Tri dyn yn y llys ar gyhuddiad o herwgipio yn Llanybydder
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn wedi ymddangos yn y llys yn dilyn ymosodiad ar ddyn ger Llanybydder, Sir Gaerfyrddin.
Mae'r tri wedi'u cyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad ac un cyhuddiad o herwgipio.
Cafodd person ei gludo i'r ysbyty gyda m芒n anafiadau yn dilyn yr ymosodiad ddydd Llun, 26 Awst.
Erbyn hyn mae鈥檙 dyn wedi cael mynd adref ar 么l derbyn triniaeth.
Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Sadwrn, siaradodd Mohammad Comrie, 22 oed o Leeds, Faiz Shah, 22 oed o Bradford, ac Elijah Ogunnubi-Sime o Wallington, 20 oed, i gadarnhau eu henwau llawn, dyddiadau geni a chyfeiriadau yn unig.
Mae鈥檙 tri wedi鈥檜 cadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn Llys y Goron Abertawe eto ar 30 Medi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst