|  |
 |
 |
 |
 |  |  |  |
Sieffre O Fynwy - Crêwr Chwedlau |
 |
Mabwysiadodd y Cymry'r llyfr yn awchus, gan ei ail-gyfieithu mewn adegau o argyfwng mewn llu o gopïau, gan ddod o hyd ynddo gadarnhad o'u gobeithion Meseianaidd a'u cynhaliodd nes iddi ymddangos bod y rhain wedi eu gwireddu yn nyfodiad y llinach Tuduraidd.
Er bod yr Eingl Normaniaid a'r Saeson, wedi gwrthod y proffwydoliaethau hyn, fe groesawon nhw'r hanes hwn o'u mamwlad newydd a'r gorffennol gwych y gallen nhw nawr fod yn rhan ohono. Mae peth o boblogrwydd y llyfr hwn yn ei apêl ddwbl, i'r gorchfygedig a'r gorchfygwyr fel ei gilydd; ond mae yna awdurdod yn ei ddilysrwydd a gafodd ei dderbyn gan y rhan fwyaf, a’i amau ond gan nifer fach iawn o bobl.
 © 成人快手 | Gadawodd ei awdurdod ei farc ar hanesyddiaeth; daeth yr 'Hanes' yn gyfrif unigryw a safonol o Brydain gynnar, yn enwedig y cyfnod cyn-Rufeinig, y sail i rannau agoriadol pob cronicl a hanes 'ab origine'. Rhoddodd achres i frenhinoedd a phendefigion, a gosodd gynseiliau hanesyddol i lywodraethwyr taleithiau a'r eglwys.
Pan ddeliwyd â'r materion hyn yn effeithiol gan gyfryngau eraill a thestunau eraill, parhaodd Sieffre’n ffigwr o bwys, nid fel hanesydd ond fel crëwr, ffynhonnell a throsglwyddydd chwedlau llenyddol: Cynfelyn a'i feibion, cariad Locrine a Sabrina, Ferrex a Porrex ac, yn fwyaf cofiadwy, y Brenin Llŷr a'i ferched.
Ei greadigaeth fwyaf yw Arthur, - mae ei deyrnasiad ef yn ganolog i'r Hanes. Nid Sieffre ddyfeisiodd chwedl Arthur ond ei gamp ef yw cyflwyno brenin-ymrerawdwr hanesyddol credadwy, gan roi iddo lys marchogaidd a fyddai wedyn yn leoliad i'r ‘genre' llenyddol canoloesol mwyaf grymus, y stori garu llysaidd. Mae rôl 'Historia regum Britanniae' yn y portread o Arthur yn cadarnhau Sieffre o Fynwy fel un o'r crewyr chwedlau gorau erioed.
Diolch i Briordy Mynwy
Words: Brynley F Roberts
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  |

 |
|
 |
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|