 |
 |
 |
 |  |  |  |
|
 |
Celf, Cerddoriaeth ac Argraffu

© Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
|
Yn ogystal â sefydlu Gregynog fel man i gynnal cynadleddau, sefydlodd y chwiorydd Davies wasg argraffu a gwyl gerdd flynyddol a fyddai'n cael ei chynnal yn y neuadd. Roeddent yn gasglwyr brwd o baentiadau a darluniau Argraffiadaeth Ffrengig ac Ôl-Argraffiadaeth. Mae gwaith William Blake, Paul Cezanne, Stanley Spencer, Monet a Renoir i'w gweld ymhlith y casgliad o 260 o weithiau a drosglwyddwyd i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1951 a 1963. Adeiladwyd Oriel Davies, a gynlluniwyd yn 1967, yn Y Drenewydd gerllaw â rhodd gan y chwiorydd hefyd.
Gwelwyd tua 42 o gyhoeddiadau sylweddol gan y wasg rhwng 1923-40. Roedd llawer o'r llyfrau wedi cael eu rhwymo'n ardderchog gan George Fisher, y prif rwymwr, a roedden nhw'n cynnwys engrafiadau pren gan Blair Hughes-Stanton. Roedd y wasg yn defnyddio dulliau traddodiadol o argraffu llythrenwasg a chysodi â metel poeth. Yn 1940 caewyd y wasg oherwydd yr Ail Ryfel Byd, i'w ailsefydlu fel Gwasg Gregynog gan Brifysgol Cymru yn 1978.
Sefydlodd y chwiorydd Davies wyl Gregynog hefyd (1932-38), lle byddai gwesteion/perfformwyr enwog fel Ralph Vaughn Williams, Gustav Holst ac Edward Elgar yn dod. Y chwiorydd Davies fyddai'n llywyddu'r digwyddiad blynyddol, lle y bydden nhw, ar wahân i edrych ar ô;l y gwesteion a'r rhaglen, yn perfformio ac yn canu mewn cô;r unigryw ochr yn ochr â nifer o staff y ty a fyddai'n rihyrsio'n wythnosol. Ers hynny mae'r wyl wedi cael ei hadfer gan Brifysgol Cymru a Chwmni Gwyl Gregynog.
Heddiw
Bu farw Miss Gwendolyn Davies yn 1951, a phan fu farw Miss Margaret Davies yn 1963, fe drefnodd hi i drosglwyddo'r defnydd o Gregynog i Brifysgol Cymru fel y gallai cyfadrannau'r colegau unigol ddefnyddio'r cyfleusterau ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau ac i astudio. Mae'r teulu sy'n weddill yn cymryd rhan flaenllaw yn y gwaith o gynllunio a chynnal y rhodd hon. Yn ystod eu hoes ac wedi eu marwolaeth gwireddodd y chwiorydd Davies eu dymuniad i hybu gwerthfawrogi celf a chrefft, ac i gefnogi'r symudiad tuag at heddwch a dealltwriaeth - mae Gregynog yn gofeb byw i'w hymdrechion.
Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad, ffoniwch: 01686 650224 neu ebostiwch: gregynog@wales.ac.uk.
|
Print this page |
 |  |  |  |

Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.
Ewch i Ryngweithio > |
|  |  |

 |
|
 |
|
Nid yw'r 成人快手 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
|  |  |
|  |  |

|  |
|