³ÉÈË¿ìÊÖ

Pum munud gyda Bardd y Mis: Eirian Dafydd

  • Cyhoeddwyd

Treuliodd Eirian Dafydd flynyddoedd cyntaf ei bywyd ym Mlaenau Ffestiniog. Symudodd y teulu i Ynys Môn pan oedd hi'n saith lle bu hi'n byw yn Llannerch-y-medd nes mynd i'r brifysgol yng Nghaerdydd.

Yn ferch i weinidog roedd symud o le i le yn gyffredin iawn, ond mae bellach wedi ymgartrefu yn y brifddinas. Bu'n athrawes am dros chwarter canrif, ond mae bellach wedi ymddeol ac wedi dechrau barddoni yn y cyfnod ers hynny.

Ffynhonnell y llun, Eirian Dafydd

Rydych wedi treulio llawer o'ch gyrfa yn addysgu. Beth oedd eich pwnc chi?

Nes i ymddiddori mewn Gwyddoniaeth yn Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch, a wedyn dod i lawr i Brifysgol Caerdydd i astudio Biocemeg i fy ngradd cyntaf. Nes i aros ymlaen wedyn i wneud gradd doethuriaeth yn yr adran yna cyn symud ymlaen i 'neud gwaith ymchwil meddygol yn yr ysgol feddygol yng Nghaerdydd am ryw chwe mlynedd.

Wedyn newid gyrfa mewn ffordd. Es i mewn i ddysgu ac oedd ‘na, ar y pryd, brinder athrawon Mathemateg a Ffiseg. Felly nes i hyfforddi i ddysgu Ffiseg. O’n i wedi 'neud 'chydig o Ffiseg yn y coleg beth bynnag. Felly am ryw chwarter canrif fues i’n dysgu Ffiseg ac Electroneg yn Ysgol Gyfun Cymer, Rhondda.

Nes i ymddeol o fanno, yn gynnar mewn ffordd, a mynd i weithio yn llawrydd gan wneud pethau gwahanol am flynyddoedd wedyn – rhai o’r pethau dw i’n dal yn gwneud i fod yn onest. Dw i dal i gysodi’r Dinesydd, y papur bro. Ond nes i roi’r gorau i diwtora a dysgu.

Fues i am gyfnod, ar ôl gadael y Cymer, am ryw bedair neu bum mlynedd yn dysgu Cymraeg i oedolion.

Rydych chi'n ddiacon yng Nghaerffili. Dywedwch ychydig wrthym am hynny.

Rydw i yn ymwneud llawer gyda’r eglwys dw i’n perthyn iddi yng Nghaerffili fel diacon. Dw i’n gwneud cwpl o oedfaon nawr ac yn y man.

Dw i hefyd yn aelod o grŵp Agor y Llyfr yng Nghaerdydd; grŵp sy’n mynd o amgylch ysgolion yn cyflwyno storïau o’r Beibl mewn gwasanaethau.

Dw i’n ystyried ei fod yn bwysig bod rhywun yn mynd â’r eglwys allan i’r gymuned.

Ry'n ni’n cael ymateb da iawn gan y plant. Rydyn ni’n trio eu cynnwys nhw yn y cyflwyniadau rydyn ni’n wneud, ac maen nhw’n hoffi hynny. Ac wrth gwrs, maen nhw’n cael sticer bach ar y diwedd.

Ffynhonnell y llun, Eirian Dafydd

Fel person â chefndir gwyddonol, beth ddenodd chi at farddoni?

Wy’n credu ei fod e ar ôl i mi ymddeol yn llwyr o ddysgu, nes i benderfynu efallai y dylwn i gael ryw her newydd mewn bywyd. O’n i’n hoffi barddoniaeth beth bynnag, ac fe benderfynais i ‘reit her newydd nawr’ gan fod rhywun yn cyrraedd y 60 oed, a nes i ymuno efo ysgol farddol Caerdydd i ddysgu cynganeddu.

Mi wnaeth y peth gydio ynddaf i, o’n i’n mwynhau y peth. A dweud y gwir mae ‘na rhywbeth gwyddonol, mathemategol, wy’n teimlo, ynglŷn â chynganeddu oherwydd mae yna reolau cadarn y mae’n rhaid eu dysgu.

