成人快手

Gwasanaeth Iechyd: 'Cadw'r sioe i fynd sy'n bwysig'

  • Cyhoeddwyd
Eluned Morgan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Cadw'r sioe i fynd yw'r peth pwysicaf," medd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan

Does dim digon o gyllid ar gael i fuddsoddi mewn mesurau i wella iechyd y cyhoedd gan fod cymaint o arian yn cael ei wario i gynnal y gwasanaeth iechyd o ddydd i ddydd, medd y gweinidog iechyd.

Wrth siarad 芒'r 成人快手 dywedodd Eluned Morgan nad oedd y sefyllfa "yn ddelfrydol", ond mynnodd nad oedd ganddi ddewis oherwydd bod costau rhedeg y gwasanaeth wedi cynyddu cymaint - yn rhannol oherwydd chwyddiant.

Fe gafodd toriadau mawr eu gwneud i nifer o feysydd gwariant Llywodraeth Cymru yr wythnos hon er mwyn rhoi 拢450m yn ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

Mae'r gweinidog iechyd hefyd wedi gorfod dod o hyd i arbedion o'i chyllideb hi - sy'n cynnwys lleihau gwariant ar ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus, gan gynnwys atal ysmygu a gordewdra.

'Problem aruthrol'

"Dyw e ddim yn ideal ond ar hyn o bryd ry'n ni'n ceisio cadw'r sioe i fynd a hwnna yw'r peth pwysicaf," meddai.

"Os chi'n gofyn i bobl sy'n dioddef o ganser beth ddylai'r flaenoriaeth fod yna'r [gwasanaeth iechyd] fyddai hynny... dyna pam y flwyddyn yma mae rhaid i ni gadw'r sioe i fynd.

"Dwi'n gobeithio na welwn ni sefyllfa fel hyn yn y dyfodol... ma' chwyddiant wedi creu cymaint o drwbl i ni - er enghraifft 11% o gynnydd ym mhris meddyginiaethau.

"Ma' hwnna'n creu problem aruthrol pan nad oes 'na arian ychwanegol yn dod o San Steffan."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r ffigyrau diweddaraf wedi dangos bod mwy o driniaethau nag erioed eto i'w cwblhau

Daw'r sylwadau wrth i'r ystadegau diweddaraf ddangos fod rhestrau aros yng Nghymru wedi tyfu unwaith eto gyda 764,500 o driniaethau yn aros i gael eu cwblhau ym mis Hydref.

Ond mae'r ffigyrau yn dangos peth gwelliant diweddar ym mherfformiad unedau brys, y gwasanaeth ambiwlans ac amseroedd aros canser.

"Ar adeg yma o'r flwyddyn ddylen ni gymryd y positives o hyn a nodi bod 'na welliant wedi bod yn lot o'r ffigyrau 'dan ni 'di gweld," medd Eluned Morgan.

'Dechrau'r flwyddyn yn anodd'

Ond mae'r gweinidog iechyd yn cydnabod y bydd unedau brys a'r gwasanaeth ambiwlans yn wynebu wythnosau anodd iawn ar ddechrau'r flwyddyn newydd.

"Fe wnes i wario diwrnod ddoe gyda'r gwasanaeth ambiwlans yn gweld sut maen nhw'n ymdopi ar y rheng flaen, ac mae'r ffaith fod gyda ni 119 o staff ychwanegol yn y gwasanaeth yn ein helpu ni...

"Ond wrth gwrs ma' 'na sialens gyda ni o ran cael pobl allan o'r ysbyty."

Ym mis Tachwedd fe lwyddodd y gwasanaeth ambiwlans i ymateb i 49.5% o alwadau coch - lle mae bywyd mewn perygl - o fewn wyth munud.

Er bod hynny yn welliant o'i gymharu 芒 mis Hydref mae'n is o lawer na'r targed o 65%.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd meddygon iau Cymru ar streic am dridiau o 15 Ionawr

Mae Ms Morgan hefyd yn cydnabod y bydd streic gan feddygon iau am dridiau ganol mis Ionawr yn cynyddu'r straen ar nifer o wasanaethau iechyd.

Mae meddygon iau am weld eu cyflogau yn codi yn uwch na'r 5% sydd wedi cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru.

"Ges i gyfarfod gyda nhw wythnos diwethaf ac wrth gwrs ma' gen i lot o empathi gyda'u gofynion nhw," meddai.

"Y drafferth sy' gyda ni, fel ry'ch chi 'di gweld yr wythnos yma yn y gyllideb, yw does dim mwy o arian.

"Maen nhw [meddygon iau] yn deall hynny ond mae'n ddealladwy bod nhw hefyd yn frustrated gan bo' nhw ddim wedi gweld cymaint o gynnydd yn eu cyflogau nhw mewn cyfnod o chwyddiant 芒 fydden nhw wedi gobeithio cael."

'Streic meddygon iau i gael effaith'

Er bod byrddau iechyd yn cynllunio ar gyfer y gweithredu diwydiannol, mae Ms Morgan yn cydnabod y bydd y streic yn golygu gohirio rhai triniaethau ac y gallai rhestrau aros gynyddu o ganlyniad.

"Bydd hyn yn cael impact ar ein ffigyrau ni yn ystod yr wythnosau i ddod," meddai.

Yn 么l yr ystadegau diweddaraf mae 134,456 o achosion lle mae claf wedi aros dros flwyddyn am driniaeth, a 25,569 wedi aros dros ddwy flynedd - ffigwr sy'n llawer uwch nag yn Lloegr.

Ond mae'r gweinidog iechyd yn mynnu bod gwaith caled yn cael ei gyflawni i leihau'r niferoedd sydd wedi bod yn aros y cyfnodau hiraf.

"Ar gyfartaledd ma' pobl yng Nghymru yn aros 20 wythnos... yn amlwg ry'n ni wedi bod yn canolbwyntio ar y rhai sy'n aros hiraf," meddai.

"Rydyn ni hefyd wedi gweld gwelliant yn y ffigyrau sy'n ymwneud ag amseroedd aros canser a ma' hynny yn rhyddhad mawr i fi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gwrthbleidiau wedi beirniadu'r cynllun i leihau amseroedd fel "methiant truenus"

Ond yn 么l y Ceidwadwyr mae'r ystadegau iechyd diweddaraf yn "echrydus".

"Rwy'n annog gweinidogion Llafur i gael gwared ar eu cynlluniau ar gynyddu nifer y gwleidyddion yn y Senedd er mwyn blaenoriaethu adnoddau ar gyfer y gwasanaeth iechyd," meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor, bod y cynllun i leihau amseroedd aros wedi bod yn "fethiant truenus".

"Mae Plaid Cymru wedi galw'n barhaus am chwyldro i fynd i'r afael 芒'r materion cronig sy'n difrodi ein gwasanaeth iechyd ac i fuddsoddi yn y gweithlu, i greu gwasanaeth iechyd a gofal mwy cadarn," meddai.

Dywedodd Cydffederasiwn y GIG, sy'n cynrychioli byrddau iechyd yng Nghymru, fod y ffigyrau diweddaraf yn ddarlun cymysg ac yn dangos galw aruthrol.

"Byddwn i'n gofyn i wleidyddion yng Nghaerdydd a San Steffan atal chwarae'r g锚m wleidyddol o feio ei gilydd," meddai'r cyfarwyddwr Darren Hughes.

"Mae'r galw ar wasanaethau iechyd yn uchel ar draws y DU a'r sefyllfa ariannol yn heriol iawn.

"Mae staff yn gweithio'n ddiflino i roi'r gofal gorau i bobl."