O Wcr谩in i Lanrug: Cyngerdd telynores i ddiolch am gartrefu ei mam

Disgrifiad o'r llun, Alla a Veronika

Mae telynores ryngwladol sydd wedi perfformio yn neuaddau mwyaf adnabyddus y byd wedi perfformio yn Sefydliad Coffa Llanrug i ddiolch i鈥檙 gymuned am roi lloches i鈥檞 mam o Wcr谩in.

Ac mewn cyngerdd emosiynol fe berfformiodd Veronika Lemishenko ddeuawd gyda鈥檌 mam Alla.

Dywedodd Veronika, sy鈥檔 byw yng Nghroatia erbyn hyn, wrth Cymru Fyw ar 么l y cyngerdd: 鈥淢ae lot fawr o deuluoedd o Wcr谩in yn cael trafferth i weld ei gilydd heb s么n am chwarae cerddoriaeth gyda鈥檌 gilydd fel fi a Mam heddiw. Roedd gallu gwneud hynny a鈥檌 rannu, a鈥檌 roi i bobl yma - roedd yn rhywbeth arbennig.鈥

Disgrifiad o'r llun, Alla, sy'n byw yn ardal Llanrug, a Veronika, sy'n byw yng Nghroatia, gyda'i gilydd eto yn chwarae deuawd

Roedd y cerddor wedi dod i Brydain i roi gwersi yn y Royal Birmingham Conservatoire a鈥檙 Royal Northern College of Music.

Ond cyn iddi deithio n么l i gyfandir Ewrop i berfformio yn yr Almaen, fe chwaraeodd mewn ambell leoliad yng ngogledd Cymru dros y penwythnos gan gynnwys perfformiad yn y Sefydliad Coffa - neu'r 鈥業nstitiwt鈥 - yn Llanrug, ger Caernarfon.

Roedd wedi cynnig rhoi cyngerdd am ddim er mwyn dangos ei gwerthfawrogiad gan fod aelodau agos o鈥檌 theulu - yn cynnwys ei mam - wedi cael eu cartrefu yno ar 么l dianc o'r rhyfel.

Ond er bod yr ystafell yn llawn, roedd y delynores yn gyfforddus gan ei bod wedi arfer perfformio ar draws y byd - gan gynnwys Berliner Philharmonic, Teatro La Fenice, Paris Philharmonic, Yr Academi Gerdd Frenhinol a鈥檙 Esplanade yn Singapore.

Ffynhonnell y llun, 成人快手/Getty/Charles Platiau

Disgrifiad o'r llun, Rhai o'r lleoliadau mae Veronika wedi perfformio ynddyn nhw dros y blynyddoedd (clocwedd o'r chwith uchaf): Teatro La Fenice, Esplanade Singapore, Sefydliad Coffa Llanrug a'r Paris Philharmonic

Fe gafodd Veronika, sy鈥檔 canu鈥檙 delyn gyda Theatr Genedlaethol Croatia a Cherddorfa Symffonig Genedlaethol Wcr谩in, ei geni yn Karakiv - dinas ger y ffin gyda Rwsia sydd wedi ei difrodi yn ystod y rhyfel.

Mae'r delynoes, sydd wedi sefydlu elusen i helpu ei chydwladwyr, ar hyn o bryd yn casglu i brynu offerynnau i blant Wcr谩in ac roedd cyfle i bobl gyfrannu ar ddiwedd y cyngerdd.

Disgrifiad o'r llun, Wrth i'r rhyfel fynd i'w thrydedd blwyddyn, mae ysgolion Karakiv yn cael eu hadeiladu o dan y ddaear

Meddai Veronika: 鈥淩oedd fy mam yn ddigalon ar y cychwyn ar 么l symud yma, ond mae鈥檙 bobl wedi trin Wcrainiaid - sy鈥檔 ddieithriaid - fel teulu, ac roeddwn i eisiau diolch.

"Rydyn ni鈥檔 hapus iawn i fedru casglu arian i鈥檙 elusen wrth gwrs, ond mae鈥檔 fwy na hynny; mae鈥檔 ffordd o ddiolch.鈥

Ychwanegodd Alla: 鈥淢ae Llanrug yn lle anhygoel - dwi鈥檔 hoffi bod yma. Mae rhai pobl mewn llefydd yn helpu am gyfnod ac wedyn yn anghofio - sy鈥檔 oc锚, ond dwi鈥檔 teimlo鈥檙 gefnogaeth yn fan yma bob dydd.

鈥淒wi angen mynd yn 么l i Wcr谩in yn ystod yr hydref. Mae fy mam dal yno, ac mae hi鈥檔 88, ac mae fy ng诺r yno, felly mae angen i mi fynd yno i'w gweld nhw.鈥

Disgrifiad o'r llun, Veronika yn cymeradwyo'r gynulleidfa ar 么l iddi eu harwain i ganu Ar Hyd y Nos

Yn ogystal 芒'r ddeuawd gyda'i mam, fe berfformiodd Veronika nifer o ddarnau - gan gynnwys rhai traddodiadol Wcr谩in, Fflamenco, a chyfansoddiad gan y delynores Cymraeg Catrin Finch. Ac fe ofynnodd i鈥檙 gynulleidfa ganu Ar Hyd y Nos.

Meddai: 鈥淩oedd yn deimlad braf yma. Weithiau dydi pobl ddim yn canu llawer - ond roedd pawb yn canu fan yma yn syth. Ro鈥檔 i wrth fy modd - roedd fel cyfathrebu, fel sgwrs.鈥

Trefnwyd y cyngerdd gan gynghorydd Llanrug, Beca Brown.

鈥淩oedd yn brofiad hynod emosiynol ac yn gwneud i rywun feddwl go iawn am beth sy鈥檔 digwydd yn yr Wcr谩in a pha mor bwysig ydi hi i ni fel cymuned i roi noddfa i bobl sy鈥檔 ffoi,鈥 meddai.

鈥淩oedd hefyd yn gyfle i鈥檙 gymuned yma ddod at ei gilydd i werthfawrogi鈥檙 ddawn anhygoel sydd gan Veronika ac i fedru rhoi i鈥檞 helusen, ac roedd teimlad cynnes iawn yn yr ystafell.

"Roedd lot o emosiwn a ro鈥檔 i鈥檔 teimlo鈥檔 freintiedig i glywed rhywun o鈥檙 safon yna ar ein stepen drws.鈥