Ymgyrch i brynu hen ysgol gynradd yng Ngheredigion

Disgrifiad o'r llun, Bydd yn rhaid i'r gymuned godi 拢175,000 cyn mis Gorffennaf i brynu Ysgol Cribyn

Mae ymgyrch gymunedol ar droed i gyd-brynu hen safle Ysgol Cribyn yng Ngheredigion.

Bwriad Cymdeithas Clotas yw datblygu鈥檙 lle yn neuadd gymunedol ac yn gartref fforddiadwy.

Mae鈥檔 rhaid iddyn nhw godi 拢175,000 cyn mis Gorffennaf.

Maen nhw'n dweud eu bod hanner ffordd drwy eu hymgyrch a bod yr arian eisoes yn cronni a'r diddordeb yn tyfu.

Maen nhw wedi gosod chwe wythnos o amser iddyn nhw鈥檜 hunain i godi鈥檙 arian.

'Arian yn cyrraedd bob dydd'

I nodi eu bod hanner ffordd drwy鈥檙 cyfnod ac i gadw鈥檙 diddordeb, cynhaliwyd 鈥榩arti hanner ffordd鈥 yn yr ysgol nos Wener, gyda lansiad cywydd arbennig gan fardd lleol, Ianto Jones.

Mae鈥檙 gymdeithas wedi bod yn cynnal digwyddiadau i godi arian ac yn gwerthu cyfranddaliadau yn yr adeilad.

Disgrifiad o'r fideo, Ysgol Cribyn - Cywydd gan Ianto Jones

Yn 么l Euros Lewis o Gymdeithas Clotas: 鈥淥 ran y cyfranddaliadau, yr isafswm yw 拢100, ac mae鈥檙 arian yn cyrraedd bob dydd.

"Ni鈥檔 hapus i weld cyfranddaliadau uwch na hynny wrth gwrs, ond mae fyny i bobl roi fel maen nhw鈥檔 gallu - hyd yn oed os ydi o鈥檔 拢10 y mis am gyfnod.

鈥淵n anffodus, ni ymhell o hanner ffordd o ran ein targed ariannol, ond be sy鈥檔 bwysig ydi bod yr arian yn dal i ddod i mewn. Mae 'na arian yn cronni bob dydd.鈥

'Cymaint o aelodau 芒 phosib'

Mae cyfanswm yr aelodau yn bwysig iawn i鈥檙 gr诺p llywio hefyd.

Ychwanegodd Mr Lewis: 鈥淏e' sy鈥檔 fwy pwysig ydi bod ganddom ni gymaint o aelodau ag sy鈥檔 bosib i gymryd perchnogaeth o鈥檙 syniad ac o鈥檙 lle.

鈥淒wi鈥檔 gobeithio bydd pobl yn cymryd y cyfle i brynu鈥檜 si芒r, a dio鈥檓 bwys os yn 拢100 neu鈥檔 拢1,000, yr un llais fydd 鈥檇a nhw wrth drafod datblygiadau鈥檙 ysgol.鈥

Disgrifiad o'r llun, Fe ddaeth nifer i drafod syniadau ar sut i ddatblygu'r ysgol yn ganolfan i'r gymuned

Pan gaewyd yr ysgol yn 2009, ffurfiwyd Cymdeithas Clotas er mwyn cynnal digwyddiadau yn yr adeilad gyda鈥檙 nos ac ar benwythnosau a denu newydd-ddyfodiaid i鈥檙 ardal i鈥檙 iaith a diwylliant Cymraeg.

Mae鈥檙 gymdeithas yn fath o senedd bentref sydd 芒 chynrychiolydd o bob mudiad yn y gymdogaeth.

Mae鈥檙 gymdeithas wedi ail-sefydlu Ffair Sant Silin, cynnal dathliadau G诺yl Ddewi, 'steddfodau dwl, twmpathau dawns, dosbarthiadau barddoni a lansiadau llyfrau.

Ym mis Hydref 2023, cynhaliwyd cyfarfod i drafod y posibilrwydd o greu Cwmni Budd Cymdeithasol, sef menter gydweithredol.

Ers hynny, maen nhw wedi penodi swyddog datblygu鈥檙 prosiect, Elliw Dafydd, i edrych ar ffyrdd o geisio am arian cyhoeddus sy鈥檔 cefnogi datblygiadau cymunedol.

