成人快手

Caerdydd: Dyn yn y llys wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio

Llun fan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad tu allan i Ysgol Uwchradd Cathays ar 28 Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 31 oed sydd wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio gyrrwr dosbarthu ar 么l ei daro a'i lusgo o dan ei fan wedi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ddydd Mawrth diwethaf ar Ffordd y Gogledd, un o'r prif ffyrdd i mewn i Gaerdydd.

Wrth ymddangos yn y llys drwy gyswllt fideo, fe wnaeth Christopher Elgifari o Aberd芒r siarad dim ond i gadarnhau ei enw, dyddiad geni a chyfeiriad.

Cafodd yr achos ei ohirio tan y gwrandawiad nesaf ar 10 Mai, pan fydd disgwyl i Mr Elgifari bledio.

Doedd dim cais am fechn茂aeth.