成人快手

Prifysgol Caerdydd: Trefn ariannu prifysgolion 'wedi torri'

  • Cyhoeddwyd
Yr Athro Wendy Larner
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd yr Athro Larner yn arweinydd mewn prifysgol yn Seland Newydd cyn iddi gael ei phenodi i'r r么l

Mae pennaeth newydd Prifysgol Caerdydd yn dweud bod y drefn ar gyfer ariannu prifysgolion "wedi torri", a bod rhaid newid y ffordd mae'r sefydliad yn gweithio.

Mae'r Athro Wendy Larner wedi awgrymu y gallai hynny olygu torri'n 么l ar rhai o weithgareddau'r brifysgol.

Hi yw'r fenyw gyntaf i gael ei phenodi'n is-ganghellor prifysgol fwyaf Cymru ers ei sefydlu 140 o flynyddoedd yn 么l.

Daw ar gyfnod o newid ar draws prifysgolion Cymru - bydd gan bump o'r wyth sefydliad is-ganghellor newydd erbyn diwedd y flwyddyn academaidd.

Mae'r Athro Larner yn dweud ei bod yn dechrau'r swydd mewn cyfnod pan mae yna farc cwestiwn yngl欧n 芒'r model ar gyfer addysg uwch.

Dywedodd ei bod am gynnal "sgwrs fawr" gyda myfyrwyr a staff am ddyfodol y brifysgol.

"Bydd angen i ni fod yn wahanol ar gyfer y dyfodol," meddai.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r pennaeth newydd yn gyfrifol am 33,000 o fyfyrwyr a 6,000 o aelodau staff ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae'r Athro Larner wedi awgrymu y gallai hynny olygu torri'n 么l ar yr hyn mae'r brifysgol yn ei wneud, er na ddywedodd beth fyddai'r goblygiadau ar gyfer swyddi.

"Gyda'n myfyrwyr cartref, dyw'r ffioedd ddim yn talu cost eu haddysg - a dyw'r arian ry'n ni'n ei gael am ein hymchwil ddim yn talu cost ein hymchwil," meddai.

Ychwanegodd bod ffioedd myfyrwyr rhyngwladol yn talu am waith arall y brifysgol, ac nad yw hynny'n gynaliadwy.

Mae myfyrwyr cartref yn talu 拢9,000 y flwyddyn yng Nghymru, a 拢9,250 yn Lloegr.

Wedi cyfnod y pandemig, gweithredu diwydiannol a chostau cynyddol, mae hi'n cydnabod ei bod wedi bod yn gyfnod anodd i fyfyrwyr.

Ac er bod darparu cymorth bugeiliol yn flaenoriaeth, rhybuddiodd mai nad dyma arbenigedd prifysgolion a bod yna drafodaeth am ffiniau dyletswyddau prifysgolion dros les myfyrwyr.

'Moment arwyddocaol'

Mae'r Athro Larner yn dechrau'r swydd wrth i benaethiaid newydd gymryd yr awenau ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Aberystwyth, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac wrth i Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam gyhoeddi y bydd hi'n gadael ei swydd y flwyddyn nesaf.

Roedd hi'n arweinydd mewn prifysgol yn Seland Newydd cyn iddi gael ei phenodi i'r r么l 拢290,000 y flwyddyn yng Nghaerdydd.

Mae hi'n gyfrifol am 33,000 o fyfyrwyr a 6,000 o aelodau staff.

Dywedodd ei bod hi'n foment arwyddocaol i'r brifysgol wrth i fenyw gymryd y llyw am y tro cyntaf, a'i bod hi'n "hen bryd" i hynny ddigwydd.

Ei bwriad yw arwain mewn ffordd gydweithredol, meddai, gan ddweud bod cyn-Brif Weinidog Seland Newydd, Jacinda Ardern yn arwr iddi.

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru yn dweud bod y Gweinidog yn "ymgysylltu'n rheolaidd ac yn adeiladol 芒'r sector ynghylch model cynaliadwy ar gyfer Addysg Uwch".