成人快手

Beth fydd y gyllideb yn ei olygu i Gymru?

Rachel ReevesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rachel Reeves yw'r Canghellor benywaidd cyntaf yn hanes Llywodraeth y DU

  • Cyhoeddwyd

Am y tro cyntaf ers 2009, fe fydd Llafur yn cyflwyno cyllideb o gynlluniau trethi a gwario i Brydain brynhawn Mercher.

Rachel Reeves sy'n gyfrifol am lunio'r gyllideb newydd - y fenyw gyntaf erioed i fod yn Ganghellor.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi rhybuddio bod trethi am orfod codi, gan gyfeirio at dwll ariannol o 拢22bn yn y coffrau, ond maen nhw鈥檔 mynnu y byddan nhw hefyd yn codi arian er mwyn buddsoddi at y dyfodol.

Beth felly fydd hyn i gyd yn ei olygu i Gymru, gyda dwy lywodraeth Lafur ar ddau ben yr M4 am y tro cyntaf ers dros ddegawd?

Gwasanaethau cyhoeddus

Mae Syr Keir Starmer wedi addo ailadeiladu gwasanaethau cyhoeddus a throi cefn ar flynyddoedd o lymder.

Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi cyhoeddi y bydd mwy o arian i ysgolion ac ysbytai yn Lloegr, gyda disgwyl arian ychwanegol i Gymru yn sgil hynny.

Ond faint o arian a pha mor bell aiff yr arian hwnnw, yn wyneb y galwadau am arian gan bawb o鈥檙 gwasanaeth iechyd i addysg i gynghorau a thu hwnt?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe fydd y gyllideb yn 鈥済am cyntaf ar y daith鈥 i adfer coffrau Cymru, meddai Mark Drakeford

Rhybudd rhag disgwyl cyllideb chwyldroadol i Gymru mae ysgrifennydd cyllid Cymru, Mark Drakeford, sydd wedi bod yn trafod gyda鈥檙 trysorlys.

Ond fe awgrymodd Mr Drakeford y bydd y gyllideb yn 鈥済am cyntaf ar y daith鈥 i adfer coffrau Cymru.

Busnesau bach

Er mwyn talu am unrhyw wariant ar wasanaethau o ddydd i ddydd, mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd yn rhaid codi trethi.

Daw hynny er eu bod nhw wedi addo peidio codi treth ar 鈥渨eithwyr鈥 - gan gynnwys treth ar werth, treth incwm, nac yswiriant gwladol.

Ond mae disgwyl y bydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol gan gyflogwyr yn codi 鈥 a hynny鈥檔 bryder i fusnesau bach, sy鈥檔 poeni y bydd hynny a chodi鈥檙 isafswm cyflog i weithwyr yn gost anodd ar eu busnesau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cat Owen yn poeni y gallai'r newidiadau arwain at ragor o gostau i'w busnes hi

Mae Cat Owen wedi bod yn rhedeg cwmni pobi ac addurno cacennau, Cat Food ers 10 mlynedd, tra hefyd yn gweithio rhan amser mewn swydd arall er mwyn cynnal ei hun.

Mae hi鈥檔 poeni y gallai newidiadau鈥檙 gyllideb roi pwysau ychwanegol ar ei busnes bach hi.

鈥淭uag at y Nadolig fydd gen i weithwyr ychwanegol yma yn pacio鈥檙 orders i gyd, felly mae鈥檔 poeni fi," meddai.

"Falle yn y gyllideb, y bydd National Insurance yn mynd i fyny o ran fi, ond nid o ran nhw, felly fydd hi鈥檔 costi mwy i fi gyflogi nhw flwyddyn yma.

"Fydd o鈥檔 effeithio ar faint o oriau dwi鈥檔 medru rhoi, effeithio ar faint dwi鈥檔 mynd i godi am bethau 'Dolig fi hefyd."

Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi galw ar y Trysorlys i amddiffyn busnesau bach rhag y baich ychwanegol yma.

Cefn gwlad

Mae disgwyl hefyd i鈥檙 Canghellor godi arian trwy godi treth etifeddiaeth, a chodi鈥檙 dreth ar danwydd 鈥 dau newid fyddai鈥檔 cael effaith andwyol ar gefn gwlad Cymru, yn 么l y gwrthbleidiau.

