³ÉÈË¿ìÊÖ

Tata: Undebau'n clywed fod hanner swyddi Port Talbot mewn perygl

  • Cyhoeddwyd
Port Talbot steelworksFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae bron i hanner swyddi cwmni dur Tata ym Mhort Talbot dan fygythiad.

Mewn cyfarfod gydag undebau, cadarnhaodd y cwmni eu bod am dorri bron i 2,500 o swyddi ar draws Prydain wrth i'r cwmni ail-strwythuro.

Fe gyflwynodd y cwmni'r manylion i benaethiaid undebau mewn cyfarfod yn Birmingham ddydd Gwener.

Dywedodd undebau Community ac Unite y byddan nhw'n parhau i frwydro i achub swyddi.

Ychydig dros bythefnos ers i gwmni dur Tata gyhoeddi y byddan nhw'n bwrw ymlaen gyda chynllun i gau ffwrneisi chwyth ym Mhort Talbot, dyma'r cadarnhad o union nifer y swyddi sydd dan fygythiad.

Mewn llythyr i'r undebau, cadarnhaodd Tata bod 1,929 o swyddi yn y fantol ym Mhort Talbot, a 113 o swyddi yn Llanwern yng Nghasnewydd.

Ar hyn o bryd mae 3,859 o bobl yn gweithio ar safle Port Talbot.

Yn lle'r ffwrneisi chwyth presennol - sy'n creu dur newydd o fwyn haearn - bwriad Tata yw gosod ffwrnais arc drydan fodern.

Y nod, medden nhw, yw symud at ddyfodol mwy gwyrdd, ar ôl degawd o golledion ariannol sylweddol.

Mae disgwyl i'r ffwrnais gyntaf gau erbyn canol y flwyddyn, a'r gweddill o'r asedau trwm yn ail hanner 2024.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad Tata yw dileu'r ffwrneisi chwyth presennol a gosod ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot, fel hon yn Rwsia

Yn ôl Alun Davies, swyddog cenedlaethol dur undeb Community, ni fyddan nhw'n derbyn yr hyn sy'n cael ei gynnig.

"Byddwn ni'n rhoi cyfarwyddyd i'n harbenigwyr nawr, i graffu ar fanylion y cynllun, ac yn anochel, fe fyddwn ni'n rhoi cynnig arall - rhywbeth fydd yn cadw'r ffwrneisi chwyth i fynd," meddai.

"Dyna yn y diwedd yw'r hyn ry'n ni eisiau ei wneud."

Dechrau cyfnod ymgynghori

Agorodd y cyfnod ymgynghori statudol o 45 diwrnod ddydd Gwener, wrth i weithwyr ddechrau trafod dewisiadau o ran diswyddiadau a'r posibilrwydd o ddod o hyd i swyddi eraill o fewn y busnes.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni dur Tata: "Heddiw rydym wedi agor y broses ymgynghori ffurfiol gyda'n partneriaid o'r undebau am y cynllun i ailstrwythuro'n busnes yn y DU.

"Bydd hyn yn parhau am o leiaf 45 diwrnod, a'r gobaith yw am ddeialog adeiladol am yr heriau y mae'r busnes yn wynebu.

"Rydym wedi rhannu'r nifer o swyddi a fyddai'n cael eu heffeithio ar ein safleoedd yn y DU, ac wedi rhannu'r rhain drwy Bwyllgor Dur y DU.

"Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod ansicr i'n pobl, ac rydym yn benderfynol o gynnig pob cefnogaeth i'n gweithwyr, partneriaid cytundebol a chymunedau gyda chymorth y Bwrdd Trawsnewid, a fu'n cyfarfod eto ddoe."

Safleoedd eraill

Mae disgwyl colledion hefyd ar eu safleoedd eraill yng Nghymru fel Shotton (32), Trostre (12) a Chaerffili.

Bydd yr ailstrwythuro hefyd yn effeithio ar swyddi ym Mhrifysgol Abertawe.

Dywedodd y cwmni y bydden nhw'n trafod y dewis o ddiswyddiadau gwirfoddol gyda'r undebau a'r gweithwyr, er mwyn lleihau nifer y diswyddiadau gorfodol.

Ychwanegodd Tata nad oedden nhw'n rhagweld unrhyw ddiswyddiadau cyn fis Ebrill.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tata wedi dweud y bydd yn cau'r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot

Mae'r cwmni o India'n symud tuag at ddulliau eraill o gynhyrchu dur, sy'n fwy gwyrdd.

Mae'r ffwrneisi modern yn creu dur o fetel sgrap, ac yn creu llai o lygredd, ond fe fydd yn golygu bod angen llai o weithwyr ym Mhort Talbot.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud fod cronfa gwerth £100m ar gael i gefnogi'r gymuned a'r gweithwyr fydd yn colli eu swyddi.

'Awn ni ddim yn dawel'

"Cibddall" oedd disgrifiad undeb Unite o'r cyhoeddiad ddydd Gwener, tra bod undeb y GMB yn dweud na fyddan nhw'n "derbyn yr angen am unrhyw golledion swyddi sydd ddim yn orfodol".

Mewn cyfweliad gyda ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru ar ei ffordd yn ôl o'r cyfarfod gyda Tata, dywedodd Alun Davies o undeb Community: "Ar ôl gweithio yn Llanwern a gweithio ym Mhort Talbot fy hun, mae'n effeithio ar lawer o'n ffrindiau a'u teuluoedd.

"Mae'n rhywbeth personol i mi. Felly fe fyddwn ni'n brwydro, oherwydd does dim dewis gyda ni... Mae'r penderfyniadau yma'n cael eu gwneud yn India ar ddyfodol gwneud dur yng Nghymru.

"Awn ni ddim yn dawel… mae'n rhaid i'r cwmni wrando ar yr hyn ry'n ni'n ei ddweud, oherwydd os nad ydyn nhw, mi allai fod yn fwy o frwydr nag y gallen nhw hyd yn oed ddychmygu."

Pynciau cysylltiedig