Ailagor Theatr y Palas Abertawe wedi 15 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae theatr yn Abertawe a fu鈥檔 llwyfan i Charlie Chaplin ac Anthony Hopkins wedi ailagor ei drysau am y tro cyntaf ers 2006.
Roedd disgwyl y byddai Theatr y Palas yn cael ei dymchwel ar 么l i'r adeilad fod yn wag am dros 15 mlynedd.
Ond yn dilyn prosiect gwerth bron i 拢10m, mae'r adeilad bellach wedi ailagor ac yn cynnwys caffi, swyddfeydd a lle i ddigwyddiadau.
Pan agorodd yn 1888, roedd yn denu hyd at 900 o ymwelwyr bob nos, a dros y degawdau mae鈥檙 adeilad wedi ei ddefnyddio fel neuadd bingo a chlwb nos.
'Abertawe angen rhywle fel hyn'
Fel rhan o鈥檙 gwaith adeiladu, mae nifer o nodweddion gwreiddiol y theatr wedi鈥檜 hadfer, gan gynnwys y bwa coch o amgylch y llwyfan, llen y llwyfan a鈥檙 brics coch gwreiddiol y tu allan.
Cwmni Tramshed Tech sydd nawr yn prydlesu鈥檙 adeilad, gyda鈥檙 gobaith o ddenu busnesau technoleg a busnesau lleol i weithio yno.
Mae Max Rees o Abertawe fel arfer yn gweithio o adref i gwmni technoleg, ond erbyn hyn mae'n gobeithio gweithio yn yr adeilad yn gyson.
Dywedodd: 鈥淔i wedi gweithio o adre ers pum mlynedd, felly mae鈥檔 neis i gael swyddfa fel hyn ac i weithio gyda phobl newydd.
鈥淔i jest yn gweld ci fi fel arfer, ond mae鈥檔 neis i weithio gydag eraill a chael y cysylltiad yna gyda phobl.
鈥淔i bendant yn credu roedd Abertawe angen rhywle fel hyn, felly mae鈥檔 gr锚t.鈥
Y gantores o Gaerdydd, Jessica Robinson, oedd y cyntaf i ganu ar y llwyfan ers ailagor yr adeilad.
鈥淢ae鈥檔 anrhydedd i berfformio ar y llwyfan yma ac i ymuno ag enwau fel Charlie Chaplin ac Anthony Hopkins sydd hefyd wedi perfformio yma. Mae鈥檔 llwyfan eiconig,鈥 meddai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi 拢6.9m yn y prosiect fel rhan o gynllun Trawsnewid Trefi.
Yn 么l Jayne Bryant AS, ysgrifennydd y cabinet dros lywodraeth leol a thai, mae鈥檙 gwaith yn 鈥渂wysig iawn鈥.
鈥淢ae鈥檔 arbennig i fod mewn adeilad fel hyn sydd wedi cael bywyd newydd trwy鈥檙 buddsoddiad," medai.
鈥淢ae buddsoddi mewn canol dinasoedd a threfi yn hynod bwysig, mae鈥檔 denu pobl i鈥檙 ardal, mae鈥檔 bwysig i鈥檙 economi leol ond hefyd mae鈥檔 bwysig i sut mae pobl yn teimlo am lle maen nhw鈥檔 byw.鈥
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf