'Clwb Ffermwyr Ifanc wedi rhoi cymaint o hyder i fi pan yn isel'

Ffynhonnell y llun, Gareth Thomas

Disgrifiad o'r llun, Ffermwr ydy Gareth Thomas yn Ynys M么n

Wrth i fudiad Ffermwyr Ifanc Cymru nodi bod ganddyn nhw dros 5,000 o aelodau dywed un o'i haelodau ym M么n bod mynychu gweithgareddau y clwb lleol wedi helpu ei iechyd meddwl yn fawr.

Ym mis Ionawr bydd y mudiad yn cyflwyno gwobr newydd sbon 'Pencampwr Iechyd Meddwl' i unigolyn, gr诺p, clwb neu sir, sydd wedi bod yn weithgar o ran codi ymwybyddiaeth i iechyd meddwl o fewn y gymuned amaethyddol a鈥檙 gymuned wledig yn ehangach.

Dywed Gareth Thomas, ffermwr yn Ynys M么n ei fod yn teimlo fod ymaelodi 芒 chlwb wedi helpu iddo deimlo'n fwy hyderus ynddo ei hun pan oedd mewn cyfnod eithaf isel.

"Mi 'nes i gychwyn hefo clwb Ffermwyr Ifanc Rhos-y-bol pan o'n i'n tua 11 oed, a dim ond naw aelod oedd yno i gyd," meddai wrth siarad 芒 Cymru Fyw.

"Tua'r cyfnod ysgol uwchradd o'n i'n teimlo yn reit isel, a'r prif reswm dwi'n meddwl oedd y newidiadau, o newid ysgol ac yn y blaen.

"Ond achos ein bod ni'n glwb bach yn Rhos-y-bol, oeddan ni'n cael ein gwthio i wneud popeth o ran cystadlu, ac oedd hynny'n rhoi hyder i ti, heb i ti sylwi.

"Oeddan ni'n cael hwb i drio pethau gwahanol fel siarad cyhoeddus, pethau na fysa ti o bosib yn eu gwneud fel arall.

"Odd o'n golygu mod i'n gallu teimlo'n fwy cyfforddus wrth siarad, neu gystadlu, ac felly mi nath o'n sicr fy helpu i, ynghyd 芒 siarad am y peth."

Ffynhonnell y llun, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae gan glybiau Ffermwyr Ifanc Cymru 5,466 o aelodau

'Cydnabod y pwysau sydd ar bobl ifanc'

Ychwanegodd Gareth ei fod yn falch iawn o'r wobr newydd 'Pencampwr Iechyd Meddwl'.

"Dwi'n meddwl bod o'n wych fod y mudiad yn cydnabod iechyd meddwl, a bod y wobr yma'n gweithredu mewn ffordd sy'n hyrwyddo ac yn adnabod yr heriau sy'n bodoli yn ein cymunedau ni.

"Gyda chynifer o bobl yn ei gweld hi'n anodd mewn amryw o wahanol ffyrdd, mae cael sefydliad cefnogol, sydd hefyd yn cydnabod y pwysau sydd ar bobl ifanc yn hanfodol bwysig.

"Dwi'n mawr obeithio bydd y mudiad yn parhau 芒'r gwaith o arwain y ffordd wrth ymdrin 芒'r heriau yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn fudiad dwyieithog sy鈥檔 gweithredu ar draws Cymru

Mae'r wobr sy'n cael ei chyflwyno ar y cyd 芒 Samariaid Cymru a'r DPJ Foundation, yn "un gyffredinol am gyfraniad mawr" yn 么l Dewi Davies, Cadeirydd Ffermwyr Ifanc Cymru:

"Bydd categor茂au penodol, a bydd gwahanol agweddau yn derbyn sylw.

"Mae modd enwebu rhywun i'r wobr nawr, gallech chi enwebu eich hunain neu rhywun arall.

