| |
|
|
|
| | | |
Cantre'r Gwaelod - Tir Coll Cymru |
|
Mae’r llun hwn yn dangos gweddillion Sarn Dewi - yn ôl y sôn, un o’r saith sarn a adawyd ar ôl gan oes yr iâ, a ddaeth yn ffyrdd neu’n 'sarnau' i Faes Gwyddno neu Cantre'r Gwaelod. © Roy Carpenter |
Dywedir bod Cantre'r Gwaelod yn gorchuddio llawer o'r iseldir sydd nawr o dan Fae Ceredigion, ac mae nifer o nodweddion daearyddol yn gysylltiedig â'r chwedl. Mae'r Sarnau, cribau sengl filltiroedd o hyd, sydd yn rhedeg ar ongl sgwâr i'r lan, wedi eu lleoli rhwng bob un o aberoedd y pedair afon yng ngogledd y Bae. Dywed y chwedl bod y cribau'n weddillion sarnau a adeiladwyd er mwyn sicrhau ffordd i gyrraedd y tir mawr presennol ar lanw uchel, ond mae'n debyg mai gweddillion marianau rhewlifol ydyn nhw - wedi eu ffurfio o ro, clai, tywod a meini a adawyd ar ôl wrth i'r rhewlifau doddi ar ddiwedd yr Oes Ia ddiwethaf.
Yn ei 'Topographical Dictionary of Wales' (1833), nododd Samuel Lewis un arall o nodweddion Bae Ceredigion, a oedd i'w weld ar lanw isel iawn. Casgliad o gerrig mawrion a chreigiau yw Caer-Wyddno, saith milltir allan yn y môr, i'r Gorllewin o Aberystwyth. A yw'n bosibl mai hwn oedd union balas y Brenin anffodus, oedd yn mwynhau parti tra roedd ei deyrnas yn boddi?
Credir bod nifer o'r chwedlau byd eang sy'n sôn am foddi neu lifogydd yn cyfeirio at y newidiadau sylweddol mewn ffurfiau tir ar ôl yr Oes Ia ddiwethaf. Rhwng 17,000 a 7,000 o flynyddoedd yn ôl toddodd capiau iâ anferth dros Ogledd Ewrop a Gogledd America, gan achosi llifogydd a chodi lefelau'r môr o dros 100 metr. Cafodd 25 miliwm o filltiroedd sgwâr eu boddi gan y tonnau, ac er bod y newidiadau yn rhai graddol yn gyffredinol, byddai'n cyndadau wedi byw mewn amgylchfyd cythryblus a bregus.
Credir i'r straeon yma gael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth er cof am yr amserau coll hynny, ac maen nhw wedi rhoi bodolaeth i amrywiol chwedlau sy'n sôn am golli tiroedd oherwydd boddi'r arfordir a chodiad yn lefelau'r môr. Wrth gynnwys brenin o'r 6ed ganrif, mae stori Cantre'r Gwaelod fel petai wedi ei lleoli dipyn yn fwy diweddar, ond mae'n profi sut mae newidiadau yn y byd naturiol yn bwydo'r dychymyg, ac yn rhoi bodolaeth i chwedlau ddywedir ar yr aelwyd.
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|