成人快手

Rhedeg o F么n i Gaerdydd 'i ddangos bod golau ar ddiwedd y twnnel'

Ioan JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cyrraedd gwersyll gwaelod Everest oedd her ddiwethaf Ioan Jones

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 18 oed o Lanfairpwll yn bwriadu rhedeg o Gaergybi i Gaerdydd mewn chwe niwrnod i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.

Ag yntau ar ei flwyddyn allan ar 么l gorffen yn yr ysgol, mae Ioan Jones yn edrych ymlaen at gychwyn yr her o redeg 190 o filltiroedd ddydd Mawrth.

Bu drwy gyfnod anodd wedi iddo golli ei dad pan oedd yn iau, ac mae'n dweud bod angen i bobl "fynd allan i'r awyr agored" a "gofalu am eu hunain".

Dywedodd elusen Mind fod y DU yng nghanol "argyfwng iechyd meddwl" gyda dros ddwy filiwn o bobl ar restr aros am gymorth.

'Yr her fwyaf oedd cynllunio'r daith'

Wrth baratoi i redeg 190 o filltiroedd, dywedodd mai'r her fwyaf oedd ceisio cynllunio'r daith yn ofalus.

Ag yntau'n bwriadu rhedeg y cyfan ar ei ben ei hun mewn chwe niwrnod, dywedodd y bydd yn rhaid iddo redeg tua 32 o filltiroedd y diwrnod.

Er mai ond ers dros flwyddyn mae Ioan wedi bod yn rhedeg, dywedodd ei fod "rili yn edrych ymlaen at wneud yr her".

Dywedodd ei fod wedi bod yn hyfforddi wrth wneud "lot o runs hir, treulio lot o amser yn y mynyddoedd a threulio 'chydig o amser ar y beic hefyd".

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe dreuliodd Ioan bythefnos yn cwblhau ei her o gyrraedd gwersyll gwaelod Everest

Ond nid yw heriau o'r fath yn brofiad newydd i Ioan.

'N么l ym mis Ebrill fe gerddodd loan i wersyll gwaelod Everest i gofio am ei dad ac i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.

Fe dreuliodd bythefnos yn cwblhau'r daith a oedd yn golygu teithio ar uchder o 5,500m uwchben lefel y m么r.

Roedd yn codi arian ar gyfer elusen iechyd meddwl Shout, sy'n cynnig cymorth iechyd meddwl 24 awr y dydd.

Dywedodd y tro hwn ei fod "eisiau challenge gwahanol, 'chydig bach anoddach, felly dyna pam dwi wedi penderfynu gwneud hyn".

'Wastad golau ar ddiwedd y twnnel'

Dywedodd ei fod yn cwblhau'r her er mwyn codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn gyffredinol.

Ei neges felly yw i bobl "siarad, ac i fynd allan i gael awyr iach ac i ofalu am eich hunain".

Dywedodd fod "wastad golau ar ddiwedd y twnnel".

Mewn datganiad, dywedodd elusen Mind ein bod "yng nghanol argyfwng iechyd meddwl."

"Mae 2 filiwn o bobl [ym Mhrydain] ar hyn o bryd ar restrau aros iechyd meddwl gyda'r GIG. Ac ar ben hyn, mae stigma ynghylch iechyd meddwl yn parhau i fod yn broblem".

Ychwanegon nhw fod pobl "angen cefnogaeth nawr, nid ymhen chwe mis. Nid ymhen blwyddyn."

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod bod angen gwneud mwy i wella amseroedd aros a phrofiadau鈥檙 bobl sy鈥檔 aros."

Ychwanegon nhw eu bod yn "helpu i wneud hyn" gyda'r Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd meddwl "wedi penodi arweinydd clinigol cenedlaethol i hybu鈥檙 gwelliannau hyn."

Dywedon nhw fod 'na "amrywiaeth o ddulliau gweithredu ar waith ledled Cymru i gefnogi cleifion sy'n aros am therap茂au seicolegol."

Pynciau cysylltiedig