成人快手

Disgwyl grant 拢500m ar gyfer ffwrnais drydan ym Mhort Talbot

Llun o'r awyr yn dangos ffwrneisi gweithfeydd dur Port TalbotFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ar 么l diffodd ffwrneisi Port Talbot eleni, fe fydd Tata Steel yn adeiladu ffwrnais drydan ar yr un safle

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i weinidogion yn San Steffan gyhoeddi grant gwerth 拢500m tuag at gost ffwrnais drydan newydd ar safle cwmni dur Tata ym Mhort Talbot.

Yn 么l ffynonellau undebol, mae'r cytundeb yn dod gyda sicrwydd am fuddsoddiad pellach, gan gynnwys y posibilrwydd o ddatblygu dur ar gyfer tyrbinau gwynt morol.

Roedd y llywodraeth geidwadol ddiwethaf wedi cytuno mewn egwyddor i roi grant o 拢500m tuag at y gost o 拢1.25bn i adeiladu'r ffwrnes drydan - fydd yn cael ei ddefnyddio i losgi dur sgrap.

Roedd y blaid Lafur wedi addo cadw at y cytundeb yn ystod yr ymgyrch etholiadol, a'r disgwyl yw eu bod am gadarnhau'r cynlluniau yn Nh欧'r Cyffredin ddydd Mercher.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd bron i 3,000 o weithwyr yn colli ei swyddi wrth i Tata Steel ailstrwythuro'r busnes

Mae cwmni dur Tata wedi dechrau'r broses o gau ei ffwrneisi dur ym Mhort Talbot, gyda disgwyl i'r ail o ddwy ffwrnes gau cyn diwedd mis Medi.

Y disgwyl yw y bydd tua 2,500 o weithwyr yn colli eu swyddi, gyda 300 yn rhagor i golli eu swyddi wedi hynny.

Tra bod Llafur wedi addo cadw at addewid y llywodraeth Geidwadol o 拢500m, maen nhw hefyd wedi addo 拢2.5bn pellach tuag at ddyfodol y diwydiant dur ym Mhrydain.

Mae gweinidogion hefyd wedi bod yn trafod ag undebau a chwmni Tata yngl欧n 芒 chadw gwaith cynhyrchu dur yn ne Cymru yn y dyfodol.

Daw ar 么l i'r undebau a chwmni Tata gytuno ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth.

Mae鈥檔 cynnwys ymrwymiad gan y cwmni i ystyried buddsoddiadau yn y dyfodol mewn technoleg pl芒t dur newydd, ac i gefnogi ei safleoedd Cymreig eraill yn llawn mewn ardaloedd fel Llanwern, Trostre a Shotton.

Bydd cyflenwadau trydan rhatach yn 鈥渁llweddol鈥 ar gyfer dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru, yn 么l pennaeth y corff sy鈥檔 cynrychioli'r diwydiant.

Yn 么l Gareth Stace, cyfarwyddwr cyffredinol UK Steel, mae angen cymorthdaliadau gan Lywodraeth y DU i sicrhau trydan ar gael i gwmn茂au fel Tata am "bris cystadleuol".

鈥淲rth i鈥檙 sector dur yn y DU symud i ffwrneisi cwbl drydanol, ac felly鈥檔 defnyddio llawer iawn o drydan, mae cael trydan am bris cystadleuol yn hanfodol i lwyddiant yn y dyfodol,鈥 meddai.

Dywedodd y dylai'r llywodraeth ddefnyddio peth o'i chronfa gwerth 拢2.5bn i leihau costau trydan i gynhyrchwyr dur.

鈥淒ydyn ni ddim yn gofyn am [y trydan] rhataf yn y byd, ond rydym am i鈥檔 prisiau trydan fod yn debyg i鈥檙 hyn sydd ar gael yn Ffrainc a鈥檙 Almaen, lle mae ein prif gystadleuwyr,鈥 ychwanegodd Mr Stace.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Gareth Stace, pennaeth UK Steel, yn galw am gymorth i gwmniau dur gyda'u costau ynni

Mae UK Steel hefyd eisiau i'r llywodraeth brynu mwy o ddur o'r DU ar gyfer prosiectau mawr, ac i leihau鈥檙 defnydd o ddur sydd wedi'i fewnforio.

Mae鈥檙 corff hefyd eisiau rhagor o ymrwymiadau ynghylch buddsoddiadau yn y dyfodol, er enghraifft mewn cyfleusterau dur newydd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Busnes a Masnach ei bod 鈥渆isoes yn dod 芒 chostau ynni ar gyfer diwydiannau pwysig fel dur yn y DU yn agosach at econom茂au mawr eraill鈥 trwy gynllun arbennig, tra bod sefydlu鈥檙 corff Great British Energy yn golygu bod "y llywodraeth hon yn cyflymu'r newid tuag at b诺er gl芒n rhatach鈥 sydd wedi鈥檌 chynhyrchu ym Mhrydain.

鈥淩ydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag undebau llafur a busnesau i sicrhau trawsnewidiad dur gwyrdd sy鈥檔 iawn i鈥檙 gweithlu ac sy鈥檔 diogelu dyfodol y diwydiant dur ym Mhrydain,鈥 meddai鈥檙 llefarydd.

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gallai dur o safle Port Talbot gael ei ddefnyddio ar gyfer tyrbinau gwynt morol

Mae Tata Steel, undebau llafur a gwleidyddion Llafur i gyd wedi galw am gefnogaeth y llywodraeth i adeiladu鈥檙 dechnoleg fyddai鈥檔 caniat谩u cynhyrchu pl芒t dur ar gyfer tyrbinau gwynt yn ne Cymru.

Dywedodd Gareth Stace: 鈥淓r mwyn i ni allu cyflenwi鈥檙 sector ynni gwynt yn y dyfodol, mae鈥檔 debyg bod angen melin pl芒t trwm yn y DU.

鈥淣awr, fe fydd hynny鈥檔 costio ychydig gannoedd o filiynau o bunnoedd, ond rydyn ni eisiau ei wneud yn iawn.

鈥淔elly mae angen i ni eistedd i lawr gyda鈥檙 llywodraeth, a gweithio allan y ffordd orau o wario鈥檙 buddsoddiad hwnnw.鈥

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod Llafur wedi sylweddoli mai'r cytundeb gorau ar y bwrdd oedd hwnnw yr oedd y llywodraeth Geidwadol wedi ei lunio yn wreiddiol.