|
|
|
| | | | |
Gwlad gobaith, nid llawnder |
|
Y Crynwyr
Roedd yr ymfudwyr o Lanbrynmair i gyd yn anghydffurfwyr, nifer ohonyn nhw’n Grynwyr, a benderfynodd bod bywyd yn annioddefol ym Mhrydain yn ystod y 18ed Ganrif. Roedd George Fox, sylfaenydd crefydd y Crynwyr, yn credu bod rhywfaint “o Dduw ym mhob person”. Mae ffydd y Crynwyr wedi ei seilio ar y cynsail y gall bawb gyfathrebu â Duw, heb yr angen am Eglwysi, swyddogion eglwysig na gwasanaethau yn cynnwys sacramentau. Roedd hon yn safbwynt chwyldroadol yn y 17eg Ganrif oherwydd yr adeg honno roedd yr Eglwys yn agos iawn at y frenhiniaeth a gwleidyddiaeth. Roedd yr eglwys sefydledig, yr Eglwys Anglicanaidd, yn barnu bod safbwynt Fox yn ymosodiad ar strwythur cymdeithas ei hun, oedd yn golygu bod nifer o Grynwyr wedi eu herlid a’u carcharu oherwydd eu cred.
© Llyfrgell Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion | Roedd Proclamasiwn 1655 yn eu rhoi yn yr un dosbarth â brygowthwyr fel pobl a arferai ‘aflonyddu ar weinidogion mewn modd haerllug ac anghristnogol’ ac felly, pan fydden nhw’n ymddwyn fel hyn, gan gynnwys, efallai, gynnal cyfarfod crefyddol yn nhŷ rhywun, fe ystyrid eu bod yn amharu ar yr heddwch ac felly fe fyddai achos yn cael ei ddwyn yn eu herbyn. Yn wir rhwng 1662 a 1670 fe garcharwyd tua 6,000 o Grynwyr, yn bennaf am gynnal cyfarfodydd a gâi eu gwahardd gan y Ddeddf a nodwyd eisoes. Er hynny fe ffynnodd ei athroniaeth ac erbyn iddo farw ym 1691 roedd dros 500,000 o Grynwyr o gwmpas y wlad.
I’r Crynwyr yn Llanbrynmair dim ond un o’r nifer o ffactorau a’u gorfodai i roi’r gorau i’w cartrefi oedd erledigaeth grefyddol, gan eu gorfodi i fentro i geisio bywyd newydd filoedd o filltiroedd i ffwrdd. Dros 100 mlynedd ynghynt, ym 1679, cynhaliwyd achos llys yn y Bala, Gogledd Cymru, a effeithiodd ar nifer fawr o Grynwyr a wrthodai dalu degymau. Ffurf ar drethi oedd y degymau a dalwyd i’r penarglwyddi ffiwdal, yn yr achos hwn, - yr Eglwys Anglicanaidd. Achosodd hyn i nifer symud o Gymru i’r America; er nad oes ffigurau pendant ar gael, mae’n wybyddus bod y rhai a adawodd tua’r adeg yma wedi dechrau’r gwladfeydd ym Mangor, Narbeth, Maesyfed, Berwyn, Tŷ Ddewi, Hwlffordd, Bala-Cynwyd a Bryn Mawr, yr enwyd ysgol Iâl ar ei ôl ym Mhennsylvania.
Rhoddodd llwyddiant yr ymfudwyr hyn obaith i drigolion Llanbrynmair a oedd, ym 1795, yn wynebu mwy o drafferthion. Yn economaidd, roedden nhw’n ei chael yn anodd i ymdopi: roedd cyfres o gynaeafau gwael wedi gadael y dref yn brwydro i dyfu digon o gnydau i’w bwyta, roedd y tir yn wael ac roedd y rhenti roedden nhw’n cael eu gorfodi i’w talu yn cael eu hystyried gan nifer, yn enwedig aelodau hŷn cymuned y Crynwyr, yn afresymol. Roedd y sefyllfa roedden nhw’n eu cael eu hunain ynddi, er nad yn unigryw, wedi achosi pryder ymhlith Cymry eraill. Ysgrifennodd William Jones, disgybl Voltaire, a gwr a addysgodd ei hun, o Langadfan yn y 1790au: "Mae’r caledi mae trigolion y wlad ddiffaith hon yn ei ddioddef oherwydd Ariangarwch Anniwall y Tirfeddianwyr, wedi effeithio ar fy nheimladau i’r fath raddau nes fy mod wedi penderfynu ysgrifennu i Lundain i geisio Gwybodaeth am unrhyw dir heb ei amaethu yn America er mwyn cynnig fy ngwasanaeth i cyd-drefnu Cynllun i symud cynifer o’m cydwladwyr sydd â digon o ysbryd i adael eu tasgfeistri Eifftaidd a mentro arni yr ochr arall i’r Atlantig”
Er na ddilynodd yr ymfudwyr William Jones fe gawson nhw’u sbarduno gan ei eiriau ac fe benderfynon nhw fentro arni yn America.
Eich sylwadau
| | Argraffu tudalen |
| | | |
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
| | |
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|