'Fawr o ddewis' ond cynyddu ffioedd prifysgolion Cymru
- Cyhoeddwyd
Nid oes gan Lywodraeth Cymru "fawr o ddewis" ond i gynyddu ffioedd prifysgolion yn unol 芒 Lloegr, yn 么l corff Prifysgolion Cymru.
Daeth cadarnhad ddydd Llun y byddai ffioedd yn Lloegr yn cynyddu i 拢9,535 o'r flwyddyn nesaf, gydag Ysgrifennydd Addysg Lloegr yn rhybuddio fod y sector yn wynebu "argyfwng ariannol".
Llywodraeth Cymru sy鈥檔 gosod ffioedd ar gyfer prifysgolion yma, ac maen nhw'n dweud y bydden nhw鈥檔 ystyried goblygiadau鈥檙 newid yma yn Lloegr.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgolion Cymru eu bod yn wynebu "rhai o'r heriau mwyaf difrifol yn hanes diweddar y sector".
Yn 么l Llywodraeth Cymru, maen nhw'n cydnabod fod prifysgolion "dan bwysau ariannol sylweddol ar hyn o bryd" a'u bod am gadarnhau'r cap ar ffioedd a'r pecyn cymorth i fyfyrwyr ar gyfer 2025/26 "cyn gynted 芒 phosibl".
- Cyhoeddwyd17 Hydref
- Cyhoeddwyd16 Awst
- Cyhoeddwyd27 Medi
Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'r cap ar ffioedd dysgu mewn prifysgolion Cymreig yn cynyddu i 拢9,250 o fis Medi.
Roedd ffioedd yng Nghymru wedi eu cadw ar 拢9,000 ers 2012.
Mae prifysgolion wedi dweud nad yw ffioedd a grantiau bellach yn ddigon i dalu costau addysgu israddedigion y DU, tra bod niferoedd myfyrwyr rhyngwladol wedi gostwng yn dilyn newidiadau i reolau fisa.
- Cyhoeddwyd10 Mai
- Cyhoeddwyd5 Ebrill
Mae mwyafrif prifysgolion Cymru wedi amlinellu cynlluniau i ddiswyddo staff o ganlyniad i bwysau ariannol.
Mae gan Brifysgol Caerdydd ddiffyg ariannol o 拢30m eleni, tra bod Prifysgol Bangor hefyd yn wynebu diffyg ariannol o 拢9m ar 么l derbyn llai o fyfyrwyr nag yr arfer.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgolion Cymru fod sefydliadau yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd i sicrhau eu cynaliadwyedd.
"O ystyried y pwysau presennol ar gyllid cyhoeddus, os ydym am gynnal prifysgolion Cymru a'r manteision y maent yn eu darparu i gymunedau lleol, yna rydym ni'n credu nad oes gan Lywodraeth Cymru fawr o ddewis ond i gynyddu lefelau ffioedd Cymru yn unol 芒 Lloegr,鈥 ychwanegodd y llefarydd.