 |
 |
 |
 |  |  |  |
|
 |
Y Teulu Yorke
Fe wnaeth y Phillip Yorke cyntaf (1743-1804) ail ffasiynu ac ailfodelu'r ty, gan gadw ac addasu ei nodweddion o'r 17eg ganrif. Yn awdur y 'The Royal Tribes of Wales' (gyhoeddwyd yn 1799), fe greodd Ystafell Llwythau emblematig ar y llawr isaf, ac fe gychwynnodd draddodiad Erddig o gasglu portreadau o weision y cartref, gyda phenillion disgrifiadol arnyn nhw.Roedd yr Yorkes, ar y wyneb, yn deulu nodweddiadol yn ariannol gyfforddus, ond o dan yr wyneb roedden nhw braidd yn anghonfensiynol. Roedd nifer yn lysieuwyr, traddodiad a gychwynnwyd gan Philip Yorke (I), a ddewisodd, y, 1749, yn bum mlwydd oed 'i giniawa'n bennaf ar lysiau'. Roedd rhai o aelodau'r teulu yn lwyrymwrthodwyr ac roedd y ddau sgweier olaf, Simon (IV) a Philip (III), yn byw bywydau braidd yn feudwyaidd ac ecsentrig.
Roedd yr Yorkes, ar y wyneb, yn deulu nodweddiadol yn ariannol gyfforddus, ond o dan yr wyneb roedden nhw braidd yn anghonfensiynol. Roedd nifer yn lysieuwyr, traddodiad a gychwynnwyd gan Philip Yorke (I), a ddewisodd, y, 1749, yn bum mlwydd oed 'i giniawa'n bennaf ar lysiau'. Roedd rhai o aelodau'r teulu yn lwyrymwrthodwyr ac roedd y ddau sgweier olaf, Simon (IV) a Philip (III), yn byw bywydau braidd yn feudwyaidd ac ecsentrig.
Roedd holl aelodau'r teulu yn rhannu diddordeb mewn henebion ac roedden nhe'n archifwyr, yn casglu popeth - pa mor ddibwys bynnag. Fe gadwodd y teulu naws y ty hwn o'r 18ed ganrig, yn dewis peidio â dod â thrydan, nwy na dwr i'r ty tan yn hwyr yn yr 20ed ganrif.
Taith o gwmpas Erddig

© NTPL/Andreas von Einsiedel
|
Caiff ymwelwyr eu cyflwyno i hanes y gweision a'u gweithdai cyn iddyn nhw ddod at brif adeilad mawr sgwâr y t ty, gyda'i du fewn cyfoethog. Mae'r math hwn o gyflwyniad yn gosod y naws ar gyfer y stori anarferol y tu ôl i Erddig.
Mae yna nifer fawr o dai y tu allan a iardiau wedi eu ymroi i gynnal a chadw'r ystad. Roedd unrhyw waith trwsio i'r ffermdai, y bythynnod, y ffyrdd a'r pontydd yn cael ei wneud gan fformyn yr ystad a'i staff o hyd at ddeg ar hugain o weithwyr. Y staff benywaidd oedd yn gofalu ar ôl yr Iard Tai Golchi ac yno fe geid ty pobi, cegin fach a thai golchi gwlyb a sych. Y tu allan i iard yr ystad mae yna golomendy sy'n dyddio o'r 18ed ganrif, ac a fyddai wedi bod yn ffynhonnell werthfawr o fwyd.
Mae ffenestr Fenisiaidd fawr a thair bwa fawr yn y Gegin Newydd - 'un o'r ystafelloedd mwyaf mawreddog yn Erddig', efallai'n adlewyrchu y parch a oedd gan Philip 1 at ei staff. Yn wreiddiol roedd y gegin yn sefyll ar wahân i'r prif dy mewn ymdrech i geisio lleihau'r perygl o dân, a oedd wedi dinistrio nifer o adeiladau cyfoes; erbyn hyn caiff ei gysylltu â'r prif dy gan floc cysylltiol, a godwyd yn y 19eg ganrif.
|
Print this page |
 |  |  |  |

Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.
Ewch i Ryngweithio > |
|  |  |

 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
 |
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|