成人快手

Tafarn y Vale 'wrth eu bodd' gyda hwb 拢300,000

  • Cyhoeddwyd
Tafarn y ValeFfynhonnell y llun, Andrew Chittock
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r grant yn 'garreg filltir sylweddol' i'r fenter gymuned, medd Iwan Thomas

Roedd hi'n anodd i dafarn cymunedol yng Ngheredigion "gnoi tafod" ar 么l dysgu eu bod wedi derbyn hwb ariannol o 拢300,000.

"Ga'thon ni wybod yn hwyr wythnos ddiwetha'," medd Cadeirydd Tafarn y Vale, Iwan Thomas wedi i'r newyddion gael ei gyhoeddi fore Llun.

"Mae 'di bod yn eitha' anodd cnoi tafod dros y penwythnos!"

Mae'r dafarn yn cael ei rhedeg dan eiddo'r gymuned yn Nyffryn Aeron wedi iddyn nhw ei phrynu yn 2021.

Yn 么l Mr Thomas, mae'r fenter wedi taro "carreg filltir sylweddol" arall drwy sicrhau 拢300,000 o gronfa gymunedol Llywodraeth y DU.

Gwella hygyrchedd a chynaliadwyedd

Roedd yna dipyn o waith y tu 么l i'r llen wrth ymgeisio am y grant, medd Mr Thomas ar raglen Dros Frecwast.

"Mae lot o wirfoddolwyr arbennig o dda 'da ni - falle y'ch chi'n gweld nhw'n weithgar yn y dafarn yn tynnu peints - ond ma' gwaith sylweddol hefyd yn 'neud y ceisiadau."

Y bwriad ydy defnyddio'r arian er mwyn gwella'r safle i'r dyfodol.

"Ni eisiau gwella hygyrchedd, a gwneud y dafarn yn fwy cynaliadwy.

Ffynhonnell y llun, Menter Tafarn y Vale
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe wnaeth cymuned Dyffryn Aeron godi dros 拢300,000 er mwyn prynu'r dafarn yn 2021

"Edrych ar welliannau o ran ynysu, ffenestri - fel bod e'n llai gostus i'w rhedeg yn y dyfodol."

Hoffai Mr Thomas hefyd ddechrau'r ddarpariaeth fwyd ac ymestyn oriau agor y dafarn yn sgil y grant.

"Rydyn ni wrth ein boddau."

Fe wnaeth yr Aelod o'r Senedd lleol Ben Lake longyfarch y fenter ar eu cais llwyddiannus.

"Mae Tafarn y Vale, fel nifer o dafarndai gwledig eraill, yn ased hollbwysig i'r gymuned. Mae'n creu swyddi ac yn hybu'r economi leol, yn ogystal 芒 rhoi lle i bobl leol gymdeithasu a dod at ei gilydd."

Fe ddywedodd Ysgrifennydd Cymru bod Llywodraeth y DU yn "falch o helpu pobl gymryd reolaeth o'u hasedau lleol".

"Bydd cymunedau drwy Gymru yn trawsnewid wrth i'r gyllideb hon barhau," meddai David TC Davies.

Pynciau cysylltiedig