Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Heddlu gwrth-derfysgaeth yn rhan o ymchwiliad herwgipio Llanybydder
Mae Heddlu Gwrth-derfysgaeth Cymru (CTPW) wedi bod yn cynorthwyo swyddogion sy'n ymchwilio i achos o ymosod a herwgipio yn Sir Gaerfyrddin.
Mae tri dyn wedi cael eu cyhuddo o herwgipio yn dilyn y digwyddiad yn ardal Brynteg, Llanybydder ar ddydd Llun, 26 Awst.
Mae Mohammad Comrie, 22 oed o Leeds, Faiz Shah, 22 oed o Bradford, ac Elijah Ogunnubi-Sime o Wallington, 20 oed, hefyd wedi'u cyhuddo o achosi anaf corfforol difrifol yn fwriadol.
Cafodd person ei gludo i'r ysbyty gyda m芒n anafiadau yn dilyn yr ymosodiad.
Mae鈥檙 tri yn cael eu cadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn Llys y Goron Abertawe eto ar 30 Medi.