成人快手

Gwrthod cais llw athrawon rhag cael perthynas anaddas

Pencadlys Cyngor Sir y Fflint yn Yr WyddgrugFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fu aelodau'r cyngor sir yn ystyried y cynnig yn Yr Wyddgrug ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae un o gynghorau sir y gogledd wedi gwrthod cynnig yn gorfodi unrhyw un sy'n gweithio yn y sector addysg i dyngu llw yn erbyn cael perthynas amhriodol gyda disgyblion.

Dan y cynnig o flaen Cyngor Sir y Fflint fe fyddai athrawon a staff ysgol wedi gorfod gwneud addewid o flaen rheolwr i beidio 芒 ffurfio perthynas agos 芒 disgyblion.

Er yn gwrthod y cynnig, mae'r cyngor wedi rhoi ar gofnod bod unrhyw fodd o gam-drin plant a phobl ifanc yn wrthun, gan gynnwys perthynas amhriodol rhwng athrawon a disgyblion.

Mae鈥檔 dilyn achos y prifathro, Neil Foden, a gafodd ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf ar 么l ei gael yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol.

Roedd undeb addysg NASUWT yn dadlau y byddai cyflwyno'r llw, a gafodd ei drafod mewn cyfarfod llawn o'r cyngor yn Yr Wyddgrug ddydd Mawrth, yn dangos dirmyg ofnadwy i athrawon.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid yw hyn yn rhywbeth yr ydym yn ei ystyried."

Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan y cynghorydd Gladys Healey, sy'n honni bod angen mesurau cryfach i amddiffyn plant rhag camdriniaeth gan athrawon.

Dywedodd Neil Butler, swyddog cenedlaethol yr undeb ar gyfer Cymru: "Mae'r cynnig hwn yn unig yn dwyn anfri ar y proffesiwn addysgu.

"Mae athrawon yng Nghymru yn cael eu rheoleiddio鈥檔 llym ac mae鈥檔 rhaid iddynt gadw at god ymarfer y Gweithlu Addysg sy'n nodi'n glir bod gan athrawon 'ddyletswydd gofal am ddiogelwch, lles corfforol, cymdeithasol, moesol ac addysgol dysgwyr a phobl ifanc'," ychwanegodd.

"Os yw athro yn methu 芒 chydymffurfio 芒鈥檙 cod hwn, maen nhw'n wynebu camau disgyblu a cholli swydd o bosib.

"Mae'r ffaith fod Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu cyflwyno eu llw eu hunain yn dangos dirmyg ofnadwy tuag at y proffesiwn."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafwyd Neil Foden yn euog o 19 o gyhuddiadau o gam-drin merched yn rhywiol

Ar hyn o bryd, mae adolygiad ymarfer plant yn cael ei gynnal gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn dilyn dedfryd Foden, ac mae'r awdurdod lleol, Cyngor Gwynedd, wedi addo cydweithredu'n llawn.

Disgrifiodd cadeirydd y bwrdd hyn fel "cam hanfodol i amddiffyn plant bregus yng ngogledd Cymru".

Ond mae rhai yn pryderu na fydd yn mynd yn ddigon pell.

Dywedodd Ms Healey, sy鈥檔 aelod o bwyllgor craffu addysg Sir y Fflint, fod angen gwella鈥檙 mesurau diogelu presennol.

Pe byddai wedi cael ei gymeradwyo, fe fyddai wedi bod yn ofynnol i bob aelod o staff sy鈥檔 gweithio mewn lleoliadau addysg yn Sir y Fflint dyngu鈥檙 llw.

Dywedodd Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) eu bod nhw'n barod i drafod y cynnig.

Pynciau cysylltiedig