|  |
 |
 |
 |
 |  |  |  |
Somaliaid yn Nhrebiwrt |
 |
Somalia
Mae Somalia’n ffurfio pen Horn Affrica yn Nwyrain Affrica. Caiff ei ffinio gan Kenya yn y de, Ethiopia yn y gorllewin, Djibouti yn y gogledd-orllewin, Gwlff Aden yn y gogledd a Chefnfor yr India yn y dwyrain.
 © 成人快手BHAC [Butetown History and Arts Centre] | Yn yr 1880au roedd Prydain a’r Eidal yn meddiannu gwahanol rannau o Somalia, ac fe barhaodd o dan reolaeth drefedigol hyd ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Erbyn 1950 roedd y Cenhedloedd Unedig wedi pleidleisio dros ganiatáu annibyniaeth i Somalia, ac ym 1960 fe ffurfiwyd y Weriniaeth Somali.
Ar ôl dim ond naw mlynedd cafodd y llywodraeth sifil ei dymchwel gan Siad Barre mewn gwrthryfel militaraidd. Dechreuodd gwrthwynebiad arfog mewnol i’w lywodraeth yng ngogledd y wlad yn yr wythdegau hwyr, ac er iddo gael ei atal mewn modd creulon, ymunodd grwpiau eraill oedd â chefnogaeth y clan â’r ymdrech, gan yrru Siad Barre allan yn gynnar ym 1991.
Mahmood Mattan Y gwr olaf i gael ei ddienyddio yng ngharchar Caerdydd oedd morwr o Somalia –Mahmood Mattan, a grogwyd ym 1952. Wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, cafodd faddeuant yn 1998 wedi i’r cyhuddiad gael ei wyrdroi wedi iddi ddod yn amlwg na chafodd brawf teg. Yn y pen draw derbyniodd ei deulu iawndal, y tro cyntaf i’r Swyddfa Gartref wneud taliad i deulu person a gafodd ei grogi ar gam.
Delwedd o Mahmood Mattan ac eraill yn yfed coffi yn ‘Berlin’s Milk Bar’ 1952 gan Bert Hardy yn dilyn cais i David Knight – nid yw wedi cadarnhau ei fod wedi ei ddarganfod. |
| Ym 1972 cafodd yr iaith Somali, gyda llawysgrifen wedi ei seilio ar y wyddor Rhufeinig ei mabwysiadu fel iaith swyddogol y wlad gan gymryd lle’r ieithoedd trefedigol Saesneg ac Eidaleg mewn llywodraeth ac addysg.
Mae’r bobl Somali wedi eu rhannu i nifer o lwythau, grwpiau sy’n olrhain eu llinach cyffredin yn ôl i un tad. Mae’r llwythau hyn, sydd, yn eu tro, wedi eu isrannu’n nifer o is-lwythau, yn uno ar lefel uwch i ffurfio teuluoedd-llwythau. Mae’r diwylliant Somali, gyda thraddodiad crwydrol gaiff ei arfer gan tua hanner y boblogaeth, yn annog teithio. Mae yna ddihareb Somali sy’n dweud, “Nid oes gan y person sydd heb deithio lygaid i weld”. (Abdi Agli, Caerdydd)
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  |

 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|