|  |
 |
 |
 |
 |  |
 © 成人快手
|
|  |  |
Twm Siôn Cati - Y Robin Hood Cymreig |
 |
Mae gwahanu'r dyn oddi wrth y chwedl yn dasg anodd, gan bod mwy o storïau wedi goroesi am ei anturiaethau yn ystod ei ieuenctid nag sydd o gofnodion ffeithiol am ei fywyd go iawn. Er hynny, cafodd ei fywyd ei gofnodi gan ddramodwyr a chofianwyr fel ei gilydd, felly mae ambell ffaith ar gael ar ein cyfer ni. Enw iawn Twm Siôn Cati oedd Thomas Jones, a oedd, mewn gwirionedd, yn fardd ac achestrydd Cymreig. Roedd yn byw rhwng 1530 a tua 1620, a chafodd ei eni mewn ty o'r enw Porth y Ffynnon, ger Tregaron, Sir Aberteifi.
Tra bod y stori'n mynnu bod Jones yn fab anghyfreithlon i sgweier lleol,- Syr John Wynn o Gwydir, ei dad mewn gwirionedd oedd John, mab Dafydd ap Madog ap Howel Motheu. Ei fam oedd Catherine, merch Meredydd ap Ieuen, a dyna o lle y daeth y ‘Cati' yn ei enw.
Yn ystod ei flynyddoedd cynnar, datblygodd Jones enw iddo'i hun fel Twm Siôn Cati, y lleidr pen ffordd, gan ddim ond dwyn, yn ôl y sôn, oddi ar y cyfoethog, er nad es yna fawr o dystiolaeth y byddai'n rhoi'n rheolaidd i'r tlawd. Ym 1833 ysgrifennodd Samuel Lewis ei fod yn "mwynhau, yn ôl traddodiad, hynodrwydd llai dymunol, oherwydd ei arfer o ysbeilio'i gymdogion, a chael ei ystyried yn leidr arbennig a deheuig". ('A Topographical Dictionary of Wales' 1833).
Mae'n hysbys bod Jones wedi derbyn peth addysg ffurfiol a'i fod yn cael yr enw o fod yn fedrus ac yn gyfrwys, yn gastiwr a allai dwyllo ffermwyr ac arglwyddi fel ei gilydd. Yn y rhan fwyaf o storïau am Twm, efallai y caiff ei gofio orau am ei garedigrwydd i’w ddioddefwyr. Er mwyn osgoi eu brifo'n arw neu eu lladd, roedd yn osgoi anafu ei elyn trwy anelu a gollwng saeth wedi ei lleoli'n gelfydd gan sodro'i 'nemesis' i'w gyfrwy.
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  |

 |
|
 |
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|