Dathlu 50 mlwyddiant Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn Aberystwyth i nodi hanner can mlwyddiant undeb myfyrwyr Cymraeg cyntaf Cymru.
Cafodd UMCA Aberystwyth ei sefydlu yn 1974 "er mwyn cynrychioli llais myfyrwyr Cymraeg y brifysgol".
Mae dathliadau dydd Sadwrn yn cynnwys teithiau tywys o amgylch Neuadd Pantycelyn - neuadd myfyrwyr Cymraeg y brifysgol - a sesiwn holi ac ateb gyda chyn-lywyddion o bob degawd.
Mae artistiad gig Gwyl UMCA 50, sy'n cloi'r diwrnod, yn cynnwys y gr诺p Mynediad am Ddim, sydd hefyd yn dathlu eu hanner canrif eleni.
Artistiaid eraill y gig yw Dros Dro, Cyn Cwsg a Mei Emrys.
Llywydd presennol UMCA, Elain Gwynedd sydd wedi trefnu rhaglen y dydd.
Dywed Ms Gwynedd, sydd hefyd yn Swyddog Diwylliant Cymreig Undeb Aberystwyth, bod ei chyfnod ei hun fel aelod o UMCA "wedi fy ngwneud i鈥檔 bwy ydw i heddiw".
Mae dyletswyddau'r llywydd, meddai, wedi newid cryd dipyn mewn hanner can mlynedd.
"Roedd y Llywydd ar y dechra' yn gorfod brwydro i sicrhau fod lleisiau'r Cymry Cymraeg yn cael eu clywed," meddai.
"Erbyn heddiw mae Llywydd UMCA yn gyflogedig, ddim yn gwneud y gwaith yn wirfoddol, ac mae'n rhan o nifer o bwyllgorau allweddol o fewn y Brifysgol, gan gynnwys Cyngor y Brifysgol, Bwrdd Academaidd Senedd y Brifysgol a Phwyllgor Gweithredol y Gymraeg.
"Mae gen i fel Llywydd UMCA heddiw r么l flaenllaw i sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei chlywed yn y Brifysgol yn ehangach nag undeb y myfyrwyr."
Yn y r么l honno, fe gyflwynodd Ms Gwynedd bolisi yn gynharach eleni i newid enw Undeb Myfyrwyr Aberystwyth Students Union, i Undeb Aberystwyth.
Mae鈥檙 Undeb "wedi chwarae rhan allweddol mewn nifer o ymgyrchoedd" dros y blynyddoedd, gan gynnwys y galw i sefydlu鈥檙 Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn fwy diweddar, i achub Neuadd Pantycelyn.
Un o heriau'r bennod nesaf yn hanes yr undeb, medd Elain Gwynedd, fydd "sicrhau fod gan bawb yr hawl i gael eu graddau drwy gyfrwng y Gymraeg".
Mae hefyd angen sicrhau cynnydd yn y ddarpariaeth Gymraeg a'r modiwlau sydd ar gael drwy'r iaith, ac i berswadio cyn "gymaint o fyfyrwyr Cymraeg i Aberystwyth, a'u denu nhw i aros yng Nghymru".
Mae Elain Gwynedd yn rhagweld heriau ariannol hefyd wrth geisio sicrhau fod y Gymraeg yn cael blaenoriaeth.
"'Dan ni gyd yn ur un cwch, ond mae angen gweithio efo'n gilydd.
"Mae hi'n sefyllfa anodd gan fod ffioedd dysgu heb fynd fyny, ond chwyddiant wedi cynyddu a chostau byw yn gwneud petha'n anodd i bawb. Mae hi'n gyfnod dyrys i fyfyrwyr."
Mae'n fwriad i drefnu dathliadau arbennig ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf hefyd i nodi 50 mlynedd ers sefydlu Neuadd Pantycelyn fel neuadd Gymraeg.