³ÉÈË¿ìÊÖ

Bardd y Dre' cyntaf Caernarfon am roi 'llais i'r dre'

Iestyn Tyne yn sefyll ar Bont yr Aber gyda Chastell Caernarfon yn y cefndirFfynhonnell y llun, Iestyn Tyne
Disgrifiad o’r llun,

Iestyn Tyne fydd bardd y dref am weddill cyfnod y cyngor presennol

  • Cyhoeddwyd

Mae Bardd y Dre' cyntaf Caernarfon yn dweud ei fod yn "gyffrous" cael cyfle i "roi llais i'r dre'".

Iestyn Tyne, 27, sydd wedi'i benodi i'r rôl newydd, gyda chomisiwn i gyfansoddi cerddi sy'n dal hanfod y dref.

Fe fydd disgwyl iddo gyflwyno o leiaf pum cerdd wreiddiol y flwyddyn, am weddill tymor y cyngor tref.

Dywed y bardd o Ben Llŷn, sydd wedi byw a gweithio yn ardal Caernarfon ers chwe mlynedd: "Dwi 'di cymryd o Gaernarfon yn fy ngwaith personol ac mae hyn felly yn gyfle i fi roi yn ôl i’r gymuned."

Mae hanes llenyddol Caernarfon wedi bod yn ysbrydoliaeth i'w waith, meddai.

"Mae’r ffaith bod cymaint o lenorion wedi bod yn y dre' ac wedi cael eu hysbrydoli yno, yn fy ysbrydoli i yn yr un ffordd.

"Os wyt ti’n mynd yn ôl i’r 19eg ganrif, mae'r holl bapurau newyddion a chylchgronau oedd yn cael eu creu yng Nghaernarfon yn anhygoel.

"Mae'r hanes llenyddol a diwylliannol yn yr ardal yn mor gyfoethog."

'Mae’n lle difyr iawn'

Iestyn Tyne oedd bardd preswyl yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 2019-23.

Mae hefyd wedi cyhoeddi tair cyfrol o farddoniaeth, gyda'r casgliad diweddaraf - Dysgu Nofio - wedi eu lleoli yng Nghaernarfon.

"Wrth fyw yn yr ardal, mae’r bobl wedi dod yn dipyn o gymeriad yng ngwaith fy hun," meddai.

"Mae cymaint o bobl wahanol yn dod ynghyd yma – oherwydd bod gwreiddiau nhw yma, a'r bobl sy’n symud i mewn.

"Mae’n lle difyr iawn."

Ffynhonnell y llun, Iestyn Tyne
Disgrifiad o’r llun,

Bellach mae Iestyn Tyne yn byw yn ardal Waunfawr, gyda'i wraig Sophie a merch fach Nansi

Yn Aberystwyth mae Eurig Salisbury eisoes yn fardd ar y dref, a dywedodd Iestyn ei fod wedi cymryd ysbrydoliaeth o'i waith yno.

"‘Nes i weld popeth oedd yn digwydd yn Aberystwyth ac roeddwn i'n really hoffi hynny."

Yng Nghaernarfon, y cyngor tref sy'n talu'r ffi o £1,000 y flwyddyn am gerddi'r bardd.

Bydd y penodiad yn wreiddiol hyd at Ionawr 2026 gyda’r opsiwn o’i ymestyn.

'Her i edrych ymlaen ato'

Dywedodd Iestyn y byddai'r gwaith yn "wahanol iawn" i'r hyn mae wedi cyhoeddi hyd yma, ond "mae'n her i edrych ymlaen ato".

Ei nod yw cyfansoddi cerddi fydd yn cael eu cyflwyno mewn dulliau sy’n mynd y tu hwnt i’r ddalen brint, ac mae'n gobeithio cymryd ysbrydoliaeth o ddigwyddiadau diwylliannol o gwmpas yr ardal.

Ffynhonnell y llun, Iestyn Tyne
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iestyn wedi pefformio ei waith ledled Cymru a thu hwnt

"Efallai bydd yna ddarn o farddoniaeth am ddarn o gelf gyhoeddus neu ddigwyddiad penodol yn y dre," meddai.

Yn ogystal, mae'r bardd yn edrych ymlaen at farddoni mewn ffordd gymunedol a chyhoeddus, trwy ymateb i syniadau pobl leol.

Dywedodd: "Bydd 'na gyfleoedd i rannu stwff yn gymunedol a gweithio gydag ysgolion lleol a pwy bynnag sydd eisiau cymryd rhan.

"Mae cyfeiriad e-bost gennym ni felly rwy’n agored iawn i unrhyw awgrymiadau sy'n dod."