Dyfodol undeb myfyrwyr Cymraeg hynaf Cymru 'dan fygythiad'

Disgrifiad o'r llun, Mae UMCA yn gwrthod dilysrwydd y broses frysiog yma, meddai Cadeirydd UMCA, Nanw Maelor
  • Awdur, Ellis Roberts
  • Swydd, Newyddion S4C

Mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg hynaf Cymru - UMCA - yn dweud bod eu dyfodol yn y fantol.

Mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn ystyried cael gwared ar un o bum swyddog etholedig llawn amser oherwydd toriadau ariannol.

Dywedodd UMCA bod rhai o fewn yr Undeb yn ehangach yn cwestiynu鈥檙 angen am Lywydd Cymraeg.

Yn 么l Undeb Myfyrwyr Aberystwyth "does dim newid i unrhyw un o'r rolau yn Undeb Aber heddiw".

Sefyllfa yn 'corddi' myfyrwyr

Dywedodd Cadeirydd UMCA nad yw'r sefyllfa yn ddieithr i fyfyrwyr Cymraeg y brifysgol.

鈥淢ae o鈥檔 ein corddi ni fel myfyrwyr Cymraeg ein bod hyd heddiw yn parhau i wynebu鈥檙 un bygythiadau 芒 frwydrwyd dros yr hanner canrif ddiwethaf,鈥 meddai Nanw Maelor.

鈥淢ae pwyllgor UMCA yn gwrthod dilysrwydd y broses frysiog yma.

鈥淩ydyn ni鈥檔 credu mai o鈥檙 gwraidd i fyny y mae undebau yn bodoli ac mai鈥檙 unig fyfyrwyr dylai fod 芒 hawl dros barhad swydd sabothol Llywydd UMCA yw鈥檙 myfyrwyr y mae鈥檔 eu gwasanaethu.鈥

Mewn ymateb, dywedodd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, eu bod "wedi dechrau ar broses o ymgynghoriad ar bob un o鈥檙 rolau swyddogion y dyfodol (yn union fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol) o ganlyniad i bolisi".

Ychwanegodd: "[M]a' 'na lawer o bethau i ystyried a dydi鈥檙 ymgynghoriad ddim yn agos o gwbl at unrhyw ganlyniad.

鈥淏ydd mwy o ymgynghori ac ystyriaeth i鈥檞 gynnal鈥 a phrosesau democrataidd i鈥檞 dilyn cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud.鈥

Nid oedd Prifysgol Aberystwyth am ymateb, gan ddweud mai mater i鈥檙 undeb yw hwn.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Swyn Dafydd, myfyriwr yn y brifysgol, bod angen i r么l Swyddog y Gymraeg i fod yn un llawn amser

Fe ddaeth criw o fyfyrwyr ynghyd y tu allan i adeilad y brifysgol nos Wener.

Dywedodd un oedd yno, Swyn Dafydd: 鈥淣i ishe byw drwy gyfrwng y Gymraeg. Hebddo UMCA a鈥檙 llywydd fydde ddim hanner y digwyddiadau yn cael eu cynnal wedyn.

鈥淵n fy marn i mae angen iddo fod yn swydd sabothol lawn-amser oherwydd wrth astudio fydde ddim yr amser gyda chi i roi mewn i鈥檙 swydd.鈥

Yn 么l Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru mae UMCA yn fwy na sefydliad sy鈥檔 trefnu digwyddiadau cymdeithasol yn unig.

鈥淢aen nhw hefyd yn sicrhau llais o fewn y brifysgol academia, gwasanaethau cefnogol gan sicrhau bod y ddarpariaeth yna ac i fod yn llais i fyfyrwyr,鈥 meddai Deio Owen.

鈥淧an ma' gyda chi swyddog sy鈥檔 gweithio鈥檔 benodol ar y Gymraeg mae鈥檙 effaith yna i weld bron yn syth ar y gymuned Gymraeg o fewn y brifysgol ac yn ehangach.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae Catrin Dafydd o'r farn mai 鈥渕yfyrwyr UMCA ddylai benderfynu ar dranc a dyfodol鈥 UMCA

Roedd yr awdur Catrin Dafydd yn Llywydd UMCA rhwng 2003-2004 ac mae鈥檔 mynnu mai 鈥渕yfyrwyr UMCA ddylai benderfynu ar dranc a dyfodol鈥 UMCA.

鈥淢ae鈥檙 syniad bod 'na swyddogion neu fod 'na doriadau yn gallu gwneud dewisiadau fel hyn yn dwyn anfri ar y syniad democrataidd fod llywyddion wedi鈥檜 hethol gan eu myfyrwyr a鈥檙 myfyrwyr bia鈥檙 dewis,鈥 meddai.

鈥淢ae鈥檙 brwydro 'ma yn mynd n么l yn hanesyddol bob tro ma' myfyrwyr iaith Gymraeg a siaradwyr newydd wedi gorfod mynnu eu hawliau nhw."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Dylan Jones Evans ei bod hi'n "amser i鈥檙 gwleidyddion dynnu eu pennau allan o鈥檙 tywod"

Daw hyn ar ddiwedd wythnos gythryblus i addysg uwch yng Ngheredigion gydag ansicrwydd ynghylch campws Llambed, Prifysgol Y Drindod.

Ond yn 么l economegydd sy鈥檔 arbenigo ar addysg uwch nid yw'r sefyllfa yn unigryw i Aberystwyth.

鈥淢ae鈥檔 glir bod 'na broblemau ariannol anferthol yn y sector,鈥 meddai Dylan Jones Evans.

鈥'Da ni wedi gweld prifysgol fwyaf Cymru - Prifysgol Caerdydd - yn dweud eu bod nhw am wneud colled o dros 拢30m eleni, Prifysgol De Cymru am wneud colledion o dros 拢20m, mae 'na broblemau yn Aberystwyth, ma' 'na broblemau ym Mangor.

鈥淒wi'n meddwl fod hi yn amser i鈥檙 gwleidyddion dynnu eu pennau allan o鈥檙 tywod ac edrych i weld beth 'da ni am wneud yng Nghymru.

鈥淥herwydd ar 么l datganoli'r llywodraeth yng Nghymru sydd yn gyfrifol am ddyfodol addysg uwch a pha effaith ma' hyn am gael ar yr economi yng Nghymru鈥.

Wrth siarad ar raglen Newyddion S4C nos Wener fe ymatebodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru i sefyllfa prifysgolion Cymru.

"Ni'n mynd trwy'r cyllid i ystyried be sy'n digwydd dros y flwyddyn nesa," meddai.

"Wrth gwrs mae'r trafodaethau ynglyn ag os byddwn ni'n neud hynny yn y dyfodol yn mynd i barhau."