成人快手

Y cowboi o Ffos-y-ffin

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Prysor Lewis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Prysor Lewis

Mae Prysor Lewis o Ffos-y-ffin, Aberaeron yn gweithio fel cowboi yn Texas ers 2017.

Ond sut mae mab fferm o Aberaeron yn gweithio fel cowboi yn y gorllewin gwyllt?

Gwrandewch ar Prysor yn siarad ar Troi'r Tir, 成人快手 Sounds

O鈥檙 brifysgol i weithio ar ranch

鈥淲nes i orffen yn y brifysgol yn 2016 a do鈥檔 i ddim yn gwybod pa waith ro鈥檔 i eisiau ei wneud,鈥 eglura Prysor.

鈥淩oedd fy ffrind newydd ddod yn 么l o Texas. Oedd e wedi bod yn pedoli ceffylau yna.

鈥淩oedd gyda fi ddiddordeb mewn marchogaeth ac amaeth, felly wnes i ddweud wrth fy ffrind bo鈥 fi鈥檔 awyddus i weithio fel cowboi.

鈥淓s i draw yna, gweithio yna dros y gwanwyn am dri mis, a dod yn 么l i Gymru i arbed arian dros y gaeaf.鈥

Dyw Prysor heb edrych yn 么l. Ers 2017 mae'n rhannu ei amser rhwng Texas a Chymru, ac mae鈥檔 gobeithio bod yn gowboi llawn amser.

Ffynhonnell y llun, Prysor Lewis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Prysor ar ei geffyl

Ond beth yw gwaith cowboi?

鈥淒w i'n gweithio fel cowboi ar ranch ac ar feedlot.

鈥湶巡贡疴檙 gwaith yn cynwys edrych ar 么l lloi 补鈥檜 tewi nhw. Y gwaith mwyaf yw edrych ar 么l y da, torri ceffylau, a marchogaeth ar y ranches."

Mae Prysor wedi bod yn gweithio ar un o ffermydd gwartheg mwyaf Texas sef The Four Sixes Ranch.

惭补别鈥檙 ranch yn 275,000 o aceri ac maent yn bridio gwartheg a cheffylau ers i Captain Samuel Burnett ei sefydlu yn 1870.

鈥淢aen nhw鈥檔 ffermio ar sg锚l anferthol o gymharu 芒 Chymru. Mae鈥檔 agoriad llygad.鈥

Ffynhonnell y llun, Prysor Lewis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dau ffrind a dau gowboi

Cadw traddodiadau

Yn ystod y gwanwyn bydd Prysor yn brandio miloedd o loi, er mwyn i bawb wybod pwy yw'r perchennog. Mae'n cael ei alw gan y cowboi yn roundup.

Ac mae traddodiadau'r roundup yn fyw o hyd.

Yn ystod y gwanwyn bydd Prysor yn marchogaeth gyda wagen am dair wythnos:

鈥淩y鈥檔 ni鈥檔 teithio鈥檔 union fel y llun ar baced bisged Wagon Wheel!

鈥淩y鈥檔 ni鈥檔 campio mewn tipis, coginio, cael brecwast am 5 o鈥檙 gloch y bore, marchogaeth, dal y lloi gyda rhaff a'u brandio."

Ffynhonnell y llun, Wikimedia
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Wagen yn Texas yn 1900

'Mynd i'r Rodeo yn lle'r clwb nos'

Ar 么l wythnos galed o waith, sut bydd Prysor yn ymlacio?

鈥淢ae digon o Rodeos ymlaen dros y penwythnos. Yn lle mynd i鈥檙 clwb nos ry鈥檔 ni鈥檔 mynd i鈥檙 Rodeos!

鈥淏ydd yr hydref yn brysur eto, bydd hi鈥檔 gyfnod weaning, felly bydd angen tynnu鈥檙 lloi oddi wrth y da.鈥

Beth yw ymateb pobl i waith y cowboi o Aberaeron?

鈥淧an mae pobl yn clywed bo鈥 fi鈥檔 gweithio fel cowboi, maen nhw鈥檔 meddwl bo鈥 fi鈥檔 tynnu coes! Ond dw i wrth fy modd!鈥

Ffynhonnell y llun, Prysor Lewis
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Prysor a'i wraig Kaylee

Geirfa

gorllewin gwyllt/wild west

prifysgol/university

pedoli/to shoe a horse

marchogaeth/to ride a horse

amaeth/agriculture

awyddus/keen

arbed/save

lloi/calves

tewi/to fatten

y da/livestock

torri ceffylau/horse breaking

agoriad llygad/eye opener

perchennog/owner

traddodiadau/traditions

rhaff/rope

ymateb/reaction

tynnu coes/pull someone's leg (joking)