Mae treth tanwydd wedi cael ei rewi ers dros ddegawd, ond ers 2022 mae Llywodraeth y DU hefyd wedi torri 5c y litr oddi ar bris tanwydd er mwyn helpu gydag effaith chwyddiant.

Pe bai鈥檙 Canghellor yn codi pris tanwydd, byddai hynny鈥檔 cael effaith anghymesur ar gefn gwlad Cymru, lle mae llai o opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus, yn 么l Sam Kurtz o鈥檙 Ceidwadwyr Cymreig.

Mae鈥檙 drefn sy鈥檔 caniat谩u i dir amaeth gael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i鈥檙 nesaf heb dalu treth etifeddiaeth hefyd dan y chwyddwydr gan y Canghellor.

Pe bai hynny yn newid, fe allai gael 鈥渆ffaith drychinebus ar ffermydd teuluol Cymru a鈥檜 cyfraniad cymdeithasol ac economaidd,鈥 yn 么l Aelod Seneddol Plaid Cymru Ben Lake.

Taliadau tanwydd y gaeaf

Mae gan Gymru ganran uwch o bensiynwyr na鈥檙 un wlad arall yn y Deyrnas Unedig.

Mae hynny鈥檔 golygu pryder uwch yngl欧n ag effaith y penderfyniad i dorri taliadau tanwydd y gaeaf i鈥檙 mwyafrif o bensiynwyr, gyda Llywodraeth y DU yn amcangyfrif y bydd 400,000 yn cael eu heffeithio yng Nghymru.

Bydd y newid yn cyfyngu鈥檙 taliad i bensiynwyr sy鈥檔 derbyn credyd pensiwn, ac yn arbed rhyw 拢1.4bn i鈥檙 Trysorlys eleni.

Ond mae Comisiynydd Pobl H欧n Cymru wedi rhybuddio y gallai arwain at 4,000 o farwolaethau ychwanegol, ac mae pwysau felly ar y llywodraethau San Steffan a Chaerdydd i sicrhau bod digon o gefnogaeth ar gael i helpu unrhyw un sy鈥檔 wynebu caledi.

HS2

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Eluned Morgan yn dweud nad yw hi wedi colli gobaith o sicrhau arian i Gymru yn sgil cynllun rheilffordd cyflym HS2

Mae HS2 - y cynllun rheilffordd cyflym newydd i gysylltu de a gogledd Lloegr - wedi bod yn destun dadleuol yng Nghymru ers ei gyhoeddi.

Does dim ceiniog ychwanegol yn dod i Gymru yn ei sgil, er gwaetha鈥檙 biliynau o wariant arno yn Lloegr.

Gwrthod galwadau am arian i Gymru wnaeth y Llywodraeth Geidwadol flaenorol, a dyw Llywodraeth Lafur newydd y DU ddim wedi ymrwymo i hynny chwaith.

Mae pob plaid yn y Senedd wedi dweud bod y penderfyniad hwnnw yn annheg.

Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan wedi mynnu nad yw ei llywodraeth wedi 鈥渋ldio鈥 yn y frwydr honno, ond gyda Llywodraeth y DU yn cyfri' bob ceiniog, go brin y bydd y 拢4bn mae Plaid Cymru鈥檔 dweud sy鈥檔 ddyledus am y prosiect ar ei ffordd i Gymru wedi鈥檙 gyllideb.

Diogelu hen domenni glo

Mae dros 2,500 o hen domenni glo yng Nghymru, gan gynnwys 350 sy鈥檔 cael eu hystyried yn rai risg uchel.

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ers blynyddoedd ar Lywodraeth y DU i ariannu鈥檙 gwaith o鈥檜 diogelu, gan amcangyfrif cost o ryw 拢500m dros 15 mlynedd.

Mae Ysgrifennydd Cyllid Cymru, Mark Drakeford, yn dweud ei fod wedi bod 鈥漨ewn trafodaethau鈥 gyda鈥檙 Trysorlys am hyn, a鈥檌 fod yn 鈥漮beithiol鈥 o weld symud i鈥檙 cyfeiriad hwnnw.