成人快手

Cymorth i farw: 'Dwi ddim isio nhw gofio fi yn y cyflwr yma'

Disgrifiad,

Mae Iola eisiau鈥檙 hawl i ofyn am gymorth i farw cyn iddi ddirywio ymhellach

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes o Ben Ll欧n yn croesawu mesur seneddol allai roi鈥檙 hawl i bobl sydd 芒 salwch angheuol i gael cymorth i farw.

Cafodd Iola Dorkins, 76, ddiagnosis o glefyd motor niwron (MND) y llynedd a dyw hi bellach methu llyncu na siarad.

Does dim gwella o鈥檙 cyflwr ac mae Iola eisiau鈥檙 hawl i ofyn am gymorth i farw cyn iddi ddirywio ymhellach.

Cafodd mesur preifat ei gyflwyno yn San Steffan ddydd Mercher.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Iola Dorkins ddiagnosis o glefyd motor niwron (MND) y llynedd

Yn byw ym Morfa Nefyn gyda鈥檌 g诺r Mike, mae Iola Dorkins yn dweud bod cyflwr MND yn 鈥渁fiach鈥 a bod bywydau'r ddau ohonyn nhw wedi 鈥渘ewid yn arw鈥 yn y flwyddyn ddiwethaf.

鈥淒wi鈥檔 methu siarad efo pobl a methu mynd allan i gael pryd o fwyd a chymysgu. Y prif bethau yn fy mywyd oedd siarad efo pobl a chael hwyl," meddai.

'Mae fy hiwmor dal yna'

鈥淢ae鈥檔 anodd i bobl ddeall bo鈥 fi dal i allu cyfathrebu efo whiteboard ac yn dal i allu cael hwyl. Mae fy hiwmor yn dal yna.

鈥淢ae鈥檙 cyflwr yn afiach. 鈥楧a ni鈥檔 methu mynd lawr i aros at y mab sy鈥檔 byw yn ne Lloegr, a ddim yn cael gwarchod achos mae鈥檙 siwrnai鈥檔 rhy bell.

"Dwi鈥檔 methu cael sgwrs efo fy 诺yr a wyres, na chwarae efo nhw a dwi鈥檔 colli cael cymysgu fel normal.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Iola yn dweud bod y cyflwr "afiach" wedi newid eu bywydau yn arw

Mae clefyd MND yn gyflwr sy鈥檔 effeithio ar yr ymennydd a鈥檙 nerfau gan achosi gwendid cynyddol dros amser.

Does dim gwellhad ac er y gall claf fyw am gryn amser, mae鈥檙 cyflwr yn un angheuol ac yn un sy'n byrhau bywyd.

Mae Iola鈥檔 gwisgo ffr芒m o gwmpas ei gwddf sy'n ei helpu i gynnal ei phen gan nad yw'r nerfau yn ei gw芒r yn gweithio erbyn hyn.

Gan nad yw鈥檔 gallu siarad mae鈥檔 cyfathrebu trwy ysgrifennu gyda phin ffelt ar fwrdd gwyn bach.

Mae鈥檔 bwydo ei hun trwy chwistrellu bwyd arbennig a d诺r trwy bibell yn syth i鈥檞 stumog ac yn defnyddio peiriant i sugno poer o鈥檌 cheg rhag ofn iddi dagu.

Bydd yn colli rhagor o annibyniaeth gydag amser.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe briododd Iola a Mike ym mis Ebrill eleni

Fe benderfynodd Iola yr hoffai gael yr hawl i ofyn am help i farw 鈥減an nes i weld sut beth fydd marw efo鈥檙 cyflwr sydd gen i. Alla i golli pob rheolaeth o鈥檙 corff a mygu efo saliva," meddai.

Mae hi eisiau鈥檙 hawl i ddod a鈥檌 bywyd i ben yn gynt, 鈥渙s ydy鈥檙 farwolaeth naturiol yn un anodd i mi a fy nheulu".

鈥淒wi ddim isio nhw gofio fi yn y cyflwr yma.鈥

Yn 么l Iola, roedd y sgwrs gyda鈥檌 g诺r a鈥檌 theulu yn un 鈥渁nodd iawn鈥, ond fe dderbynion nhw ei barn yn y diwedd.

Dywedodd g诺r Iola, Mike Dorkins, fod y drafodaeth honno gyda鈥檌 wraig yn 鈥渄orcalonnus鈥.

