Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pum munud gyda... y Doctor Cymraeg
Mae gan y Doctor Cymraeg filoedd o ddilynwyr ar Twitter, TikTok, Instagram a YouTube, ble mae鈥檔 postio fideos hwyliog i helpu dysgwyr gydag ystyr a tharddiad geiriau ac ymadroddion Cymraeg.
Un o drigolion balch Sir y Fflint a gafodd ei fagu ar aelwyd ddi-Gymraeg sydd y tu 么l i gyfrifon y Doctor. Wedi ei fagu yng Nghoed-llai ger Wrecsam, cafodd Stephen Rule ei addysg mewn ysgol cyfrwng Saesneg gan gymryd at yr iaith yn ei arddegau, ei dysgu a mynd ymlaen i ennill gradd yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth.
Mae鈥檔 byw gyda鈥檌 deulu yng Nghaergwrle, yn awdur nifer o lyfrau am ddysgu Cymraeg ac yn gweithio fel athro Cymraeg.
Faint o Gymraeg oedd o dy gwmpas pan oeddet ti鈥檔 tyfu i fyny?
Doedd dim Cymraeg o gwmpas o gwbl pan o鈥檔 i鈥檔 tyfu fyny. Roedd gwersi Cymraeg yn yr ysgol 鈥榤ond awr neu ddwy yr wythnos.
Ers i ni golli Taid, dw i 鈥榙i ffeindio ei fod lawr ar y Census fel siaradwr Cymraeg ers pan oedd o鈥檔 blentyn, ond ddaru o ddim pasio鈥檙 iaith ymlaen i鈥檞 blant. 鈥極鈥檔 i鈥檔 clywed o鈥檔 dweud ambell i beth yn Gymraeg fel 鈥淒w i wedi blino, dw i鈥檔 mynd i gysgu鈥 a 鈥淭shyd o鈥檔e鈥 wrth y c诺n. Ond dim lot mwy na hynny.
Ar y pryd, do鈥檔 i ddim yn ymwybodol fod o鈥檔 siarad iaith wahanol, ond mae鈥檔 braf gwybod r诺an mai ganddo fo ges i fy Nghymraeg gynta鈥.
Beth sydd wedi dy wneud mor angerddol am y Gymraeg?
Dim syniad. Dw i鈥檔 meddwl wnaeth o ddod pan o鈥檔 i yn yr ysgol uwchradd, tua 12 oed. Pan ydych chi yn yr ysgol, chi naill ai isio bod fel pawb arall, neu鈥檔 hollol unigryw. Mi 鈥榦鈥檔 i isio bod yn unigryw, ac mi oedd y Gymraeg yn rhoi鈥檙 cyfle i fi fod yn unigryw, ac i deimlo鈥檔 agosach at le ges i fy ngeni a fy magu, wrth gwrs.
Yn eironig, pan ddaru fi ddod ar draws siaradwyr go iawn pan es i i鈥檙 brifysgol, wnaeth y teimlad o fod yn unigryw newid yn sydyn iawn i fod yn deimlad o gymuned; oedd yn hyfryd iawn i鈥檞 brofi hefyd.
Sut ddaeth y Doctor Cymraeg i fod a beth oeddet ti鈥檔 ei weld oedd y 鈥榖wlch yn y farchnad鈥 pan wnest ti ddechrau gwneud fideos ar-lein?
Do鈥檔 i ddim yn chwilio am fwlch yn y farchnad pan ddaru fi ddechrau Doctor Cymraeg. Ro鈥檔 i 鈥榤ond isio helpu pobl oedd ar y daith i鈥檙 Gymraeg a dangos iddyn nhw fod hwyl i鈥檞 gael ar ben y trafferthion a鈥檙 rhwystrau hefyd.
Dros y cyfnod clo, ddaru fi weld llwyth o bobl yn gofyn cwestiynau ar wefannau cymdeithasol ac yn cael tua 20 o atebion mewn gwahanol dafodieithoedd ac i raddau amrywiol o gywirdeb.
