成人快手

Heddlu gwrth-derfysgaeth yn rhan o ymchwiliad herwgipio Llanybydder

Heddlu yn Llanybydder
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd un person ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad ar 26 Awst

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gwrth-derfysgaeth Cymru (CTPW) wedi bod yn cynorthwyo swyddogion sy'n ymchwilio i achos o ymosod a herwgipio yn Sir Gaerfyrddin.

Mae tri dyn wedi cael eu cyhuddo o herwgipio yn dilyn y digwyddiad yn ardal Brynteg, Llanybydder ar ddydd Llun, 26 Awst.

Mae Mohammad Comrie, 22 oed o Leeds, Faiz Shah, 22 oed o Bradford, ac Elijah Ogunnubi-Sime o Wallington, 20 oed, hefyd wedi'u cyhuddo o achosi anaf corfforol difrifol yn fwriadol.

Cafodd person ei gludo i'r ysbyty gyda m芒n anafiadau yn dilyn yr ymosodiad.

Mae鈥檙 tri yn cael eu cadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn Llys y Goron Abertawe eto ar 30 Medi.