成人快手

Yr ysgol ym Mangor lle mae 32 o ieithoedd yn cael eu siarad

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Yn Ysgol Hirael ym Mangor mae 32 o ieithoedd gwahanol yn cael eu siarad yn yr ysgol diolch i鈥檙 disgyblion a鈥檜 cefndiroedd rhyngwladol.

Aeth y cyflwynydd radio Aled Hughes yno i siarad gyda鈥檙 disgyblion ac i glywed nhw yn dweud bore da yn eu hieithoedd cyntaf ar raglen Aled Hughes.

Mae鈥檙 plant yn siarad ieithoedd sy鈥檔 cynnwys gwahanol fathau o Arabeg, Wrdw, iaith Fietnam a Tamil. Mae sawl fersiwn o鈥檙 iaith Arabeg yn cael ei siarad yn yr ysgol.

Mae鈥檙 athro Mr James Parri wedi bod yn yr ysgol ers pedwar mis.

Dywedodd: 鈥淢ae yna 32 wahanol iaith yn yr ysgol. Mae gennym ni blant o bob man yma.

鈥淢补别鈥檙 agwedd tuag ar yr iaith Gymraeg yn yr ysgol yma yn brilliant. Mae鈥檙 plant a鈥檙 rhieni yn fodlon dysgu鈥檙 iaith, sy鈥檔 gr锚t.

鈥淒wi wedi bod yn dysgu lot am y plant a鈥檙 gwledydd a鈥檙 ieithoedd gwahanol sydd yma.

Mae baneri yn y neuadd sy鈥檔 dathlu y gwledydd sydd yn yr ysgol a chodau QR ar y wal sy鈥檔 dweud stori am y plant a鈥檙 gwledydd o lle maen nhw鈥檔 dod.

Ffynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ysgol Hirael, Bangor

Rhieni cefnogol

Dywedodd Mr Parri: 鈥淢补别鈥檙 rhieni yn gefnogol iawn. Dim just efo gwaith cartref ond hefyd sgwrsio yn y bore, pethau syml fel dweud 鈥榖ore da鈥 a 鈥榮ut wyt ti?鈥 a siarad am y tywydd hefyd, felly mae hynny wedi bod yn neis.鈥

Mae nifer o鈥檙 plant yn dod i鈥檙 ysgol oherwydd fod eu rhieni yn gweithio yn y brifysgol 苍别耻鈥檙 ysbyty ym Mangor.

Felly sut mae athrawon yn dysgu plant sy鈥檔 siarad nifer o ieithoedd gwahanol?

Dywedodd Mr Parri: 鈥淕yda rhai o'r plant mae Saesneg yn drydedd neu bedwaredd iaith iddyn nhw, wedyn maen nhw鈥檔 dysgu Cymraeg hefyd.

"Yn sir Gwynedd, Cymraeg maen nhw鈥檔 cael gyda ni.

鈥淢补别鈥檙 agwedd yn wych.

鈥淢补别鈥檙 plant yn cymryd rhan mewn pethau fel eisteddfod ysgol ac yn dysgu am yr iaith hefyd.

鈥淒wi wedi dysgu dipyn fy hun ers i fi ddod yma ym mis Chwefror ac mae鈥檔 ysgol arbennig i fod ynddi a dwi鈥檔 falch iawn i fod yma."

cefndiroedd / backgrounds

rhyngwladol / international

cyflwynydd / presenter

fersiwn / version

agwedd / attitude

baneri / flags

codau / codes

cefnogol / supportive

prifysgol / university

ysbyty / hospital

trydedd neu bedwaredd / third or fourth

gwych / great

balch / proud

Pynciau cysylltiedig