"Mae'r wobr ar gyfer unrhyw berson o fewn oedran aelodaeth CFfI, gall fod yn unigolyn, neu gr诺p sydd wedi cefnogi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.

"Chi methu bod rhy benodol gyda pwnc fel hyn o ran gwobrwyo, oherwydd nid yw iechyd meddwl yn dilyn yr un patrwm.

"Mae'n fater cymhleth, ac mae angen cydnabod syniadau newydd i wahanol sefyllfaoedd, felly gwobr gyffredinol am gyfraniad mawr yw ef."

Ffynhonnell y llun, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae 96 o gystadlaethau yn cael eu cynnal yn flynyddol i'r aelodau

Roedd Kate Miles, Rheolwr Elusen y DPJ Foundation yn llawn canmoliaeth o'r wobr newydd.

Mae Sefydliad DPJ yn cefnogi pobl sydd 芒 phroblemau iechyd meddwl yn y byd amaeth a chymunedau gwledig

"Dwi wedi treulio llawer o amser mewn clybiau Ffermwyr Ifanc erioed, a dwi bellach hefyd yn arweinydd clwb," medd Kate Miles.

"Heb os, mae mynychu'r clwb yn llwyddo i godi'n hwyliau i bob tro, hyd yn oed os nad ydw i'n cael y diwrnod gorau.

"Mae'r mudiad yn darparu rhwydwaith o gefnogaeth, ac mae rhywun bob amser yno i wrando arnoch chi os oes rhywbeth ar eich meddwl.

"Gant y cant, mae'r wobr newydd yma'n rhywbeth gwych, gan ei fod yn rhoi ffocws ar iechyd a lles meddwl.

"Gobeithio gall y wobr newydd yma droi'n belen eira i rhywbeth mwy."

'Cefn gwlad yn gallu bod yn unig'

Yn 么l Prif Weithredwr Ffermwyr Ifanc Cymru, Mared Rand Jones, mae'r mudiad yn gweithio'n agos gydag elusennau iechyd meddwl.

"Fi'n credu bod Ffermwyr Ifanc yn chwarae r么l flaenllaw o ran iechyd a lles pobl ifanc rhwng 10 a 28 oed sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru.

"Mae 'da ni bron i 6,000 o aelodau, ac 'ma byw yng nghefn gwlad yn gallu bod yn unig ar adegau, a dim llwyth o gyfleoedd i bobl ifanc ar y cyfan.

"Ond mae'r holl weithgareddau mae鈥檙 mudiad yn eu cynnig yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gwrdd yn eu clybiau mewn awyrgylch diogel a hapus."

Ffynhonnell y llun, Mared Rand Jones

Disgrifiad o'r llun, Dywed Mared Rand Jones, Prif Weithredwr Ffermwyr Ifanc Cymru, bod y clybiau yn rhoi cyfle i bobl ifanc gwrdd yn ddiogel

"Mae gennym berthynas agos gyda gwahanol sefydliadau fel DPJ Foundation, Tir Dewi, FCN a Samariaid Cymru ac rydym yn cynnal hyfforddiant iechyd meddwl i鈥檙 Staff yn rheolaidd," ychwanegodd.

"Rydym yn rhannu rhifau cymorth y sefydliadau iechyd meddwl gyda鈥檙 aelodau bob amser, ac rydym fel teulu agos yn cefnogi'n gilydd. Rydym yn gymuned agos fel mudiad ac mae perthynas dda rhwng aelodau, arweinyddion a staff.

"Y nod ydy os oes unrhyw beth sy鈥檔 poeni rhywun, bo nhw鈥檔 gallu siarad am y peth gyda rhywun maent yn ymddiried o fewn y mudiad.

"Mae'r gweithgareddau rydym yn eu cynnal yn beth da i iechyd meddwl, rhywle diogel i bobl ifanc fwynhau, cymdeithasu, lle i ddysgu sgiliau newydd, a lleisio barn ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw."