Port Talbot: Tata yn 'agored' i fuddsoddi pellach
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Tata Steel wedi dweud wrth Aelodau Seneddol y byddai'n ystyried buddsoddiad ychwanegol yn ei ffatri ym Mhort Talbot pe bai mwy o arian ar gael gan y llywodraeth.
Mae cynlluniau ailstrwythuro Tata yn golygu y bydd 2,800 o swyddi'n cael eu colli yn y DU, wrth iddyn nhw osod ffwrnais drydan - fydd yn defnyddio dur wedi'i ailgylchu - ym Mhort Talbot.
Dywedodd y prif weithredwr TV Narendran: "Nid oes angen i'r ffwrnais trydan fod yn ddiwedd - dyma'r dechrau."
Yn gynharach dywedodd undebau dur y dylai Llywodraeth y DU roi mwy o arian i sicrhau dyfodol y cwmni.
Mae Tata wedi cyhoeddi bydd y ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot, sef gweithfeydd dur mwyaf y DU, yn cau erbyn diwedd 2024.
'Anghyfrifol i rai rhanddeiliaid'
Dywedodd Mr Narendran wrth Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan "os oes arian ar gael" ar gyfer ffyrdd mwy gwyrdd o gynhyrchu dur, yna byddai Tata yn ei drafod.
Yn ôl Tata, ar hyn o bryd maen nhw'n gwneud colled o tua £1m y dydd yn y DU.
Dywedodd Mr Narendran y byddai cadw ffwrnais chwyth ar agor ar y safle - a chynhyrchu dur o'r newydd - yn colli £600m arall i'r busnes.
Ond wrth ei holi, cyhuddwyd y cwmni gan Stephen Kinnock AS o "blyffio" pan berswadion nhw weinidogion y DU i gytuno i dalu £500m tuag at eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd yr AS dros Aberafan, sy'n cynnwys ardal Port Talbot: "Pan wnaethoch chi fygwth Llywodraeth Prydain, sy'n swnio fel y gwnaethoch chi, y byddech chi'n cau'n gyfan gwbl, dydw i ddim yn credu mai dyna oedd yr achos mewn gwirionedd.
"Os yw hynny'n wir... yna nid oedd yn ddewis rhwng cau'n gyfan gwbl a cholli 8,000 o swyddi.
"Roedd yn ddewis rhwng eich cynllun chi a'r cynllun aml-undeb a fyddai wedi arbed 2,500 o swyddi mewn gwirionedd."
Atebodd Mr Narendran: "Y rheswm yr ydym yn cymryd y gymuned o ddifrif yw'r rheswm pam rydyn ni wedi gwneud popeth rydyn ni wedi'i wneud am 15 mlynedd.
"Ond mae'n rhaid i chi werthfawrogi bod Tata yn gwmni rhestredig...
"Rhywle, rydyn ni eisiau bod mor rhesymol â phosib i'r holl randdeiliaid, ond dydyn ni ddim eisiau cael ein gweld yn anghyfrifol i rai rhanddeiliaid ar draul eraill.
"Pan fyddwch chi'n colli mwy na miliwn o bunnoedd y dydd, mae dweud nad oes gennych chi gynllun, ac y byddwch chi'n parhau i ariannu'r colledion hyn yn barhaus, ac mae hynny'n ein rhoi ni dan bwysau gan randdeiliaid eraill."
'Ased strategol pwysig'
Mae Tata wedi ymrwymo i fuddsoddi £750m o arian y cwmni ar y ffwrnais drydan newydd ym Mhort Talbot, gyda chymhorthdal ​​gwerth £500m gan y llywodraeth.
Dywedodd undeb Unite wrth y pwyllgor nad oedd y £500m yn "ddigonol" i gefnogi'r diwydiant a chynnal y diwydiant cynhyrchu dur crai yn y DU.
Dywedodd Nick Kardahji o Unite: "Nid yw'r swm o arian y mae'r llywodraeth yn ei roi i mewn yn ddigonol.
"Nid yw'n debyg i'r hyn y mae gwledydd eraill yn ei wneud.
"Mae hwn yn ased strategol llawer rhy bwysig i ni ganiatáu iddo gael ei golli dim ond oherwydd bod cyllid annigonol wedi'i roi yn ei le."
Ychwanegodd: "Rydym yn meddwl bod rôl i'r llywodraeth gymryd rhan yn y gweithfeydd hefyd. O bosib y dylid ei ystyried hefyd.
"Unwaith eto, mae'r angen i barhau i gynhyrchu dur crai yn y DU yn rhy bwysig i'w adael i benderfyniadau un cwmni rhyngwladol."
Ffrae am gronfa gwerth £100m
Bu gweinidogion o lywodraethau Cymru a'r DU hefyd yn ymddangos o flaen y pwyllgor ddydd Mercher.
Dywedodd gweinidog economi Cymru Vaughan Gething ei fod yn croesawu sylwadau Tata y gallai ystyried mwy o fuddsoddiad ym Mhort Talbot yn y dyfodol.
"Rwy'n credu bod hynny ynddo'i hun yn addawol," meddai.
Ond rhybuddiodd ei fod yn credu na fyddai cronfa gwerth £100m sydd wedi'i sefydlu i ailhyfforddi gweithwyr a fydd yn colli eu swyddi "ddim yn agos at fod yn ddigon".
Mae £80m o hwnnw wedi dod gan Lywodraeth y DU, a £20m gan Tata.
Yn rhoi tystiolaeth i'r pwyllgor yn ddiweddarach fe wnaeth Ysgrifennydd Cymru David TC Davies feirniadu Llywodraeth Cymru am beidio rhoi arian tuag at y gronfa.
"Ni fydd Llywodraeth y DU yn troi ein cefn ar y gweithwyr yma, ond hyd yma dydyn ni ddim wedi cael unrhyw beth tuag at hynny gan Lywodraeth Cymru," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr
- Cyhoeddwyd22 Ionawr
- Cyhoeddwyd19 Ionawr