成人快手

Cyllideb Cymru: Mwy o boen i wasanaethau cyhoeddus?

YsbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Er y bydd toriadau mewn rhai mannau, mae disgwyl i gyllid iechyd gael ei warchod

  • Cyhoeddwyd

Os ydych chi'n defnyddio'r gwasanaeth iechyd, yn mynd i'ch llyfrgell leol, yn gyrru ar ffyrdd Cymru, mwynhau trip i'r amgueddfa neu ond eisiau rhywun i gasglu eich sbwriel, mae'n debygol bydd y gyllideb yn cael effaith fawr ar y gwasanaethau rydych chi eu hangen neu'n eu mwynhau.

Mae disgwyl toriadau dydd Mawrth, wrth i'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans gyhoeddi cynlluniau gwario Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25.

Mae gweinidogion eisoes wedi gorfod addasu eu cyllidebau y flwyddyn yma er mwyn dod o hyd i filiynau o bunnoedd er mwyn rhoi hwb i'r gwasanaeth iechyd ac i gadw trenau'n rhedeg.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bydd cyllideb Cymru am y flwyddyn nesaf gwerth 拢1.3bn yn llai mewn grym gwario go iawn o'i gymharu 芒 thair blynedd yn 么l oherwydd chwyddiant.

Mae dros 80% o gyllideb 拢20bn Llywodraeth Cymru yn dod gan Lywodraeth y DU, gyda gweinidogion Cymru yn dewis sut mae'n cael ei wario.

Daw'r gweddill o drethi, gan gynnwys treth incwm.

Beth fydd yn cael ei warchod?

Mae'r Prif Weinidog wedi dweud eisoes y bydd iechyd a llywodraeth leol yn cael eu diogelu gymaint 芒 phosib.

Yn y toriadau a gafodd eu gwneud yn gynharach eleni, cafodd y GIG 拢425m yn ychwanegol tra bod cyllid craidd cynghorau wedi'i warchod.

Fe wnaeth Trafnidiaeth Cymru dderbyn 拢125m yn ychwanegol i gadw trenau'n rhedeg, ac mae awgrym cryf y bydd angen i'r gefnogaeth ychwanegol yna barhau.

Ond mae'n bosib y bydd unrhyw arian ychwanegol i'r GIG ond yn ddigon i'w gadw ar yr un lefel - yn hytrach nac ariannu gwelliannau sylweddol - oherwydd galw cynyddol, prisiau ynni uchel a chodiadau cyflog.

Mae 80% o wariant Llywodraeth Cymru yn mynd ar iechyd a chynghorau, felly bydd yn rhaid i doriadau gael eu gwneud rhywle arall.

Cynghorau lleol

Mae'r cyllid craidd i gynghorau yn debygol o gael ei warchod rhag unrhyw doriadau eto.

Mae'r 22 o gynghorau Cymru yn disgwyl cyhoeddiad y bydd 3.1% o godiad yn eu cyllid dydd Mawrth.

Ond mae hynny dal yn llawer is na chyfradd chwyddiant, ac felly'n golygu ei fod yn doriad mewn termau real.

Mae'r sefyllfa wedi cael ei disgrifio fel un enbyd, gydag arweinwyr cyngor eisoes wedi crybwyll y posibilrwydd y gallai awdurdodau lleol fynd yn fethdalwyr.

Felly beth mae hynny'n ei olygu i'r gwasanaethau mae'r awdurdodau lleol yn gyfrifol amdanynt, fel casgliadau sbwriel, torri gwair a goleuadau stryd?

Gall rhai gwasanaethau gael eu torri, gall swyddi gael eu colli, ac mae'n debygol y bydd treth y cyngor yn codi - fwy na thebyg dros 5% - wrth i awdurdodau lleol ei chael hi'n anodd ariannu popeth.

Busnesau bach

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae dros 80% o gyllideb 拢20bn Llywodraeth Cymru yn dod gan Lywodraeth y DU

Mae busnesau Cymru yn galw ar y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans i ddilyn yr hyn mae Llywodraeth DU wedi'i wneud yn Lloegr, sef ymestyn y cynllun sy'n gostwng cyfraddau busnes 75% i siopau a'r diwydiannau lletygarwch a hamdden.

Bydd perchnogion busnes yn hapus os fydd y gweinidog yn gwneud hynny, ond bydd yn gadael llai o le i Ms Evans newid pethau mewn mannau eraill.

Treth incwm

Mae Mark Drakeford wedi cadarnhau fod treth incwm wedi cael ei drafod mewn cyfarfodydd cyn y gyllideb.

Mae gan Lywodraeth Cymru'r p诺er i amrywio cyfradd treth incwm, ond dyw erioed wedi gwneud hynny.

Byddai hynny'n hynod o annhebygol y tro hwn, gyda Mr Drakeford wedi cydnabod fod lawer o bobl yng Nghymru'n ei chael hi'n anodd gyda'r argyfwng costau byw.

A fyddai werth y poen gwleidyddol i Lywodraeth Cymru beth bynnag?

Byddai codiad o geiniog ar draws y bandiau treth yn casglu tua 拢230m - llawer yn llai na'r hyn mae Llywodraeth Cymru'n dweud sy'n fyr ganddynt.

Er mwyn llenwi'r bwlch 拢1.3bn, fe fyddai'n rhaid i dreth incwm gynyddu 4c.

Blas o'r hyn sydd i ddod?

Mae disgwyl cyfnod hir o gyfyngiadau ar wariant cyhoeddus gan Lywodraeth DU, fydd yn cael effaith uniongyrchol ar Gymru.

Ni fydd pethau'n newid yn fuan os mai Keir Starmer a'r Blaid Lafur fydd yn ennill yr etholiad cenedlaethol, sy'n cael ei ddisgwyl y flwyddyn nesaf.

Mae wedi rhybuddio eisoes na fydd Llafur "yn troi'r tapiau gwario ymlaen yn gyflym".