


CRANNOG 73
TIR IARLL 74