Roedd y bobl oedd wedi gofyn y cwestiwn yn y lle cynta鈥 yn ymateb i ddweud bod yr atebion i gyd wedi drysu nhw鈥檔 fwy. Roedd hyn wedi torri nghalon i, felly ro鈥檔 i isio cynnig un lle i bobl fynd i gael eu hatebion, a bach o anogaeth hefyd.
Mae鈥檙 erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniat芒d cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae鈥檔 bosib eich bod am ddarllen Twitter a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch 鈥榙erbyn a pharhau鈥.
Diwedd neges Twitter
Rwyt ti鈥檔 athro yn Ysgol Maelor yn dy waith o ddydd i ddydd. Sut wyt ti鈥檔 gweld sefyllfa鈥檙 iaith yn dy ardal?
Dw i鈥檔 cofio clywed y cwestiynau stereotypical pan ddaru fi ddechrau yn yr ysgol; 鈥Why do I have to learn this?鈥 ac yn y blaen. Diolch byth, wnes i glywed y cwestiwn yna mwy yn y flwyddyn gynta鈥 na thros y 13 blynedd i gyd ers hynny; sy鈥檔 beth da, dw i鈥檔 meddwl!
Dw i鈥檔 cael y teimlad bod yr iaith yn rhywbeth mae plant 鈥 a phawb yn gyffredinol 鈥 yn gweld fel rhywbeth pwysig a defnyddiol dyddiau yma. Ar ben dysgu iaith newydd, mae gymaint o sgiliau pwysig fatha datrys problemau, sgiliau cyfathrebu a sgiliau meddwl dwfn sy鈥檔 dod law yn llaw efo dysgu iaith. Mae Cymraeg yr un mor bwysig 芒 phob pwnc ysgol arall, heb os.
Pa reswm fyddet ti鈥檔 ei roi i bobl dros ddysgu?
Dw i byth yn trio rhoi rheswm i neb. Does dim rhaid i ti ddysgu Cymraeg i fyw yng Nghymru. Ond i鈥檙 rhai sy鈥 isio bod yn rhan o rywbeth mor arbennig yn ein gwlad ni, mae lawr iddyn nhw ffeindio eu rheswm eu hunain.
Mae miliwn ac un o resymau i ddysgu Cymraeg, a 鈥榤ond un sy鈥檔 鈥榓nghywir,鈥 sef yr un ddaru fi ddewis: 鈥榤od i ddim yn Gymro heb yr iaith. Dw i鈥檔 falch ddaru鈥檙 rheswm yna arwain fi at y nod o fod yn rhugl, ond ro鈥檔 i鈥檔 Gymro i鈥檙 carn heb yr iaith, ac mae鈥檔 rhaid i bobl gofio hynny. Er, mae dysgu Cymraeg yn bendant yn helpu i deimlo鈥檔 agosach at gymunedau a straeon Cymreig ein gwlad.
Beth all siaradwyr iaith gyntaf ei wneud i helpu pobl sy鈥檔 dysgu?
Siaradwch efo ni. Y broblem ydy, dydy siaradwyr iaith gynta鈥 erioed wedi cael hyfforddiant o sut i siarad efo dysgwyr. Dydyn nhw ddim yn gwybod pryd i arafu, pryd i gyfieithu darnau anodd, pryd a sut i annog.
Dw i wir ddim yn trio siarad lawr ar bobl mamiaith sy鈥檔 caru鈥檙 iaith gymaint 芒鈥檙 dysgwyr eu hunain, ond mae鈥檙 baich o gadw鈥檙 iaith yn fyw ar y siaradwyr iaith gynta鈥 gymaint ag ydy o ar y siaradwyr newydd. Rhaid i ni ddod at ein gilydd, rhaid i ni ymuno 芒 grwpiau o ddysgwyr, rhaid i ni gynnig cymorth i ddysgwyr gymaint ag y gallwn ni.