Mae yna batrymau pendant i’r gynghanedd, ac mae hwnna yn ffitio mewn dw i’n teimlo efo rheolau a threfn, nid yn unig natur, ond dwi’n sôn am gemeg a ffiseg ac electroneg – mae’r pethau yma i gyd yn dilyn rhyw batrwm pendant, digyfnewid mewn ffordd.

Dweud y gwir mae 'na nifer o wyddonwyr a mathemategwyr yn cynganeddu – rhywun fel Karen Owen, mathemategydd. Ella bod yn rhywbeth sydd yn apelio mewn cynganeddu i’r meddwl gwyddonol, mathemategol.

Beth arall fyddwch chi’n mwynhau ei wneud yn eich amser sbâr?

Gwylio adar. Dw i yn mwynhau byd natur.

Yn Blaenau roeddwn i’n byw reit yn ymyl Cwm Bowydd. Dwi’n cofio, yn blant lawr yn y cwm oedden ni’n mynd i chwarae. Wrth gwrs mae Ynys Môn yn wlad o amgylch y wlad a’r traethau felly dwi’n credu mod i wedi bod yn hoff o natur erioed.

Ond gwylio adar yw’r peth dw i wir yn mwynhau.

Dw i’n mynd i lawr i Fferm Y Fforest yng Nghaerdydd yn aml iawn i wylio adar. Mae enwau Cymraeg ar bethau fel adar, planhigion a blodau does dim lot o bobl yn gyfarwydd â nhw yn y Gymru fodern.

Ffynhonnell y llun, Eirian Dafydd
Disgrifiad o’r llun,

Gyda'i chlwb gwylio adar

Fel rheol ar fore Sadwrn cyntaf pob mis – rwy’n rhedeg rhyw fath o glwb gwylio adar. Mae pobl yn gallu ymuno a ry’n ni’n mynd rownd Fferm Y Fforest, neu’r Bae, neu gronfa ddŵr Llanisien a chyflwyno enwau Cymraeg adar i bobl fel bod yr enwau yma ddim yn mynd yn anghofiedig.

Mae’n syndod, mae pobl yn nabod rhai adar ac mae’r un peth yn wir am flodau, maen nhw’n gallu rhoi’r enw Saesneg ond dydyn nhw ddim yn gallu rhoi’r enw Cymraeg. Ac mae’r enwau Cymraeg mor ddisgrifiadol, fel glas y dorlan, sgrech y coed. Maen nhw’n cyfleu beth yw’r aderyn. Pioden y Môr yn un arall, sef oystercatcher.

Ffynhonnell y llun, Eirian Dafydd

Ai’r byd natur yw eich prif ysbrydoliaeth pan mae’n dod at farddoni?

Dw i yn ysgrifennu tipyn am fyd natur. Ond yn aml iawn mae rhywun yn ymateb i ryw destun pan chi’n perthyn i ysgol farddol ac yn derbyn gwaith cartref.

Dw i wedi sgwennu rhai yn ymwneud â newid hinsawdd, ac un ynglŷn â’n bod ni’n llygru’n hafonydd ac yn y blaen.

Ella bod natur yn tueddu i fod yn rhyw fath o syniad yn lot o fy ngherddi.

Dwi ddim yn fardd sydd wedi cynhyrchu lot felly mae’n anodd ateb y cwestiwn. Dim ond ers rhyw bum mlynedd dw i wrthi.

Oes gennych chi hoff fardd?

Dw i’n hoffi Waldo, R Williams-Parry, bardd byd natur ynde? Efallai am ei fod o’n ymwneud â natur yn ei gerddi ei bod yn apelio.

O safbwynt cynganeddu, ‘swn i’n dweud fy mod i’n hoff iawn o, yn amlwg Gerallt Lloyd Owen a Dic Jones, ond hefyd rhai mwy modern nawr – beirdd fel Gruffudd Owen, Aaron Pritchard, Aneirin Karadog a’r criw yma.

Ond dw i’m yn meddwl y gallwn i enwi un bardd fel fy hoff fardd. Rhywun sy’n gallu sgwennu’n ddealladwy ac yn gain heb fod yn dywyll.