Ar 么l pwyso ar y cyngor sir i ryddhau鈥檙 adeilad, fe gymeradwywyd hynny ym mis Ionawr ac mae鈥檙 cynnig ar agor nawr i鈥檙 gymuned ei phrynu.

Disgrifiad o'r llun, Euros Lewis o Gymdeithas Clotas yn holi Nia a Nerys Llewelyn am eu hatgofion o fyw yn Nh欧'r Ysgol

Lansiwyd yr ymgyrch godi arian dair wythnos yn 么l ac mae鈥檙 penseiri lleol wedi dechrau creu cynlluniau go iawn ar gyfer troi rhan helaetha鈥檙 adeilad yn ganolfan gymunedol.

Yn 么l Euros Lewis: 鈥淢ae鈥檙 adeilad yn syndod o fawr. Mae 鈥檔a ddwy ystafell ddosbarth gyda phartisiwn lawr y canol.

"O鈥檌 hagor, mae鈥檔 ofod braf fel neuadd bentref. Ni am gadw鈥檙 hen syniad o bared er mwyn cynnal hyblygrwydd yr adeilad.

鈥淥 dan yr adeilad, yn un pen, mae 鈥檔a stafell fawr, fel seler, lle roedd y plant yn cael eu cinio s'lawer dydd. Mae鈥檔 stafell llawn posibiliadau a鈥檙 syniad i鈥檞 ei defnyddio ar gyfer dosbarthiadau llesiant, corff a meddwl.鈥

T欧鈥檙 ysgol yn gartref fforddiadwy

Bydd t欧鈥檙 ysgol gynt yn cael ei droi鈥檔 gartref fforddiadwy ar gyfer teulu ifanc lleol ac mae鈥檙 broses o geisio am ganiat芒d cynllunio wedi dechrau.

Yn 么l Euros Lewis: 鈥淣i am gyfeirio'n 么l at pan gaewyd yr ysgol yn y lle cyntaf gan fod prinder o deuluoedd ifanc a phlant yn y pentref.

"Ni am ddangos bod Cribyn yn lle da i fagu plant ac am gynnig y t欧 hwn fel t欧 fforddiadwy i deulu ifanc.鈥

Disgrifiad o'r llun, Roedd yna noson i lansio'r ymgyrch i godi arian dair wythnos yn 么l

Fel roedd yr ysgol yn ganolbwynt i鈥檙 gymuned ers talwm, bwriad y ganolfan, yn 么l Euros Lewis, yw cynnig yr un ffocws.

鈥淓rs y cyfnod Covid, mae angen y ganolfan 鈥檓a hyd yn oed yn fwy.

"Ni ddim jyst yn trio cynnal cymdeithas a chymdogaeth yma, ni hefyd am symud pethe 'ml芒n, am ei thyfu, gan ddenu pobl ifanc i fod eisiau byw yma, magu teulu yma, bod yn ran o gymdeithas naturiol Gymraeg.

"Ni hefyd am gynnwys mewnfudwyr, ond gyda鈥檙 Gymraeg yn arweiniol - mae hynny鈥檔 allweddol i ddod yn rhan o鈥檙 gymdeithas.鈥

Mae ceisio tynnu pawb at ei gilydd ac addysgu plant, pobl ifanc a mewnfudwyr am hanes yr ardal, ei daearyddiaeth, ei hiaith a鈥檌 diwylliant hefyd yn rhan o fwriad y ganolfan er mwyn magu鈥檙 syniad o berthyn i ardal.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r gymuned yn gwerthu cyfranddaliadau yn yr adeilad

Ychwanegodd Euros Lewis: 鈥淵n y cyfarfodydd trafod, roedd llawer yn gweld potensial y ganolfan hon i roi cyd-destun - yn amgylcheddol, byd natur a diwylliant - i blant a phobl ifanc a mewnfudwyr yr ardal, rhoi synnwyr o bwy ydyn nhw a lle maen nhw鈥檔 byw.鈥

Mae鈥檙 ceisiadau am arian cyhoeddus wedi'u cyflwyno ac mae鈥檙 gr诺p llywio wedi cael ymateb addawol gan swyddogion y cronfeydd sydd wedi ymweld 芒鈥檙 lle.

Maen nhw鈥檔 dawel hyderus y daw鈥檙 arian cyn mis Gorffennaf i brynu鈥檙 adeilad.