ASau yn pleidleisio o blaid rhoi cymorth i farw

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Ymgyrchwyr yn San Steffan yn dathlu ar 么l cyhoeddiad y bleidlais brynhawn Gwener

Mae Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o blaid caniat谩u i oedolion sy'n derfynol wael gael cymorth i ddod 芒'u bywydau eu hunain i ben.

Fe bleidleisiodd 330 o ASau o blaid gyda 275 yn erbyn, yn dilyn dadl a barodd tua phump awr yn San Steffan ddydd Gwener.

Nid yw'r bleidlais yn golygu bod y mesur wedi dod yn gyfraith, ond mae'n caniat谩u iddo barhau ar gyfer craffu seneddol pellach.

Cafodd y gwleidyddion bleidlais rydd, sy'n golygu mai nhw oedd yn cael dewis fel unigolyn yn hytrach na chael arweiniad gan eu plaid wleidyddol.

Mae hon wedi bod yn bwnc llosg yn ddiweddar, gyda nifer yn cymharu arwyddoc芒d y bleidlais 芒 digwyddiadau fel cyfreithloni erthyliad neu ddileu鈥檙 gosb eithaf.

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth Claire Yardley Williams o Ddyffryn Nantlle golli ei g诺r, Terry i gyflwr Motor Niwron dair blynedd yn 么l

Un oedd yn cefnogi鈥檙 mesur oedd Claire Yardley Williams o Ddyffryn Nantlle a gollodd ei g诺r, Terry Williams, i gyflwr Motor Niwron (MND) yn 46 oed dair blynedd yn 么l.

"O'n i'n ista鈥 ar y ffens ar y dechrau oherwydd dwi'n gweld y ddwy ochr i'r ddadl, achos ma' bywyd yn beth pwysig iawn a ma鈥 isio byw bywyd i'r llawn yn hytrach na'i ddifa fo," meddai.

鈥淥nd dwi'n teimlo os 鈥榙i rhywun hefo salwch hirdymor neu yn dioddef a bod y corff yn cau lawr, neu bo' nhw hefo salwch difrifol... bo' ganddyn nhw'r hawl i neud be ma鈥 nhw isio 'lly.

Cafodd Terry Williams ei daro'n wael yn ystod y pandemig, ac wedi blwyddyn a hanner o salwch, roedd ei gyflwr yn dirywio yn raddol.

"Doedd o methu neud dim byd o'r gwddw i lawr, o'dd ganddo fo splints ar ei ddwylo, splints ar ei goesau, a doedd o methu bwyta," esboniodd Claire.

"Roedden ni'n gorfod rhoi cynllun yn i le i benderfynu lle o'dd o isio marw, os oedd o isio marw adra neu mynd i hosbis... Ac wedyn o'dd o鈥檔 gorfod sgwennu ei ddymuniadau lawr a fi'n nodi nhw.

"O'dd o 'di deud os 'sa fo'n mynd yn s芒l ac yn gorfod mynd i'r ysbyty, yna 'sa fo ddim isio dod 'n么l yn fyw."

'Rhaid i bobl wrando ar y claf'

Yn 么l Claire, roedd clywed hynny gan ei gwr yn ofnadwy, ond fe ddaeth hi i ddeall ei safbwynt: 鈥淢i oedd hynny鈥檔 anodd, achos o'n i鈥檔 meddwl 'ma gen ti bob dim i fyw ar ei gyfer o', 'dwi ddim yn cytuno hefo fo'.

鈥淥nd o'dd o'n deud 'dwi methu neud dim byd Claire', dwi'n teimlo fatha cabbage, dwi methu neud dim byd felly gad i fi neud penderfyniadau fel hyn'.

鈥淲edyn nes i gefnogi o hefo'r llythyr a chefnogi bod o isio mynd i hosbis i farw. Ond marw yn ysbyty nath o yn y diwedd 鈥榣ly yn Glan Clwyd.

鈥淒a chi鈥檔 cael yr hawl i benderfynu lle 'da chi鈥檔 cael eich claddu a sut, ac i ddeud os 'da chi isio dod 'n么l yn fyw - i gael eich ressusitatio neu ddim.

