Nick Yeo: Cyflwynydd y podlediad dysgu Cymraeg, Sgwrsio
- Cyhoeddwyd
Heddiw mae 成人快手 Radio Cymru yn cyhoeddi podlediad dysgu Cymraeg newydd o'r enw Sgwrsio.
Y cyflwynydd yw Nick Yeo, sydd wedi'i fagu ger Casnewydd. Dechreuodd ddysgu Cymraeg dros ddeng mlynedd yn 么l, ac mae wedi bod wrthi'n achlysurol cyn bwrw iddi'n iawn pan oedd yn 26 mlwydd oed.
Cyn dod yn rhan o bodlediadau 成人快手 Sounds roedd Sgwrsio eisoes yn boblogaidd ac wedi ennill gwobr yn y British Podcast Awards.
Rhan o'i fwriad wrth greu'r podlediad oedd darparu rhywbeth i'r siaradwyr newydd rheiny oedd ar ganol eu taith.
Dywedodd, "O'n i'n meddwl mae llawer o bethau [i helpu gyda dysgu] pan ti'n dechrau dysgu Cymraeg ac mae llawer o bethau ar y diwedd. Ond o'n i'n meddwl bod rhyw fath o fwlch yn y canol ac o'n i eisiau trio creu rhywbeth i bobl sy'n gwneud lefel canolradd, neu sylfaen, neu uwch hefyd."
Mae Sgwrsio ar gael ar 成人快手 Sounds nawr.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd ar gael i siaradwyr newydd
- Cyhoeddwyd14 Mai
- Cyhoeddwyd30 Ebrill