Gething: Gwariant iechyd Cymru i barhau'n uwch na Lloegr

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Os daw'n arweinydd Llafur Cymru, ni fydd gwariant y GIG yn gostwng i lefelau gwariant yn Lloegr, yn 么l Vaughan Gething
  • Awdur, Teleri Glyn Jones
  • Swydd, Gohebydd gwleidyddol 成人快手 Cymru

Ni fyddai gwariant ar iechyd a gofal yng Nghymru yn disgyn yn is na'r gwariant yn Lloegr, yn 么l addewid gan un o'r ymgeiswyr i fod yn brif weinidog nesaf Cymru.

Yn 么l Vaughan Gething, y gweinidog economi, mi fyddai hefyd yn diystyru preifateiddio'r gwasanaeth iechyd pe bai'n dod yn arweinydd Llafur Cymru.

Mae Mr Gething yn un o ddau weinidog Llywodraeth Cymru sy'n gobeithio olynu Mark Drakeford fel prif weinidog - y llall yw'r gweinidog addysg, Jeremy Miles.

Wrth lansio'i weledigaeth ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, dywedodd y cyn-weinidog iechyd y byddai'n "parhau yn nwylo'r cyhoedd".

'Canlyniadau iechyd sydd o bwys i bobl'

Mae hefyd disgwyl i Mr Gething wneud addewid na fyddai llywodraeth Lafur dan ei arweiniad yn gadael i wariant y pen ar iechyd a gofal cymdeithasol ddisgyn yn is na'r gwariant yn Lloegr.

Mae Cymru'n gwario 8% yn fwy'r pen na Lloegr ar iechyd, ac yn gwario 44% yn fwy ar wasanaethau gofal personol, yn 么l ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Vaughan Gething ei fod eisiau hyrwyddo model gofal iechyd sy'n cefnogi'r gwaith o leihau rhestrau aros

Mewn araith ar ymweliad 芒 Sir Benfro ddydd Gwener, mae disgwyl i Mr Gething ddweud: "Gan weithio gyda phartneriaid ar draws y sector iechyd, byddwn i鈥檔 hyrwyddo ledled Cymru model gofal iechyd sy鈥檔 seiliedig ar ganlyniadau a gydnabyddir yn rhyngwladol.

"Mae'r model hwn yn canolbwyntio ar gyflawni'r canlyniadau iechyd sydd o bwys i bobl.

"Mae'n canolbwyntio fel laser ar ganlyniadau a llais cleifion.

"Mae ehangu鈥檙 model hwn ar draws ein GIG yn addas ar gyfer anghenion Cymru, a bydd yn cefnogi鈥檙 gwaith brys o leihau rhestrau aros a helpu pobl i reoli cyflyrau cronig yn well.鈥

Mae hefyd disgwyl i Mr Gething s么n am ei brofiad ei hun fel claf pan gafodd ddiagnosis o glefyd yr arennau, o'r enw syndrom neffrotig, pan oedd yn 19 oed.

"Dim ond pan wnaeth cyffur roedd y GIG yn ei dreialu sefydlogi fy nghyflwr y gallais i edrych i'r dyfodol gyda theimlad o optimistiaeth unwaith eto.

"Fel i gynifer ohonom, roedd y GIG yno i mi pan oedd ei angen arnaf.

"Ac rwy鈥檔 addo y byddaf bob amser, bob amser yno i鈥檙 GIG.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd Jeremy Miles yn Wrecsam ddydd Gwener cyn lansiad swyddogol ei ymgyrch ddydd Sadwrn

Yn ystod ymweliad 芒 Wrecsam, dywedodd ei wrthwynebydd yn y ras i fod yn arweinydd ei fod o hefyd "yn angerddol yngl欧n 芒 chadw'r gwasanaeth iechyd mewn dwylo cyhoeddus".

Dywedodd Jeremy Miles y byddai'n dechrau trafodaethau newydd gyda chleifion, cyrff iechyd ac undebau iechyd am "sut i helpu'r gwasanaeth iechyd addasu ymateb i'r pwysau presennol a phwysau'r dyfodol".

"Mae fy mhrofiadau i a phrofiadau fy nheulu wedi dangos i mi pa mor hanfodol yw'r gwasanaeth iechyd i les pobl Cymru," meddai.

Wrth drafod gwariant ar iechyd a gofal cymdeithasol, dywedodd Mr Miles bod gwariant ar wasanaethau eisoes yn uwch na'r gwariant yn Lloegr, ac y byddai "bendant angen parhau gyda hynny yn y dyfodol".

Bydd Mr Miles yn lansio ei ymgyrch yn swyddogol ddydd Sadwrn.