Pwysau ariannol ar ysgolion Sir G芒r yn 'argyfwng'

Disgrifiad o'r llun, 鈥淩wy鈥檔 credu ei bod yn hanfodol bod ein hysgolion a鈥檔 cyrff llywodraethu yn ymwybodol o ddifrifoldeb y sefyllfa," medd Glynog Davies

Mae'r pwysau ariannol sy'n wynebu nifer o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin yn "argyfwng", yn 么l aelod cabinet y sir dros addysg.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies ei bod yn hanfodol fod arweinwyr ysgolion yn cydnabod y sefyllfa.

Dywedodd adroddiad cabinet fod disgwyl i ysgolion y sir orwario o 拢10.8m y flwyddyn ariannol hon. Dyna oedd y sefyllfa ar 30 Mehefin.

Mae'r cyngor wedi anfon llythyr at arweinwyr a llywodraethwyr ysgolion yn egluro'r sefyllfa.

'Argyfwng'

Dywedodd y Cynghorydd Davies ei fod yn derbyn bod y sefyllfa ariannol yn gwneud pethau鈥檔 鈥渁nodd iawn, iawn鈥 i lawer o ysgolion.

Ychwanegodd nad bod yn 鈥渁mharchus聽mewn unrhyw ffordd鈥 oedd bwriad y llythyr, ond yn hytrach, nodi 鈥測 ffeithiau moel鈥.

Dywedodd: 鈥淩wy鈥檔 credu ei bod yn hanfodol bod ein hysgolion a鈥檔 cyrff llywodraethu yn ymwybodol o ddifrifoldeb y sefyllfa. Mae鈥檔 argyfwng.鈥

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr aelod cabinet dros adnoddau, na allai or-ddweud pwysigrwydd y mater.

Ychwanegodd: 鈥淔el un sydd 芒 thri o wyrion ac wyresau bach mewn ysgolion cynradd lleol, rwy鈥檔 gwerthfawrogi鈥檔 llwyr fod ysgolion dan bwysau aruthrol," meddai.

Dywedodd y Cynghorydd Lenny nad oedd rhagamcanion y gyllideb yn cynnwys codiadau cyflog a phensiwn athrawon.

Dywedodd yr adroddiad fod y cyngor yn rhagweld gorwariant o 拢17.9m eleni, o ystyried pob ffactor.

Yn 么l y Cynghorydd Lenny, blynyddoedd o dan-ariannu llywodraeth ganolog sy'n gyfrifol am y pwysau cyllidebol.

Bydd y canghellor Llafur newydd, Rachel Reeves, yn cyflwyno ei chyllideb gyntaf ar 30 Hydref gyda gweinidogion Cymru yn nodi eu cynlluniau gwariant yn dilyn hynny.

Dylai hynny roi rhywfaint o eglurder i gynghorau ynghylch faint y byddan nhw'n ei dderbyn yn 2025-26.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Darren Price, fod y wasgfa sy鈥檔 wynebu Sir Gaerfyrddin yn berthnasol i holl gynghorau Cymru a bod 鈥渟etliad digonol鈥 gan lywodraeth ganolog yn hollbwysig.

'Lefelau uchel o ddiswyddiadau'

Fis diwethaf dywedodd Llywodraeth Cymru fod cyllid ar gyfer llywodraeth leol wedi codi 7.9% yn 2023-24 a 3.3% yn y flwyddyn ariannol hon.

Dywedodd llefarydd mai cyfrifoldeb cynghorau ydy talu costau athrawon.

鈥淟le bo angen rydym wedi sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael yn ystod y flwyddyn i awdurdodau lleol,鈥 meddai'r llefarydd.

Dywedodd Nicola Fitzpatrick o Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru: 鈥淢ae cyllidebau ysgolion dan straen eleni ac rydym wedi gweld lefelau uchel o ddiswyddiadau o ganlyniad.

鈥淵n benodol, mae ein haelodau鈥檔 dweud wrthym fod heriau o ran cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol a chyflenwi absenoldeb staff gydag athrawon cwbl gymwys.

鈥淲rth i Lywodraeth Cymru edrych ar y gyllideb mae鈥檔 bwysig cofio y bydd y sgiliau a鈥檙 profiadau a gaiff plant yn yr ysgol yn helpu i鈥檞 cynnal drwy gydol eu hoes.鈥