成人快手

S锚r mewn g锚m b锚l-droed i gefnogi plant 芒 chanser

Disgrifiad,

Katy Yeandle yn rhannu stori ei mab, Joseph, a fu farw o fath prin o ganser yn 2021 ag yntau ond yn dair oed

  • Cyhoeddwyd

Byddai wedi gwneud diwrnod Joseph Yeandle i weld Owain Tudur Jones, Joe Ledley a llu o s锚r YouTube a Love Island yn chwarae yn stadiwm ei hoff glwb, mewn g锚m a gafodd ei ysbrydoli ganddo fo.

Yn anffodus, bu farw'r cefnogwr p锚l-droed o fath prin o ganser yn 2021, ag yntau ond yn dair oed.

Nawr mae ei fam Katy a'i fodryb Emma wedi rhoi eu bywydau i helpu teuluoedd fel nhw.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y g锚m yn Abertawe ddydd Sadwrn

Yn y gobaith o godi ymwybyddiaeth ac arian i helpu teuluoedd plant 芒 niwroblastoma, fe wnaethon nhw drefnu g锚m all-star rhwng Cymru a Lloegr yn Stadiwm Swansea.com Abertawe ddydd Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd teulu Joseph wedi codi arian i'w anfon i America am driniaeth

"Rwy'n cofio sefyll yn y glaw gyda bwced ar gornel stryd yn ceisio codi arian er mwyn i Joseph gael yr hyn yr oeddem yn gobeithio fyddai'n driniaeth i achub ei fywyd yn America," meddai Katy.

"Roeddwn i'n meddwl ar y pryd 'beth ydw i'n gwneud yma, dylwn i fod yn treulio'r amser gwerthfawr yma gyda fy mab' ond roedden ni mor daer angen codi'r arian, fe wnaethon ni'r hyn roedd yn rhaid i ni."

Roedd y teulu'n gobeithio codi 拢300,000 fel y gallai Joseph gael triniaeth newydd yn Efrog Newydd - triniaeth nad oedd ar gael ar y GIG - sef y treial brechlyn Deufalent.

Cododd y teulu 拢200,000 mewn naw mis trwy ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd ar-lein, ond bu farw Joseph ychydig ddyddiau ar 么l y Nadolig yn 2021

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Katy wrth gofio ei mab ei bod "yn gallu gweld ei w锚n bob dydd"

Roedd rhieni Joseph, Katy a James, wedi prynu ei wisg ysgol gyntaf, ond ni chafodd fyth ei gwisgo, ac roedd yna anrhegion Nadolig na chafodd byth eu hagor.

Ond maen nhw wedi sianelu eu galar i helpu eraill.

"Allwn i ddim gadael i unrhyw un arall fynd trwy'r hyn a wnaethom ni - y teimlad o anobaith a phwysau i godi arian i geisio achub ei fywyd," meddai Katy, sydd wedi cael ei chydnabod gan wobrau Pride of Britain am ei gwaith.

"Dydw i ddim yn difaru ceisio codi arian, ond byddai'n dda pe na byddai'n rhaid i mi golli'r amser y gallwn fod wedi'i gael gyda Joseph.

"Felly os gallwn ni leddfu'r baich yna ar famau a thadau sy'n mynd trwy uffern, a rhoi amser iddyn nhw dreulio pob eiliad gyda'u plentyn yn hytrach na phoeni am yr arian, yna mae hynny'n etifeddiaeth gadarnhaol i Joseph.

"Mae'n bwysig i ni fel teulu gan ei fod wedi helpu yn ein galar. Mae'n teimlo ein bod ni'n ei gadw'n fyw."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sefydlodd Katy yr elusen Joseph's Smile gyda'i chwaer Emma

Ffurfiodd Katy a'i chwaer Emma Rees, 43, elusen Joseph's Smile ac maen nhw wedi dosbarthu'r arian a godwyd ar gyfer triniaeth Joseph i blant s芒l eraill.

Ar hyn o bryd maen nhw'n cefnogi 16 o deuluoedd.

Fe wnaeth y ddwy fam o Sir G芒r helpu i ddenu rhai o wynebau enwocaf a chwaraewyr gorau'r DU i gymryd rhan mewn g锚m rhwng Cymru a Lloegr yn Abertawe brynhawn Sadwrn.

Bu s锚r p锚l-droed fel Ashley Williams a Joe Ledley yn ymuno 芒'r arwyr rygbi Shane Williams a Gareth Thomas, ynghyd 芒 s锚r teledu realiti, mewn t卯m o Gymry a oedd yn cael ei reoli gan arwr Euro 2016 Cymru, Chris Coleman.

Roedd t卯m Lloegr yn cynnwys cyn-chwaraewyr fel Jermain Defoe, dan arweiniad Sol Campbell fel rheolwr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bradley Lowery gyda'i arwr, Jermain Defoe - daeth y ddau yn agos yn y misoedd cyn i Bradley farw yn chwech oed yn 2017 o'r un canser prin 芒 Joseph

Cafodd t卯m Lloegr ei drefnu gan Sefydliad Bradley Lowery, a gafodd ei ddechrau er cof am fachgen chwech oed a fu hefyd farw o niwroblastoma yn 2017.

Mae'r ddau sefydliad yn gobeithio codi ymwybyddiaeth ac arian i deuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio gan niwroblastoma - canser sy'n datblygu mewn celloedd nerfol, sy'n effeithio'n bennaf ar blant dan bump oed.

Dywed Katy bod y g锚m, er iddi gymryd bron i ddwy flynedd i'w threfnu, wedi ei helpu cymaint, ac mae'n gobeithio y bydd yn helpu teuluoedd eraill hefyd.

"'Dw i wedi treulio misoedd yn eistedd ar fy soffa yn e-bostio asiantau. 'Dw i wedi anfon neges at tua 2,000," meddai.

"Mae'r galar yno bob amser, a rhai misoedd alla i ddim gwneud dim byd - hyd yn oed gadael y t欧.

"Mae'r elusen yn ein helpu ni gymaint ag y mae'n helpu'r plant. Mae siarad am Joseph yn fy nghadw'n brysur, a 'dw i'n gallu gweld ei w锚n bob dydd."