成人快手

Caernarfon i chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf erioed

Louis LloydFfynhonnell y llun, Cymdeithas B锚l-droed Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Louis Lloyd sgoriodd y g么l gyntaf i Gaernarfon

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Caernarfon yn chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes ar 么l ennill rownd derfynol gemau ailgyfle'r Cymru Premier.

Fe enillodd y Cofis o 3-1 diolch i goliau gan Louis Lloyd, Zack Clarke a Sion Bradley yn yr hanner cyntaf.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod Caernarfon yn hawlio'u lle yn rowndiau rhagbrofol Cyngres Europa - neu'r Europa Conference League - ac yn derbyn hwb ariannol o bron i 拢200,000.

Dywedodd rheolwr y clwb, Richard Davies, cyn y g锚m, y byddai cyrraedd Ewrop yn gallu "newid y clwb am byth".

Ffynhonnell y llun, Mabon Rowlands
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y cynnwrf yn amlwg o amgylch tref Caernarfon cyn y g锚m

Fe aeth y t卯m cartref ar y blaen wedi 20 munud wedi g么l gan yr asgellwr Louis Lloyd.

Chwaraeodd Darren Thomas bas wych drwy ganol amddiffyn Penybont, ac fe lwyddodd Lloyd i godi'r b锚l dros y golwr - gan rwydo am y degfed tro'r tymor hwn.

Fe chwaraeodd Lloyd ran hollbwysig yn yr ail g么l hefyd, yn cael ei lorio gan Billy Borge yn y cwrt cosbi wedi i'r amddiffynnwr de fethu a delio gyda ph锚l uchel dros ei ben.

Fe ergydiodd Zack Clarke yn bwerus i gornel y rhwyd o 12 llath i'w gwneud hi'n 2-0 i'r Cofis ar 么l 26 munud.

Ffynhonnell y llun, Mabon Rowlands
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd rheolwr Caernarfon, Richard Davies, y byddai 聽cyrraedd Ewrop yn gallu "newid y clwb am byth"

Deg munud yn ddiweddarach ac roedd hi'n 3-0 diolch i g么l ardderchog gan Sion Bradley.

Fe gipiodd Bradley'r meddiant ar yr asgell chwith, mynd heibio amddiffynnwr arall ar ymyl y cwrt cosbi cyn crymanu'r b锚l heibio'r golwr i gornel y rhwyd.

Roedd cyfleoedd i'r ddau d卯m yn yr ail hanner ond fe lwyddodd Caernarfon i amddiffyn eu mantais tan yr eiliadau olaf.

Fe wnaeth Ryan Reynolds, amddiffynwr Penybont sy'n dod yn wreiddiol o Gaernarfon, ergydio'n gywir o 30 llath i gornel ucha'r rhwyd i'w gwneud hi'n 3-1.

Ffynhonnell y llun, Mabon Rowlands