Ti鈥檔 hoffi edrych ar darddiad a hanes yr iaith; pe baset ti鈥檔 cael mynd n么l i gyfnod arbennig yn hanes y Gymraeg, i ba gyfnod fyddet ti鈥檔 mynd?
Fyswn i naill ai yn licio mynd rownd y gwledydd Celtaidd efo Edward Lhuyd yn casglu鈥檙 ieithoedd Celtaidd i gyd am y tro cynta鈥, neu 鈥榮诺n i鈥檔 mynd 鈥榥么l i鈥檙 13eg ganrif a ffeindio鈥檙 Dywysoges Gwenll茂an ac esbonio iddi mai tywysoges Cymru ydy hi.
Ti hefyd yn angerddol am Sir y Fflint; alli di roi blas o鈥檙 dafodiaith neu eirfa Gymraeg leol?
Dene鈥檙 cwestiwn oddai鈥檔 aros amdano, n鈥檃ye. Blas bach ene i chi. Ma鈥 tafodieth Sir Fflint 鈥 dim Sir *y* Fflint rownd fam鈥檈 鈥 mor ddiddorol. Yn anffodus, pan fydd pobl yn ei chlywet鈥檌, ma鈥 nhw鈥檔 meddwl bo鈥 ni jyst yn ddysgwyr sy鈥 methu siarad yn iawn. Ond na, siaradwyr Sir Fflint balch iawn 鈥榙en ni.
Ma鈥 ne lwyth o ymadroddion fathe 鈥榗hware鈥檙 hen鈥 (= dweud y drefn) a 鈥榮napin鈥 (= byrbryd), sy鈥 bron 鈥榙i marw allan erbyn hyn. 鈥楧en ni鈥檔 gor鈥檕 edrych ar 么l pethe fel 鈥榥e er mwyn cofio pwy yden ni.
鈥楽wn i鈥檔 licio gweld mwy o ffocws gyn y cyfrynge i鈥檔 tafodieth ni er mwyn i bobl erill y wlad w鈥檅od bod ni yma a bod ni ishe rhannu a dathlu pwy yden ni鈥 ac i 鈥榥eud yn si诺r bo鈥 pobl yn gw鈥檅o鈥 bo鈥 ni鈥檔 swnio fel hyn achos tafodieth ni a dim achos bo鈥 ni鈥檔 ddysgwyr i gyd.
Sbia, dio ddim yn gyfrinach bod tafodieth ni 鈥榙i cael ei heffeithio lot gyn Sa鈥檚neg, ond rhan o鈥檔 hanes ni ydy hyn鈥檈, ac ma鈥檔 r鈥檞beth i ni ddathlu鈥 dim r鈥檞beth i deimlo鈥檔 drist amdano!
Pryd mae鈥檙 Doctor yn rhoi ei waith i gadw a Stephen yn cael ymlacio?!
Prin iawn dw i鈥檔 medru cofio pwy ydy/oedd Stephen erbyn hyn. Dw i 鈥榤ond yn ateb i 鈥楧octor,鈥 鈥楽yr鈥 (yn y gwaith), neu 鈥楧adi鈥 dyddie yma! Pob dydd ar 么l dod adre鈥 o鈥檙 gwaith, dw i鈥檔 trio fy ngorau jyst i fod efo fy mab am gymaint o amser ag y galla鈥 i.
Wedyn, ar 么l iddo fynd i鈥檞 wely, dw i鈥檔 defnyddio鈥檙 egni prin sy鈥 gen i ar 么l i ymateb i bobl ar y cyfryngau cymdeithasol, sgriptio syniadau am fideos newydd, addasu unrhyw fideos ddaru fi ffilmio ar y penwythnos, neu sgwennu pennod arall o ba bynnag llyfr sy鈥 gen i 鈥on the go鈥 ar y pryd.
- Gwrandewch ar Stephen yn siarad ar raglen Bore Sul ar Radio Cymru.