Un o s锚r Gogglebocs yn annog dysgwyr Caint

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Marcus Whitfield

Disgrifiad o'r llun, Marcus Whitfield (canol) gyda Vicki Edmunds o Gogglebocs Cymru (chwith) a'r gantores Bronwen Lewis

Mae un o s锚r Gogglebocs Cymru, Marcus Whitfield, wedi dechrau gr诺p siarad Cymraeg yn ei Wetherspoons lleol yng Nghaint.

Mae tua wyth o ddysgwyr yn cyfarfod bob wythnos yn y dafarn yn nhref Tonbridge, Caint.

Ond pam fod pobl o Gaint wedi penderfynu dysgu Cymraeg?

Meddai Marcus: 鈥淢ae鈥檙 rhesymau鈥檔 wahanol i bawb yn y gr诺p. Aeth un i Gymru ar ei wyliau a rhyfeddu at y Gymraeg, roedd Nain a Taid aelod arall yn dod o Gymru. Mae鈥檙 rhan fwyaf gyda chysylltiad 芒 Chymru.

鈥淵 syniad ydy creu gofod i bobl ymarfer eu Cymraeg.鈥

Ffynhonnell y llun, Marcus Whitfield

Disgrifiad o'r llun, Dysgwyr Caint

鈥楥ardiau i helpu gyda鈥檙 Gymraeg鈥

Mae Marcus yn dod o Fwcle wrth ymyl Wrecsam yn wreiddiol, ac fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2019.

Fel siaradwr newydd, mae'n awyddus iawn i helpu pobl eraill sy'n dysgu鈥檙 iaith.

Dyna pam ei fod wedi dyfeisio g锚m o gardiau arbennig.

鈥淢ae lot o grwpiau sgwrs ar draws y wlad yn defnyddio'r cardiau," meddai.

"Y bwriad yw defnyddio'r cardiau i ddechrau sgwrs. Mae'r cardiau'n cynnwys cwestiynau syml fel 'Beth wyt ti鈥檔 licio am Gymru?' neu 'Ble wyt ti鈥檔 mynd ar dy wyliau?'

鈥淢aen nhw'n wych i gynnal sgwrs a rhoi syniadau i bobl.鈥

Ffynhonnell y llun, Marcus Whitfield

Disgrifiad o'r llun, Y g锚m cardiau

10 mil o ddilynwyr

Nid dim ond dysgwyr Caint sy鈥檔 mwynhau cardiau Marcus.

Erbyn hyn, mae Marcus yn gwerthu鈥檙 cardiau i ddysgwyr a siaradwyr newydd ar hyd a lled y byd.

Mae wedi creu gwefan Paned.cymru i werthu nwyddau ar gyfer dysgwyr.

Hefyd, mae鈥檔 rhedeg gr诺p Facebook o鈥檙 enw Handy Welsh sydd gyda bron i 10 mil o ddilynwyr.

鈥淒w i ddim yn arbenigwr ar y Gymraeg, ond dw i鈥檔 trio helpu ac ysbrydoli pobl i ddysgu.鈥

Gogglebocs Cymru

Mae Marcus yn un o s锚r y gyfres Gogglebocs Cymru ac mae wrthi鈥檔 ffilmio cyfres newydd ar hyn o bryd.

Penderfynodd fynd ar Gogglebocs Cymru er mwyn ysbrydoli dysgwyr ac roedd eisiau gweld mwy o ddysgwyr ar y teledu.

鈥淩o'n i'n ansicr i ddechrau oherwydd fy mod yn dysgu Cymraeg.

鈥淥nd penderfynais ei wneud oherwydd fy mod eisiau cynrychioli dysgwyr. Ro'n i eisiau dangos iddynt fod cyflawni pethau drwy'r Gymraeg yn bosib.

鈥淩o'n i hefyd eisiau dangos i siaradwyr Cymraeg bod dysgwyr fel fi'n gwneud eu gorau glas i ddysgu鈥檙 iaith.鈥

Ffynhonnell y llun, s4c

Disgrifiad o'r llun, Marcus Whitfield a Vicky Edmund ar Gogglebocs

Ydy Marcus yn mwynhau bod yn un o s锚r Gogglebocs Cymru?

鈥淒w i wrth fy modd. Mae鈥檔 wych gweithio gyda鈥檙 criw yn Gymraeg bob wythnos.

鈥淵 peth gorau amdano nawr yw bod pobl yn fy adnabod ac yn dod i fyny ata i a dechrau sgwrs yn Gymraeg.鈥

Geirfa

Caint/Kent

rhyfeddu/be amazed

cysylltiad/connection

gofod/space

awyddus/keen

dyfeisio/invent

cynnal/to hold

nwyddau/merchandise

dilynwyr/followers

ysbrydoli/inspire

ansicr/insecure

cynrychioli/to represent

cyflawni/accomplish

gorau glas/very best

adnabod/recognise