成人快手

'Cofio meddwl am fy hun fel parsel cyn cael fy mabwysiadu'

Jon a Catrin Manel yn mwynhau yn yr eira gyda'r plantFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jon a Catrin Manel yn mwynhau yn yr eira gyda'r plant

  • Cyhoeddwyd

"Mae'n bwysig rhoi sylw i brofiad y plentyn wrth s么n am fabwysiadu," medd Courtney-Olwen Manel, sydd bellach ym mlwyddyn 13.

A hithau'n Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu, mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn poeni bod nifer y bobl sy'n cofrestru i fabwysiadu yn gostwng.

Cafodd Courtney-Olwen a'i brawd eu mabwysiadu gan eu rhieni maeth, Catrin a Jon Manel pan oedd Courtney bron yn chwech oed.

Fel cofnod o'i phrofiad, mae hi wedi ysgrifennu cerdd - cerdd sy'n s么n am ba mor gadarnhaol yw ei phrofiad gyda'i theulu mabwysiedig.

Dywed ei bod yn ymwybodol nad dyna brofiad pawb ond "bod ei phrofiad hi yn un hynod hapus".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Catrin a Courtney-Olwen wedi llwyddiant yn Eisteddfod yr Urdd

"Roedd dod at deulu oedd yn mynd i fy mabwysiadu pan o'n i bron yn chwech oed yn newid enfawr," meddai Courtney-Olwen wrth siarad 芒 Cymru Fyw.

"Mae'r rhan fwyaf o blant yn cyrraedd pan yn iau ond roeddwn i eisoes wedi profi bywyd arall ac yn cofio am y bywyd hwnnw.

"Ro'n i wedi bod mewn dau le gofal... i ddweud y gwir dwi'n meddwl am fy hun yn y cyfnod hwnnw fel parsel bach oedd yn glanio ymhob man.

"Roeddwn wedi dechrau yn yr ysgol - ac yn cael addysg Saesneg wrth gwrs ond yna dyma gyrraedd cartref bendigedig Catrin a Jon.

"Ie cartref yn Llundain ond y tro hwn cael ein magu yn Gymry.

"Dwi wedi cael addysg Gymraeg tan yr ysgol uwchradd a wastad yn siarad Cymraeg gyda Mam a'i theulu."

'Arwyr y stori yw'r teulu hwn'

"Heb os, Catrin a Jon yw Mam a Dad ac fel dwi'n dweud yn y gerdd 'er nad yw i'n rhannu'ch gwaed, chi fydd yn deulu i mi, bob tro'.

"Yn amlwg doedd hi ddim yn gwbl hawdd ar y dechrau ond dwi a fy mrawd wedi cael magwraeth anhygoel."

Dywed ei bod wedi meddwl pan yn ieuengach a ddylai hi gysylltu 芒'i rhieni gwaed pan fyddai hi'n 18.

"Mi oedd o'n chwarae ar fy meddwl i. Dwi wedi cael cyfnodau o holi am fy identity, pwy ydw i ond dim bellach.

"Erbyn hyn dwi ddim yn teimlo bo fi eisiau cysylltu 芒 fy nheulu gwaed ac fel mae fy ngherdd i'n dweud:

'Tra bod gwaed wedi tolchennu a'm gadael i lawr, arwyr y stori yw'r teulu hwn.

'Y teulu nad oedd yn gweld gofal yn aberth...'"

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Courtney-Olwen yn perfformio monolog yn Eisteddfod Genedlaethol 2024

Gobaith Courtney-Olwen yw mynd i Brifysgol Aberystwyth wedi iddi orffen ei arholiadau Safon Uwch yn 2025.

"Dwi'n gobeithio astudio Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd wedi i mi gwblhau arholiadau lefel A Ffrangeg, Saesneg a Hanes - ac arholiad AS Cymraeg.

"Er yn byw yn Llundain, dwi wedi cael blas mawr ar weithgareddau Cymraeg gan gystadlu ar y fonolog ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd a 'nes i fwynhau yn gynharach eleni bod yn un o griw y Cwmni gyda Theatr Ieuenctid yr Urdd," meddai.

"Dwi'n gwybod bod profiad pawb yn wahanol ond dwi'n awyddus iawn i bwysleisio bod fy mrawd a fi wedi bod mor ffodus.

"'Dan ni wedi bod mor lwcus o gael rhieni sydd wedi rhoi i ni gariad go iawn - ac ydy, mae mor bwysig clywed lleisiau'r plant sydd wedi'u mabwysiadu."