鈥淪o dwin meddwl dyla chi gael yr hawl i neud be 鈥榙a chi isio hefo corff chi'ch hun. Dim o dan orfodaeth na dim pwysau, ond os 'da chi yn eich llawn bwyll ac yn gallu gwneud penderfyniadau felly."

Ychwanegodd Claire ei bod hi'n bwysig trafod y mater gydag annwyliaid: "Dwi 'rioed 'di trafod dim byd fela hefo'n rhieni i na 'mhlant i - sut dwi isio mynd 鈥榣ly - nac wedi neud ewyllys.

鈥淥nd pan oedd Terry'n s芒l, odda ni鈥檔 gorfod trafod a bod yn agored... Ma鈥檙 pwnc yn un anodd a sensitif ofnadwy, ond dwi'n teimlo bo鈥 rhaid i bobl fod yn agored a gwrando ar be ma鈥檙 claf isio.鈥

Ffynhonnell y llun, PA Media

Roedd nifer o bobl y tu allan i鈥檙 Senedd i leisio'u barn ar ddwy ochr y ddadl ddydd Gwener.

Yn eu plith roedd Angela Kilenyi, sy鈥檔 wreiddiol o Gaerffili ond sydd bellach yn byw yn Llundain, a ddywedodd ei bod yn cefnogi鈥檙 mesur.

"Rwyf yma heddiw oherwydd fy mod yn credu'n angerddol mewn cymorth i farw. Gwelais fy ng诺r yn marw'n ofnadwy ac fe wnaeth hynny fy argyhoeddi hyd yn oed yn fwy pa mor bwysig yw hi i gael dewis ar ddiwedd bywyd," meddai.

Tra dywedodd Seb Roach, o Gaerdydd sy'n byw ar hyn o bryd yn Llundain lle mae'n fyfyriwr, ei fod yn gwrthwynebu.

"Rwy'n meddwl bod y mesur hwn yn eithaf brawychus a dweud y gwir," meddai.

"Rwy'n Gristion fy hun, rwy'n credu bod gan bawb werth waeth beth fo'u hanabledd, oedran neu ddisgwyliad oes."

Disgrifiad o'r fideo, Ymateb AS Bangor Aberconwy, Claire Hughes i ganlyniad y bleidlais brynhawn Gwener

Wrth ymateb i ganlyniad y bleidlais, dywedodd AS Bangor Aberconwy, Claire Hughes fod y ddadl wedi bod yn un "emosiynol".

"Dwi'n falch o allu symud ymlaen gyda'r sgwrs yma am farwolaeth a be ydi marwolaeth dda," meddai.

"Dwi'n falch y bydd mwy o amser r诺an i scrwteneiddio'r mesur yn y Bill Committee, mae hynny'n bwysig iawn er mwyn edrych ar bethau fel sut y bydd y mesur yn gweithio gyda Chymru... mae'r pethau hynny'n bwysig ond dwi'n teimlo'n dda bod digon o amser i wneud hynny'n iawn.

"Dwi wedi gwrando ar lot fawr o bobl yn yr etholaeth, ac mae gen i brofiad personol efo fy mam. Dwi'n teimlo'n gryf fod rhaid i ni ymgyrchu ar gyfer gofal lliniarol gwell, ond dyw gofal lliniarol ddim yn helpu bob person."

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Gyda'r ASau wedi pleidleisio o blaid y newid, bydd misoedd o graffu a bydd yn rhaid iddo basio sawl cam arall cyn y gall ddod yn gyfraith.

Nid yw鈥檔 glir eto a fyddai angen pleidlais gydsynio yn Senedd Cymru ar gyfer y mesur hefyd.

Ym Mae Caerdydd fis diwethaf, pleidleisiodd Aelodau o鈥檙 Senedd yn erbyn cynnig symbolaidd i gefnogi cyfraith newydd a fyddai'n caniat谩u'r hawl i ddewis cael marw.