鈥淥nd beth bynnag mae Iola isio, mae o鈥檔 berffaith iawn efo fi. Dwi jyst ddim isio iddi hi ddioddef, dyna鈥檙 oll.鈥

鈥淢ae o fyny iddi hi ond dwi鈥檔 cefnogi鈥檙 penderfyniad 100% ac mae鈥檙 hogia hefyd.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Iola fod trafod y syniad o gael cymorth i farw gyda鈥檌 theulu yn un 鈥渁nodd iawn鈥

Dywedodd Glenys Williams, awdur cyfrol ar gymorth i farw, nid oes "hawl i farw neu i ofyn am farwolaeth" yn 么l y deddfau hawliau dynol.

"Dyw cysyniad y claf ddim yn 'neud amddiffyniad o gwbl", meddai.

Esboniodd fod cymalau o fewn y ddeddf er mwyn diogelu pobl.

"Mae nifer o bethau - mae'n rhaid cael caniat芒d dau feddyg, rhaid aros chwe mis, neu mae'n rhaid gallu dweud yn sicr bod y claf am farw o fewn chwe mis.

"Mae鈥檔 rhaid bod y claf yn dioddef o ryw salwch nad oes gwella arno fe.

"Os y'ch chi'n rhoi cymal fel 'na mewn, dyw hwnna ddim yn helpu pobl sydd gyda salwch mwy hirdymor a 'dyn nhw ddim yn mynd i farw o fewn chwe mis fel MND."

'Maes anodd yn gyfreithiol ac yn foesegol'

Esboniodd Ms Williams mai dyma un o'r rhesymau pam bod rhai yn gwrthwynebu newid y gyfraith.

Dywedodd bod rhai yn "ofni y bydd pobl fregus neu mewn oed, neu anabl yn teimlo bod dim gwerth i鈥檞 bywydau nhw, neu fod teulu yn eu gorfodi i gymryd penderfyniad nag ydyn nhw am ei wneud".

"Mae e鈥檔 faes anodd iawn - yn gyfreithiol ond yn foesegol hefyd. Ma' yna lot o ddadansoddi ystyr geiriau yn y gyfraith drosedd."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Iola'n dweud ei bod yn hynod falch o gefnogaeth ei theulu a'i ffrindiau

Ddydd Mercher fe wnaeth Kim Leadbeater AS gyflwyno mesur yn Nh欧鈥檙 Cyffredin yn cynnig rhoi鈥檙 hawl i bobl sydd 芒 salwch angheuol i ddewis dod 芒鈥檜 bywyd i ben.

Dim ond yr enw sydd wedi'i gyhoeddi hyd yma - Terminally Ill Adults (End of Life) Bill - ond y disgwyl ydy y bydd yn cynnig rhoi鈥檙 hawl i oedolyn sydd efo salwch angheuol ac sydd 芒 chwe mis neu lai i fyw i gael cymorth meddygol i ddod a鈥檜 bywyd i ben yn gynt.

Mae disgwyl dadl Seneddol ar y pwnc eleni ac mae Iola Dorkins yn ei groesawu.

鈥淚 rywun yn fy sefyllfa i mae鈥檔 beth mawr i gael deud ein barn - iddo ddod i rym i鈥檔 helpu. Dwi鈥檔 falch iawn bod ein lleisiau wedi cyrraedd eu clustiau.鈥

'Byw yn y corff yma ddim yn braf'

Mae鈥檔 cydnabod bod peryglon i gam o鈥檙 fath, ond mae鈥檔 mynnu y gallai deddfu effeithiol sicrhau nad ydy pobl yn cael eu rhoi mewn sefyllfa fregus.

鈥淢i fyse 鈥榥a gamau i atal pobl rhag cymryd mantais fel na fedar neb gael eu gwthio, ac yn enwedig i stopio rhywun rhag elwa o ran etifeddiaeth.鈥

Mae鈥檔 dweud bod angen i鈥檙 rhai sy鈥檔 gwrthwynebu鈥檙 mesur 鈥渇yw ein bywyd ni i wybod beth ydy colli pob dim gwerthfawr mae pawb yn ei gymryd yn ganiataol bob dydd.鈥

Mae鈥檔 dweud ei bod wedi sylwi ar ddirywiad pellach yn ei chyflwr yn ddiweddar.

鈥淢ae fy mreichiau wedi gwanhau yn y tair wythnos diwethaf. Mae鈥檔 gwneud i mi deimlo鈥檔 drist ac yn flin o golli rhywbeth arall pwysig eto a methu gwneud fy ngwallt ac ati.

鈥淒ydy byw yn y corff yma ddim yn braf ond dwi mor falch o deulu a ffrindiau.鈥